Lluniau: Crysau pêl-droed cofiadwy Cymru

Dyma'r crysau arbennig y bydd Cymru yn eu gwisgo yn erbyn Ghana
- Cyhoeddwyd
Wrth i dîm pêl-droed dynion Cymru baratoi i wynebu Ghana mewn gêm gyfeillgar, fe fydd y chwaraewyr yn gwisgo crys arbennig wrth gamu ar y cae.
Mae'r crys coch wedi'i ddylunio i nodi 150 mlynedd ers sefydlu'r Gymdeithas bêl-droed, a hynny ym mis Chwefror 1876.
Mae sawl crys trawiadol wedi ei wisgo gan chwaraewyr a chefnogwyr Cymru dros y degawdau, a dyma ddetholiad ohonyn nhw. Pa un yw eich ffefryn chi?
Cartref 1957

Ivor Allchurch yn gwisgo crys Cymru yn 1957
Cartref 1976-79

John Toshack a chrys Admiral 1976-79
Cartref 1980-83

Brian Flynn yn gwisgo crys coch Adidas yn 1980
Gôl-geidwaid 1983

Neville Southall a chrys melyn a du i'r gôl-geidwaid
Cartref 1987-90

Ian Rush cyn gêm yn 1988, yn gwisgo crys eiconig Hummel
Oddi cartref 1993-95

Mark Hughes ac Ian Rush yn gwisgo crys 'Dewi Sant' fel yr oedd yn cael ei alw, yn ystod ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd America yn 1994
Cartref 1994-96

Y diweddar Gary Speed yng nghrys Umbro 1995
Oddi cartref 1994-96

Mark Pembridge a chrys oddi cartref yn ystod ymgyrch i gyrraedd Euro 1996
Cartref 1996-98

Chris Coleman a chrys Lotto yn ymgyrch Cymru i geisio cyrraedd Ffrainc 1998
Oddi cartref 1996-98

Roedd y crys gwyn hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn gemau oddi cartref yn ystod yr ymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd yn Ffrainc yn 1998

Cafodd y crys gwyrdd oddi cartref ddim ei wisgo'n gyson, ond daeth i amlygrwydd mewn gêm yn erbyn Tunisia yn 1998
Cartref 2002-04

Cafodd y crys yma gan Kappa ei wisgo yn y gêm gofiadwy a'r fudugoliaeth yn erbyn yr Eidal yn 2002
Cartref 2004-06

Crys a oedd â golwg glasurol gafodd ei ddefnyddio rhwng 2004 ac 2006
Oddi cartref 2006-07

Y cit melyn ar fachgen ifanc o'r enw Gareth Bale yn ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru

Cymru yn eu trydydd cit y flwyddyn honno, a wisgwyd yn erbyn Seland Newydd
Oddi cartref 2012-13

Crys hanner gwyn a hanner gwyrdd gafodd ei wisgo yn erbyn Croatia yn 2012
Cartref Euro 2016

Dyma'r crys coch a wisgodd y criw yn ystod Euro 2016 yn Ffrainc
Oddi cartref 2016

Ai dyma'r crys fwyaf anlwcus erioed i Gymru wiso? Colli oedd hanes Cymru yn erbyn Lloegr a Portiwgal tra'n gwisgo'r crys llwyd
Oddi cartref 2022

Jonny WIlliams yn gwisgo'r crys melyn oddi cartref yn 2022
Cartref 2024

Dan James yn gwisgo'r crys coch yn 2024
Oddi cartref 2024-26

Wes Burns a chrys melyn oedd yn boblogaidd iawn gyda'r cefnogwyr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd27 Ebrill
