Dau wedi marw mewn gwrthdrawiad awyren fach yng Ngwynedd

Doedd yr awyren fach ddim wedi cyrraedd Maes Awyr Caernarfon fel y disgwyl
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad awyren fach yng Ngwynedd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael adroddiadau tua 12:00 ddydd Gwener nad oedd yr awyren, a oedd yn teithio o faes awyr yn Lloegr, wedi cyrraedd Maes Awyr Caernarfon fel y disgwyl.
Yn dilyn chwiliadau o'r awyr ac ar y ddaear gan nifer o asiantaethau cafodd yr awyren ei chanfod mewn "lleoliad anghysbell" ger Trawsfynydd.
Bu farw'r ddau a oedd yn teithio yn yr awyren yn y fan a'r lle, meddai'r llu.
Mae'r corff sy'n ymchwilio i ddamweiniau awyr, yr Air Accidents Investigation Branch (AAIB) yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Owain Llewellyn: "Mae ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau'r rhai a fu'n rhan o'r digwyddiad trasig hwn.
"Byddwn yn cefnogi'r AAIB gyda'u hymchwiliad i sicrhau bod yr amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad hwn yn cael eu deall yn llawn.
"Mae hwn wedi bod yn ymgyrch chwilio heriol, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl asiantaethau a fu'n rhan ohoni am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.