Degau yn ceisio rheoli tân yn y gogledd ddwyrain

Y tânFfynhonnell y llun, Kate Moore
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd criwiau eu galw i'r digwyddiad yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd

Mae 75 o weithwyr y gwasanaeth tân yn ceisio diffodd fflamau mewn iard sgrap yn y gogledd ddwyrain.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod criwiau wedi cael eu galw i'r digwyddiad yn Nhalacre yn Sir y Fflint.

Dywed fod 75 o aelodau o'r gwasanaeth tân a phartneriaid yn gweithio'n galed i geisio rheoli'r sefyllfa.

Mae'r gwasanaeth wedi gofyn i aelodau'r cyhoedd i osgoi'r ardal ac i gadw lonydd gerllaw yn glir.

Maen nhw hefyd yn annog unrhyw un sy'n gallu arogli mwg i gadw eu drysau a'u ffenestri ar gau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.