Roberts a Davies yn ôl yng ngharfan Cymru i herio Ghana a Romania

Mae Connor Roberts wedi ennill 63 cap dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r amddiffynnwr Connor Roberts yn ôl yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf mewn blwyddyn ar gyfer y gemau cyfeillgar yn erbyn Ghana a Romania fis nesaf.
Mae Roberts, sy'n chwarae i Burnley, wedi bod yn absennol dros y 12 mis diwethaf oherwydd anaf.
Mae'r capten Ben Davies hefyd yn dychwelyd ar ôl colli'r pedair gêm ryngwladol ddiwethaf.
Mae'r gemau cyfeillgar - gartref yn erbyn Ghana ar 2 Mehefin ac oddi cartref yn Romania ar 6 Mehefin - yn rhan o baratoadau tîm Craig Bellamy ar gyfer ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd, fydd yn dechrau yn yr hydref.
Y gêm yn erbyn Ghana fydd y tro cyntaf i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd, a'r tro cyntaf i wlad o Affrica chwarae gêm ryngwladol dynion yng Nghymru.
Y gêm yn erbyn Romania yn Bucharest fydd y tro cyntaf i'r ddau dîm gwrdd ers 1993.
Y garfan yn llawn
Karl Darlow (Leeds United), Danny Ward (Wrecsam), Tom King (Everton), Jay Dasilva (Coventry City), Rhys Norrington-Davies (Sheffield United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Dylan Lawlor (Caerdydd), Ben Cabango (Abertawe), Joe Rodon (Leeds United), Chris Mepham (West Bromwich Albion), Neco Williams (Nottingham Forest), Ronan Kpakio (Caerdydd), Connor Roberts (Burnley), Ethan Ampadu (Leeds United), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Joel Colwill (Caerdydd), Kai Andrews (Hibernian - ar fenthyg o Coventry City), Harry Wilson (Fulham), Nathan Broadhead (Wrecsam), Brennan Johnson (Crystal Palace), Sorba Thomas (Stoke City), Lewis Koumas (Hull City - ar fenthyg o Lerpwl), Isaak Davies (Caerdydd), Kieffer Moore (Wrecsam), Dan James (Leeds United), David Brooks (Bournemouth).
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill

- Cyhoeddwyd1 Ebrill
