Cymuned pentref yn Sir Gâr yn 'colli ei galon' wrth i glwb gweithwyr gau

Clwb Gweithwyr Y Tymbl
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Clwb Gweithwyr Y Tymbl yn cau ei drysau am y tro olaf ddydd Sul

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cymuned pentref o Sir Gâr yn "colli ei galon" wrth i glwb gweithwyr lleol gau dros y penwythnos.

Bydd Clwb Gweithwyr Y Tymbl, sy'n dyddio'n ôl i'r 19eg ganrif, yn cau ei ddrysau am y tro olaf ddydd Sul.

Fel nifer o dafarndai a chlybiau eraill o'r fath, mae'r clwb - sydd wedi'i leoli gyferbyn â glofa Mynydd Mawr - wedi bod yn brwydro i aros ar agor wrth i gostau gynyddu

Dywedodd cadeirydd y clwb, Helen Lloyd, bod cau'r clwb yn "ergyd i'r gymuned" ond nad oedd dewis gan yr aelodau wrth i "gostau a threthi brofi'n ormod".

Helen Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

"Ar y foment does dim digon o arian 'da ni i dalu'r staff felly'r unig ffordd ymlaen ydy i gau a gwerthu'r lle," meddai Helen Lloyd

Mae Helen wedi byw yn Y Tymbl gydol ei hoes a bellach yn gadeirydd ar y clwb ar ôl treulio blynyddoedd maith yn gweithio tu ôl i'r bar.

"Mae wedi chwarae rhan mawr, mawr yn fy mywyd a nawr byddai'n meddwl am y syniad o'r bêl fawr yn bwrw fe lawr, mae'n dorcalonnus," meddai.

Dywedodd bod y clwb wedi bod yn ceisio cadw'i "ben uwchben y dŵr ers sbel" ac wedi goroesi cyfnodau anodd ers y pandemig.

Ond gyda'r argyfwng costau byw a chostau rhedeg busnesau o'r fath yn codi, does dim ffordd ymlaen bellach, meddai.

"Dyw pobl ddim yn galw nawr mor aml, mae pawb methu fforddio dod mas, mae'r gost i fyw wedi mynd i fyny shwd gymaint.

"Mae pris popeth wedi mynd lan. Mae'r costau rhedeg a threthi ar bob dim wedi profi'n ormod.

"Ar y foment does dim digon o arian 'da ni i dalu'r staff felly'r unig ffordd ymlaen ydy i gau a gwerthu'r lle."

Clwb Gweithwyr Y Tymbl

Fel un sydd wedi bod yn mynychu'r clwb ers yn 15 oed, yn ogystal â gweithio yna, dywedodd Helen ei bod methu meddwl am eiriau i ddisgrifio effaith cau'r clwb arni.

"Mae'n rili wael bo ni'n colli'r clwb. Sai'n gwybod be wneith y gymuned," meddai.

"Bydd yn golled fawr i'r gymuned, mae pobl yn dod yma am y ffwtbol, y rygbi, i chwarae darts a snwcer - maen nhw i gyd am orfod ffindio rhywle arall i ddod at ei gilydd.

"Mae plant yn dod yma i chwarae pool, maen nhw'n dod â'u beics a'n parcio nhw yn y foyer ac yn cael cwpl o gemau ac maen nhw'n saff. Mae hen bobl yn dod yma hefyd i gwrdd a chael sgwrs. Mae'n galon i'r gymuned."

Y gobaith yw, meddai Helen, y bydd rhywun yn gallu cymryd drosodd y clwb gan yr aelodau, ond mae hynny'n teimlo fel "gwyrth fawr" ar hyn o bryd.

Sophie FlearFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Flear wedi bod yn mynd i'r clwb ers yn blentyn

Un arall sy'n mynychu'r Workies, fel mae'n cael ei adnabod yn y pentref, yn rheolaidd yw Sophie Flear.

Dywedodd Sophie, 33, bod y clwb yn "hwb yn y gymuned" gyda phobl y pentref yn dibynnu arno ar gyfer cymdeithasu.

"Mae'r gymuned yn colli ei galon. Mae'r Workies yng nghanol unrhyw ddigwyddiad sy'n digwydd yn y pentre'," meddai.

"Dwi di bod yn mynd i'r clwb ers o'n i'n blentyn. Mae o di bod yma am mor hir sai'n gwybod Y Tymbl heb y clwb.

"Roedd fy rhieni a fy nheulu'n mynd cyn i fi cael fy ngeni ac mae wastad ysbryd cymunedol wedi bod yna.

"Pan o'n i bant o Gymru ro'n i'n dod a fy ffrindiau o Bristol yn ôl i'r Workies ac roedd fy mrawd yn gwneud yr un peth."

Ychwanegodd: "Fi'n gweithio fel nyrs iechyd meddwl a fi'n credu bydd mwy o social isolation yn digwydd gyda'r clwb yn cau."

Wedi'i sefydlu yn 1893 i wasanaethu'r glowyr yn y pwll glo cyfagos, mae'r clwb "wastad wedi bod yng nghanol unrhyw ddigwyddiad sy'n digwydd yn y pentref", meddai Sophie.

"Mae pawb yn y pentre' yn gwybod hanes y clwb - gyda'r glowyr yn enwedig - a dwi'n ofni bydd yr hanes yna nawr yn cael ei golli."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol