Gwartheg yn helpu i achub iâr fach yr haf brin

Mae'r fritheg frown yn brin bellach
- Cyhoeddwyd
Roedd ieir bach yr haf coch a brown i'w gweld yn gyson yng Nghymru ond erbyn heddiw mae'r fritheg frown (high brown fritillary) ymhlith y rhai mwyaf prin ym Mhrydain - gyda'r nifer wedi gostwng 62% ers 1970.
Un o'r rhesymau am hynny yw bod ganddyn nhw anghenion penodol.
Dywedodd Paul Dunn bod y frithen frown yn hynod o ffyslyd. Mae e wedi bod yn gweithio ers 30 mlynedd yn Old Castle Down ger Pen-y-bont ar Ogwr i geisio sicrhau bod mwy yn goroesi.
Ers degawd mae'r nifer yn y rhan hon o Gymru wedi cynyddu rywfaint.
'Mae torri rhedyn yn hanfodol'
Mae Mr Dunn ac eraill wedi dod i'r casgliad bod cael gwartheg yn pori ar y safle o gymorth.
"Mae'r math yma yn prinhau bron ymhobman ym Mhrydain, ond eto mae'n edrych fel ein bod yn llwyddo yma," meddai Mr Dunn.
Mae'r fritheg frown angen cyfuniad o redyn a fioled.
"Yn draddodiadol roedd rhedyn yn cael eu defnyddio fel gwely i anifeiliaid, ond mae llai a llai o bobl yn e defnyddio rhedyn bellach gan eu bod yn gallu cael gwellt," meddai Richard Smith, sydd wedi gweithio gyda Paul ers y dechrau yn 1993.

Am y tro cyntaf ers hanner canrif mae yna anogaeth i'r rhai sydd â hawliau pori ar y tir comin i adael eu gwartheg i bori yno.
"Mae gwartheg yn wych oherwydd eu bod yn sathru'r rhedyn heb eu dileu'n llwyr, ac yn creu tir anwastad - mae hyn yn fuddiol hefyd gan ei fod yn creu mannau bach lle gall y tymheredd fod yn uwch," ychwanegodd Richard Smith.
Gan ei fod yn dir comin, nid oes ffensys. Felly, fel rhan o gyllid grant y Loteri Genedlaethol, mae'r tîm wedi cael coleri â phaneli solar ar gyfer y gwartheg i greu ffin "pori heb ffensys" er mwyn atal y gwartheg rhag crwydro oddi ar y tir.

Mae degau o flynyddoedd o waith wedi mynd i geisio gwarchod Old Castle Down as fel cartref olaf y math hwn o bili-pala yng Nghymru
Ers yr 11 mlynedd diwethaf, mae Dot Williams wedi dod yn rhan annatod o'r grŵp ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
"Ar ôl i fy ngŵr farw roedd yn rhaid i fi fynd allan a gwneud rhywbeth, felly fe wnes i fynd ynghlwm gyda'r Wildlife Trust, a chwrdd â Richard a Paul a'r Gadwraeth Pili palas.
"Rydym yn grŵp cymdeithasol - y grŵp pili pala sydd wedi dod â ni at ein gilydd ond mae wedi dod yn rhywbeth lot mwy na hynny," meddai.
Yn ystod y deg mlynedd diwethaf mae 37 rhywogaeth o ieir bach yr haf wedi'u gweld yn yr ardal ac mae nifer y frithen frown wedi cynyddu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.