Corau'n 'siomedig' am gostau perfformio mewn gŵyl gydag Andrea Bocelli

Y tenor byd enwog Andrea Bocelli sy'n perfformio yng Nghaerdydd fis Mai 2027
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd prinder lleisiau mewn gŵyl gorawl yn Stadiwm Principality y flwyddyn nesaf, gan fod yn rhaid i gorau dalu miloedd o bunnoedd i gymryd rhan.
Bydd Gŵyl Gwlad y Gân fis Mai nesaf yn cynnwys penwythnos o gyngherddau, gan gynnwys un cyntaf y tenor Eidalaidd Andrea Bocelli yng Nghymru.
Ond mae corau'n tynnu'n ôl o ail noson y cyngherddau, Côr World Choir, oherwydd y costau uchel o gofrestru.
Nod trefnwyr Gŵyl Gwlad y Gân ydy ailgreu cyngherddau Côr y Byd gafodd eu cynnal ar Barc yr Arfau yn 1992 a 1993.
Mae trefnwyr Côr World Choir a Stadiwm Principality wedi cael cais am ymateb.
'Erioed wedi gorfod talu o'r blaen'
"Doedden ni ddim yn gallu credu'r peth," meddai Huw Watkins o Gôr Meibion Glyn-nedd, gan ychwanegu: "Dydyn ni erioed wedi gorfod talu unrhyw beth o'r blaen i gymryd rhan."
Mae'r ŵyl ym mis Mai'r flwyddyn nesaf yn cael ei marchnata fel "un o ddigwyddiadau canu torfol mwyaf y byd".
Bydd Andrea Bocelli yn ymddangos ddydd Sadwrn, gyda hyd at 20,000 o gantorion yn cymryd rhan ddydd Sul.
Mae gwefan yr ŵyl yn nodi'r costau, gyda phob côr yn talu tanysgrifiad o £150.
Yn ogystal, mae'n rhaid i bob aelod o'r côr dalu £42 ychwanegol, sy'n golygu y bydd rhai corau'n gorfod talu miloedd o bunnoedd i gymryd rhan.

Ni fydd côr Huw Watkins yn cymryd rhan oherwydd y gost
Pe bai Côr Meibion Glyn-nedd wedi anfon tua 20 aelod, byddai wedi costio tua £1,000 iddyn nhw ganu.
Byddai'r côr hefyd wedi gorfod talu cannoedd o bunnoedd am logi bws, gyda rhai corau fyddai â thaith hirach yn wynebu costau llety hefyd.
"Mae'n debyg, os ydych chi eisiau copïau papur o'r gerddoriaeth, bod rhaid talu am hynny hefyd," meddai Huw.
"Mae rhywun yn gwneud lot o arian o hyn."
'Byddai wedi bod yn brofiad'
Dywedodd Huw fod rhai o aelodau newydd y côr yn "siomedig" na fyddan nhw'n gallu cymryd rhan mewn digwyddiad o'r maint yma.
"Byddai wedi bod yn brofiad i'r cantorion newydd.
"Dydy'r math yma o gyfle ddim yn dod yn aml iawn, yn enwedig yn Stadiwm Principality.
"Mae siawns dda na fydd y digwyddiad yn mynd yn ei flaen."

"Roedd pris cofrestru'r côr yn iawn ond costau unigol oedd yn ormod," yn ôl ysgrifennydd Côr Merched Treforys
Er y bu ganddyn nhw ddiddordeb yn wreiddiol, roedd y costau yn rhy uchel i aelodau Gôr Merched Treforys.
"Wedi cyhoeddi'r costau fe wnaethon ni dynnu allan yn syth," meddai Rhian Williams, ysgrifennydd y côr.
"Ni wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau fel yma o'r blaen ac wedi talu costau trafnidiaeth ein hunain.
"Roedd pris cofrestru'r côr yn iawn ond costau unigol oedd yn ormod."
Mae Côr Merched Treforys yn dathlu 85 mlynedd ers ei sefydlu a'r arweinydd yn dathlu 50 mlynedd wrth y llyw.
"Byddai wedi bod yn neis cymryd rhan mewn digwyddiad fel yma, ond yn anffodus roedd cost o wneud hynny yn ormod," meddai Rhian.
'Fel arfer ni sy'n cael ein talu'
Mae tua 40 o gorau a grwpiau canu wedi mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i ddweud na fyddan nhw'n cymryd rhan yn y digwyddiad.
Côr arall sydd wedi ailfeddwl ydy Côr Meibion Llantrisant, sydd â 78 aelod, oedd wedi talu'r ffi gofrestru ond wedi tynnu'n ôl ers gweld y ffi o £42 i bob aelod.
"Ar ôl talu am gofrestru, doedd dim cyfathrebiaeth gan y trefnwyr ynglŷn â beth fydden ni'n ei ganu, na faint o ymarfer oedd ei angen," meddai Colin Williams o'r côr.
"Y peth nesaf welson ni oedd ar y cyfryngau cymdeithasol lle roedden nhw'n codi £42 ar bob aelod i ganu, sydd erioed wedi digwydd o'r blaen.
"Rwyf wedi bod yn canu yn y côr ers 44 blynedd ac erioed wedi gorfod talu i berfformio - fel arfer ni sy'n cael ein talu i wneud.
"Fe wnaethon ni rannu'r wybodaeth yn ein grŵp WhatsApp, ac roedd yr ymateb yn unfrydol, doedd pobl ddim eisiau cymryd rhan."
Mae Stadiwm Principality a threfnwyr Gŵyl Gwlad y Gân wedi cael cais i ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.