Dathlu rhedeg 1km am bob gôl Cwpan y Byd... gyda'i 333 o goliau!

- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gaernarfon yn dathlu gorffen ei sialens o redeg cilomedr am bob gôl gafodd ei sgorio yng Nghwpan y Byd 2026 - y twrnamaint efo'r nifer fwyaf o goliau yn ei hanes.
Ac ar ddiwrnod gêm Lloegr v Ffrainc roedd Matthew Roberts yn rhedeg Ras yr Wyddfa - ac felly'n gorfod rhedeg mwy na'r disgwyl y diwrnod canlynol wedi i'r Saeson ennill 6-4.

Matthew Roberts yn gorffen Ras yr Wyddfa, diwrnod gêm trydydd safle a diwrnod cyn rownd derfynol Cwpan y Byd
Roedd yr athro wedi penderfynu gwneud y sialens dros gyfnod y bencampwriaeth er mwyn codi arian at elusen iechyd meddwl dynion.
Ond tra bod 172 o goliau wedi eu sgorio yn y 64 o gemau yn y Cwpan y Byd diwethaf yn Qatar yn 2022, roedd disgwyl mwy o goliau eleni gan fod mwy o wledydd yn cystadlu.
Ac ar ben yr holl goliau a gafodd eu sgorio yn y 40 gêm ychwanegol, Cwpan y Byd 2026 oedd efo'r nifer uchel o goliau i bob gêm - 2.96 - ers 1966.
Felly gan gynnwys ciciau o'r smotyn, roedd yn rhaid i Matthew redeg 333 cilomedr mewn 35 o ddiwrnodau.
Diolch i Panama am beidio sgorio
"Yn ystod yr her roedd y coesa' reit dda ond nesh i 'neud Ras yr Wyddfa ar y dydd Sadwrn sydd newydd fod ac ar ôl hwnna dwi'n meddwl bod y coesa'n brifo dipyn bach mwy," meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"Digwydd bod doedd 'na ddim gêm yn disgyn ar y dydd Gwener diwrnod cyn Ras yr Wyddfa ac roedd o'n rhywbeth o'n i 'di seinio fyny ar gyfer yn barod.
"Roedd [gêm Lloegr v Ffrainc] ar ôl Ras Wyddfa ac efo'r coesau'n brifo ar ôl y ras gesh i sioc fawr fod 'na 10 gôl - ac felly 10 cilomedr i neud diwrnod wedyn."

Ond tra bod rhai canlyniadau wedi arwain at fwy o redeg y diwrnod canlynol - gan gynnwys 23 gôl yn cael eu sgorio ar 26 Mehefin - roedd Matthew yn ddiolchgar am gemau eraill.
Meddai: "Nesh i weld bod Panama heb sgorio gôl o gwbl [yn ystod yr holl dwrnamaint] felly diolch iddyn nhw am beidio sgorio neu faswn i wedi gorfod 'neud mwy o redeg."
Caniatáu cynnwys TikTok?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan TikTok. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis TikTok, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Matthew, oedd yn dogfennu'r cyfan ar ei gyfrif TikTok, bellach wedi casglu £1600 at achos da ac yn diolch i bawb sydd wedi cyfrannu.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC yn ystod ei sialens, meddai: "O'n i 'di gneud ymchwil, ac mae 'na elusen o'r enw Helpu Cymru sy'n helpu dynion ledled Cymru gyda'u hiechyd meddwl, drwy gynnig cefnogaeth, cymuned i siarad a rhannu profiadau, a rhywun i wrando.
"Ac o'n i'n meddwl, fel dynion, 'dan ni angen cael gwared o'r stigma o 'rhaid i ni fod yn gryf drwy'r amser, a ddim dangos emosiwn'. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni rannu ein teimladau."
Ond tydi o ddim yn gallu cael seibiant eto, gan ei fod wedi cofrestru i redeg Ras y Trên yng Nghaernarfon ychydig ddyddiau wedi iddo gwblhau ei sialens.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd24 Ebrill

- Cyhoeddwyd13 Mai
