Dynes i wneud her eithriadol i ddiolch am driniaeth merch fach o Sir Gâr

Hannah-Mae SamsonFfynhonnell y llun, Hannah-Mae Samson
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Hannah-Mae Samson yn gobeithio nofio hyd pwll Crymych 440 o weithiau, seiclo 200 milltir, a rhedeg 50 milltir

GanGwydion ap Llyr Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Gilgerran yn Sir Benfro yn gobeithio cwblhau her triathlon eithriadol o anodd, er mwyn codi arian i ddiolch am y driniaeth a gafodd merch fach gan ysbyty.

Cafodd Efa o Sir Gâr - sydd bellach bron yn ddwy oed - ddiagnosis o gyflwr difrifol ar ei phenglog pan roedd hi'n fabi naw mis oed.

Fe gafodd "ofal arbennig" yn Ysbyty Plant Birmingham ac mae Hannah-Mae Samson - cyfnither i fam Efa - yn bwriadu cwblhau her anferth ddydd Gwener er mwyn ceisio codi arian i'r ysbyty.

Am 06:00 roedd Hannah, 34, yn dechrau ar ei thaith o nofio 11 cilometr (saith milltir) a seiclo 322 cilometr (200 milltir), cyn gorffen trwy redeg 80 cilometr (50 milltir).

Gan gychwyn ym mhwll nofio Canolfan Hamdden Crymych, mae Hannah yn credu y gallai hyd y triathlon fod yn record byd i ferched - er nad yw'n ymgais swyddogol.

Dywedodd wrth Cymru Fyw mai dyma fydd yr her anoddaf iddi geisio erioed, "yn gorfforol ac yn feddyliol".

Esboniodd Rachel Powner, mam Efa eu bod methu â phwysleisio digon "pa mor ddiolchgar y'n ni i Hannah am godi pres i'r ysbyty".

EfaFfynhonnell y llun, Rachel Powner
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rachel fod Efa (uchod) yn siaradus ac yn "datblygu'n dda", ers ei thriniaeth ym mis Hydref 2025

Cafodd Efa ddiagnosis o craniosynostosis pan roedd hi'n fabi naw mis oed.

Mae'n gyflwr prin sy'n cael effaith ar esgyrn y penglog, gan achosi iddo beidio â thyfu'n iawn.

Dywedodd Rachel, mam Efa a chyfnither i Hannah, iddi dderbyn "gofal arbennig" gan Ysbyty Plant Birmingham, a bod yr ysbyty yn dibynnu'n fawr ar roddion gan y cyhoedd.

Eglurodd bod Efa wedi derbyn triniaeth "major" ar ei phen, wnaeth bara tua saith awr, ac y bydd hi'n cael "checks pob tair blynedd nawr nes ei bod hi'n 15 oed".

Huw Jones, Efa, Rachel Powner ac AlfieFfynhonnell y llun, Rachel Powner
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu o'r chwith: Huw Jones, Efa, Rachel Powner ac Alfie y mab

Yn ddwy oed fis Medi yma, dywedodd Rachel fod ei merch yn "datblygu'n dda" gyda chefnogaeth, a bellach yn siaradus iawn ers ei thriniaeth fis Hydref y llynedd.

Mae'r teulu yn byw ger Llandysul yn Sir Gaerfyrddin.

"Mae beth mae Hannah yn ei wneud yn meddwl shwd gymaint i ni," meddai.

"Ni mor ddiolchgar iddi am godi pres i'r elusen, ar ôl gweld y gwaith amazing maen nhw'n ei 'neud."

Ychwanegodd ei bod hi hefyd yn ddiolchgar iawn am y cyfle i godi ymwybyddiaeth o craniosynostosis, gan ei fod yn gyflwr prin a nifer ddim yn gwybod amdano.

Hannah-Mae SamsonFfynhonnell y llun, Hannah-Mae Samson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah yn hyfforddi tua dwywaith y diwrnod

Esboniodd Hannah ei bod wedi gweithio'n galed iawn ar gyfer y diwrnod mawr.

Mae ganddi hyfforddwr ac ar "wythnosau haws" fe fu hi'n treulio o leiaf 10 awr yr wythnos yn ymarfer.

"Yr wythnos galetaf i fi ymarfer - ro'dd e'n floc gyda 23 awr ynddo fe i gyd," meddai.

Hannah-Mae SamsonFfynhonnell y llun, Hannah-Mae Samson
Disgrifiad o’r llun,

Plymwr ydy galwedigaeth Hannah o ddydd i ddydd

Eglurodd Hannah ei bod yn hyfforddi tua dwywaith y diwrnod, ond hyd yn oed ar ei "dyddiau gorffwys" - nid yw'n ymlacio'n llwyr.

"Plymar ydw i - ddim yn joben gyffredin ymysg merched - felly pan fi'n cael diwrnod gorffwys, fydda' i'n plymo!

"Ma'n helpu 'da ymarfer cryfder!" meddai, gan chwerthin.

Hannah-Mae SamsonFfynhonnell y llun, Hannah-Mae Samson
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ei thaith ar gefn beic yn mynd o amgylch Sir Benfro a rhannau o Sir Gâr

Mae Hannah wedi bod yn gwneud heriau triathlon ers ychydig flynyddoedd bellach, ac wedi cymryd rhan mewn digwyddiad Ironman y llynedd hefyd.

Ond wedi datblygu ei ffitrwydd ers y cyfnod clo y mae hi, meddai, gan ychwanegu y byddai "rhedeg 5k wedi bod yn anodd cyn hynny!"

Casglu arian at Ysbyty Plant Birmingham ac Elusen Profedigaeth Sandy Bear ydy'r nod - "dwy elusen arbennig iawn".

'Sioc clywed faint sydd wedi cael help'

"Chi byth yn gwbo' pryd fydd rywun angen help - mae'r elusennau 'ma angen cefnogaeth," meddai Hannah, gan sôn hefyd fod Sandy Bear yn lleol i Sir Benfro.

Pwrpas Sandy Bear ydy cefnogi plant a phobl ifanc sy'n cael profedigaeth ar ôl colli aelod agos o'r teulu, neu bobl arbennig eraill yn eu bywyd.

Dywedodd iddi gael "sioc gyda faint o bobl yn lleol sydd wedi dweud wrtha' i eu bod wedi cael help ganddyn nhw".

Huw Jones, Efa, Alfie ac Rachel PownerFfynhonnell y llun, Rachel Powner
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel a'i phartner Huw yn bwriadu rhedeg gyda Hannah am gyfnod i ddangos cefnogaeth

Ychwanegodd Hannah ei bod "'di cael lot o gefnogaeth gan y teulu - ma' Rachel wedi bod yn dda iawn ac wedi neud her ei hunan 'fyd".

Cerddodd Rachel 100 milltir ym mis Mai - rhywbeth y gwnaeth hi er mwyn mynegi diolchgarwch ei theulu at Hannah a "chodi sylw i'w her", meddai Rachel.

"Cerdded 100 milltir ac yn edrych ar ôl plant - mae'n dipyn o motivation - iddi roi amser fyny i 'neud 'na!" meddai Hannah am Rachel.

Hannah-Mae SamsonFfynhonnell y llun, Hannah-Mae Samson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hannah ei bod yn gwneud heriau triathlon ers ychydig flynyddoedd bellach

Gobaith Rachel a'i phartner Huw Jones ydy rhedeg ychydig o'r her gyda Hannah hefyd, er mwyn dangos cefnogaeth a rhoi hwb iddi.

Mae hi'n gobeithio gorffen ei thriathlon mewn tua 30 awr, gan ddod am y terfyn tuag amser cinio ddydd Sadwrn.

"Bydd yn golygu nosweithiau digwsg a thua 30 awr o ymdrech ddi-baid," meddai.

"Ond os nad yw her yn dy ddychryn di, yw hi'n her go iawn?!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig