Y Peth gan Gweni - stori fuddugol Radio Cymru

Gweni
- Cyhoeddwyd
Gweni o Ysgol Pentrefoelas yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar BBC Radio Cymru eleni.
Daeth Gweni yn fuddugol yn y gystadleuaeth i flynyddoedd dau, tri a phedwar.
Yn ôl y beirniad Siôn Tomos Owen, sef Bardd Plant Cymru, roedd stori Gweni "yn wahanol iawn i'r gweddill".
Ychwanegodd: "Mae yna rywbeth arbennig am stori Gweni. Byddai'n gwneud rhifyn ardderchog o raglen Deian a Loli."
Fel gwobr, fe luniodd yr artist Bethan Mai lun clawr i stori Gweni.
Mwynhewch stori Gweni, Y Peth.
Y Peth gan Gweni

Beth yn y byd oedd Y Peth? A phwy yn union oedd wedi ei weld? Dim ond fideos o'r peth hwn yn torri trwy'r ddaear fel twrch daear oedd yn bodoli.
Wel dim ond fideos oeddwn i wedi ei weld tan y diwrnod pan welais i'r Peth a'r holl bethau yr oedd o'n ei weld gyda fy Ilygaid fy hun.
Dechreuodd y diwrnod fel unrhyw benwythnos arall.
Roedd Dad yn tacluso'r garej, ei hoff le yn y byd ac roedd Mam eisiau i fi helpu dacluso'r tŷ, eto fyth!
Yna clywais floedd enfawr - Mam yn gweiddi nerth ei phen, "Begw!"
Rhedais i'r gegin ar wib a dyna lle roedd Mam ar ei gliniau o dan y bwrdd.
"Mam, beth wyt ti'n ei wneud o dan y bwrdd?" gofynnais.
"Dwi wedi colli fy modrwy briodas. Does dim sôn amdani," dywedodd Mam yn ddagreuol.
Chwiliais ymhob twll a chornel ond heb unrhyw lwc. Yna rhewais gyda fy ngheg yn agored fel ogof.
Cofiais am y sŵn tinctan rhyfedd yn dod o'r hwfyr wrth i mi hwfro bore 'ma . Sbeciais i mewn i'r beipen ac roeddwn yn gweld rhywbeth aur yn disgleirio... modrwy briodas Mam. Dechreuodd y byd droi ac fe sugnodd yr hwfyr fi i mewn i'w fol.
WWSSHHH. Gwelais y peth rhyfeddaf yn y byd, rhyw fwystfil â phump llygad a thair llaw fel tiwbiau hirion.
Sylwais yn syth ar fodrwy briodas Mam o gwmpas ei wddwf.
"Pwy wyt ti a beth wyt ti'n meddwl wyt ti'n ei wneud gyda modrwy Mam?"
Yna o gornel fy Ilygad sylwais ar fwy o bethau cyfarwydd. Roedd wedi dwyn fy nghadwen, roedd hosan smotiog fy mrawd fel rhyw fath o garped ar y llawr a hoff ddwmi fy chwaer fel rhyw fath o sedd.
"Wel, fi ydi Llwchyn a fi ydi'r casglwr gorau yn y plwy'. Mwy, mwy, mwy, dw isio mwy. Dw i eisiau popeth yn y plwy'!"
Edrychais arno gyda fy ngheg ar agor a dechreuodd yr hwfyr droi unwaith eto... a dyma ni'n cyrraedd y lle rhyfeddaf ar y ddaear.
Roedd twneli ym mhobman a mwy a mwy o fwystfilod bach yn union fel Llwchyn, fel morgrug prysur o gwmpas y lIe.
Dilynais i o gwmpas a gweld pob math o bethau. Roedd rhai yn hollol gyfarwydd fel y deis coll roeddwn wedi ei ddefnyddio wrth chwarae gêm yn nhŷ fy ffrindiau Glesni ac Anni, a hyd yn oed pêl fach Mursen, cath drws nesaf.
"Beth ydech chi'n 'neud? Mae yna bobl wedi bod yn chwilio am rhein ers wythnosau?"
"Wel, ni ydi Casglwyr Eryri. Mae un ohonan ni ymhob plwy' a dw i eisiau mwy." atebodd Llwchyn yn farus.
"Ond dwyn ydi hyn, does dim angen i chi ddwyn" atebais.
Yna, cofiais am bentwr anferth Dad tu allan y garej, yr holl drugareddau fel trysor i rywun arall a chefais syniad.
"Wel, mae gan Dad bentwr yn barod i fynd i'r ganolfan ailgylchu."
Goleuodd wyneb Llwchyn. Ar ôl hynny, newidiodd ei bennill i "Ailgylchu, ailddefnyddio sy'n bwysig yn y plwy'."
Roedd holl drugareddau'r pentref yn saff a modrwy Mam yn ddiogel. Doedd neb yn ofni'r Peth ddim mwy.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd26 Mawrth

- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
