Cwpl wedi marw o 'drawma sylweddol' mewn gwrthdrawiad awyren yng Ngwynedd

Ketan a Sheetal SwaliFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ketan a Sheetal Swali yn y digwyddiad ger Trawsfynydd

GanCarwyn Jones
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed y bu farw cwpl priod o ganlyniad i drawma sylweddol mewn gwrthdrawiad awyren fach ger Trawsfynydd ddydd Gwener.

Bu farw Sheetal Keton Swali, 55, a Ketan Ashwinkumar Swali, 59, a oedd yn teithio yn yr awyren, yn y fan a'r lle.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael adroddiadau tua 12:00 ddydd Gwener nad oedd yr awyren, a oedd yn teithio o faes awyr yn Lloegr, wedi cyrraedd Maes Awyr Caernarfon fel y disgwyl.

Wrth agor y cwest, dywedodd y Crwner Cynorthwyol, Sarah Riley fod y ddau yn teithio o faes awyr yn Burton-upon-Trent ac i fod i lanio ym Maes Awyr Caernarfon.

Ketan Ashwinkumar SwaliFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ketan Swali ei ddisgrifio fel "aelod poblogaidd iawn" o Glwb Hedfan Sherwood

Yn dilyn adroddiadau nad oedd yr awyren wedi cyrraedd Caernarfon fel y disgwyl, cafodd archwiliadau eu cynnal o'r awyr ac ar y ddaear gan nifer o asiantaethau.

Cafodd yr awyren ei chanfod mewn "lleoliad anghysbell" ger Trawsfynydd.

Bu farw Sheetal Keton Swali, 55, a Ketan Ashwinkumar Swali, 59, a oedd yn teithio yn yr awyren, yn y fan a'r lle.

Wrth agor y cwest, dywedodd y crwner cynorthwyol fod Mr a Mrs Swali yn byw yn Syston, Sir Gaerlŷr.

Roedd y ddau wedi llogi awyren Piper PA28 gan Glwb Hedfan Sherwood ac yn teithio o faes awyr Tatenhill yn Burton-upon-Trent i Gaernarfon.

Roedd aelodau o deulu Mr a Mrs Swali wedi ymuno â'r cwest ddydd Mawrth drwy gyswllt fideo.

Piper PA28 Clwb Hedfan ShearwoodFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cwpl wedi llogi'r awyren Piper PA28 yma gan Glwb Hedfan Sherwood

Nododd Ms Riley: "Fe wnaeth gwylwyr y glannau alw Heddlu Gogledd Cymru gydag adroddiadau o wrthdrawiad awyren posib."

Cafodd safle'r gwrthdrawiad ger Trawsfynydd ei leoli gan y gwasanaethau brys ac fe gafodd Mr a Mrs Swali eu cadarnhau'n farw am 14:15 ddydd Gwener.

Fe gafodd y ddau eu hadnabod yn ffurfiol gan batholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rogers yn Ysbyty Glan Clwyd.

Fe gadarnhaodd y crwner fod Dr Rogers wedi nodi achos marwolaeth dros dro y ddau fel marwolaeth o ganlyniad i drawma sylweddol yn dilyn gwrthdrawiad (major impact trauma).

Mae'r corff sy'n ymchwilio i ddamweiniau awyr, yr Air Accidents Investigation Branch (AAIB) yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.

Cafodd y cwest ei ohirio tra bod yr AAIB yn cynnal eu hymchwiliadau.

Mewn datganiad dywedodd Clwb Hedfan Sherwood eu bod yn "drist iawn" a bod y marwolaethau yn "effeithio ar lawer o bobl yn y clwb oedd yn eu hadnabod".

"Roedd Ketan yn aelod poblogaidd iawn oedd wrth ei fodd yn siarad am hedfan. Mae ein cydymdeimlad gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau yn y cyfnod anodd yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig