Cyn-arweinydd UKIP yn y Senedd, Caroline Jones, wedi marw

Roedd Caroline Jones yn un o saith gwleidydd UKIP a gafodd eu hethol i'r Senedd (y Cynulliad ar y pryd) yn 2016Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Caroline Jones yn un o saith gwleidydd UKIP a gafodd eu hethol i'r Senedd (y Cynulliad ar y pryd) yn 2016

  • Cyhoeddwyd

Mae Caroline Jones, cyn-arweinydd UKIP ym Mae Caerdydd, wedi marw yn 71 oed.

Roedd hi wedi bod yn derbyn gofal lliniarol ar ôl cael diagnosis o sepsis difrifol.

Aeth yn sâl ar noson canlyniad yr etholiad, ar ôl mynychu'r cyfrif yng Nghanolfan Hamdden y Barri yr un diwrnod.

Bu farw yn Ysbyty Treforys yn ystod oriau mân fore Iau.

Roedd yn ymgeisydd annibynnol yn sedd Pen-y-bont Bro Morgannwg, lle roedd hi'n byw, yn etholiad y Senedd.

Gadawodd hi blaid Reform UK ychydig cyn hynny ar ôl gwrthod bod yn drydydd ar restr y blaid yn sedd Pontypridd Cynon Merthyr.

Dywedodd ei gŵr, Alun Williams, wrth BBC Cymru ei bod yn "fenyw wych" oedd yn boblogaidd yn y Senedd ac "na allai wneud digon i bobl eraill".

Swyddog carchar cyn troi at wleidyddiaeth

Ganwyd hi yn Ysbyty Llwynypia yn Rhondda ym 1955, ac roedd wedi hyfforddi fel athrawes drama ac addysg gorfforol, gan sefydlu ei chaffis ei hun yn ddiweddarach ym Mhorthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr.

Hyd at 2005 treuliodd dros saith mlynedd yn gweithio fel swyddog carchar yng Ngharchar Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwasanaethodd fel AS dros Orllewin De Cymru o Fai 2016 i Fai 2021.

Roedd yn un o saith gwleidydd UKIP a gafodd eu hethol i'r Senedd (y Cynulliad ar y pryd) yn 2016, ar ôl bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol cyn hynny.

Yn fuan iawn bu ffraeo o fewn grŵp UKIP ym Mae Caerdydd, gyda Ms Jones yn un o dri arweinydd ganddyn nhw.

Ar ôl hynny ymunodd â Phlaid Brexit, a'u gadael hwythau gan eu cyhuddo o gael safbwynt "gwrth-ddatganoli" oedd yn erbyn ei hegwyddorion.

'Heriau gwleidyddol a phersonol'

Dywedodd Owain Clatworthy, cyn-gynghorydd Reform ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd bellach gyda Restore Britain, ei bod hi wedi "ymddwyn yn wydn drwy heriau gwleidyddol a phersonol, gan aros bob amser yn driw i bwy oedd hi".

"Roedd Caroline yn credu ym mhwysigrwydd democratiaeth, rhyddid barn, a sefyll dros bobl gyffredin."

Dywedodd Llŷr Powell, AS Reform dros Flaenau Gwent Caerffili Rhymni, ar X: "Rwyf wedi adnabod Caroline Jones ers dros 15 mlynedd ac rwyf wedi fy synnu a'm tristáu gan y newyddion heddiw. Mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda'i hanwyliaid ar yr adeg anodd hwn."

"Gorffwys mewn hedd," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol