Mewn coma a 'methu cofio ei henw' ar ôl gwrthdrawiad sgwter yn India

Llun o Olivia NorthFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Olivia North yn teithio'n ôl adref ddiwedd yr wythnos - fis ar ôl y gwrthdrawiad yn India

  • Cyhoeddwyd

Mae myfyriwr o Gaerdydd yn paratoi i ddod adref fis ar ôl dioddef anaf difrifol i'r ymennydd wedi gwrthdrawiad sgwter yn India.

Doedd Olivia North, 21, ddim yn gallu adnabod rhai aelodau o'r teulu nac yn cofio ei henw wedi'r gwrthdrawiad yn Goa ar noson olaf ei gwyliau ar 5 Mai.

Roedd gan Olivia gleisiau enfawr a datgelodd sganiau MRI ei bod wedi cael anaf difrifol i'r rhan o'r ymennydd sy'n gyfrifol am storio atgofion, yn ogystal â'i serebelwm, sy'n rheoli cyfeiriadedd a chydbwysedd.

Er bod meddygon yn dweud ei bod yn iawn i deithio'n ôl ddiwedd yr wythnos, mae Olivia yn dal i ddioddef o flinder ofnadwy ac nid yw'n gallu cerdded llawer mwy na 100 metr "heb orffwyso am weddill y dydd".

Llun o Olivia NorthFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Olivia wedi bod mewn coma am 36 awr erbyn i'w thad wybod am y gwrthdrawiad

Dywedodd ei thad, Nic, ei bod yn teithio'n ôl i'w gwesty ar ôl gweld ffrindiau ac yna ei bod wedi'i "chanfod yn anymwybodol ar ôl taro ei phen ar y ffordd neu yn erbyn wal".

"Doedd hi ddim yn gwisgo helmed - sy'n hollol wirion. Os daw rhywbeth o hyn, dwi eisiau i bob plentyn wisgo helmed."

Fe wnaeth y teulu golli cysylltiad gydag Olivia ar ôl y gwrthdrawiad, a dywedodd ei thad ei fod mewn panig yn ffonio ei ffrindiau a gwestai cyn darganfod ei bod mewn coma mewn uned gofal dwys.

"Roedd hi wedi dechrau dod yn ymwybodol eto ond wnaeth hi syrthio'n ôl i mewn i'r coma," meddai Nic.

"Roedd ganddi waedlif ar ei hymennydd yn mesur 3.6mm - clywed hynna [dros y ffôn] oedd y peth mwyaf brawychus.

"Wnaethon nhw ddweud os nad oedd y gwaedu yn stopio o fewn cwpl o ddiwrnodau y byddai'n rhaid iddyn nhw ddrilio i mewn i'w phen."

Llun o Olivia NorthFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae atgofion Olivia yn dechrau dod yn ôl, meddai Nic

Fe wnaeth Nic a chwaer Olivia, Beatrice, hedfan i India cyn gynted â phosib - heb wybod be fyddai ei chyflwr erbyn iddyn nhw gyrraedd.

Yn ffodus, roedd meddyginiaeth wedi lleihau'r gwaedu, ac nid oedd angen llawdriniaeth ar yr ymennydd.

"Pan gyrhaeddon ni yna ddydd Sadwrn, pedwar diwrnod yn ddiweddarach, doedd hi ddim yn cofio ei henw ei hun," meddai ei thad.

"Ond fe wnaeth hi adnabod ni, a chawson ni gwtsh llawn dagrau am amser hir iawn."

Dywedodd Nic ei fod yn edrych ymlaen at gael ei ferch yn ôl adref ac mae'n gobeithio y bydd bod mewn lleoliad cyfarwydd a chael gofal ga GIG Cymru yn cyflymu ei hadferiad ymhellach.

"Mae ei hatgofion yn dechrau dod yn ôl," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.