Mae pob peth byw wedi ei wneud o gelloedd, sy’n gwahaniaethu i gyflawni gwahanol swyddogaethau. Gall sylweddau symud i mewn ac allan o gell. Gweithreda ensymau fel catalyddion ym mhetabolaeth y gell.
Trylediad yw symudiad gronynnau o fan â chrynodiad uchel i fan â chrynodiad isel, ac mae’n un o’r ffyrdd mae sylweddau’n gallu symud ar draws y gellbilen, i mewn neu allan o’r gell.
Mae gronynnau’n tryledu i lawr graddiant crynodiadY graddiant crynodiad ydy'r gwahaniaeth yn y crynodiad rhwng dwy ardal gyfagos. Bydd gronynnau'n symud i lawr y graddiant crynodiad o ardal o grynodiad uchel i ardal o grynodiad isel.. cludiant goddefolDyma symudiad molecylau i lawr graddiant crynodiad heb fod angen egni ychwanegol, ee trylediad ac osmosis. yw’r broses hon.
Mae potasiwm permanganad yn cael ei roi mewn bicer o ddŵr.
Image caption,
Arbrawf trylediad
Mae gronynnau’n tryledu o ardal o grynodiad uchel i ardal o grynodiad isel.
Image caption,
Arbrawf trylediad
Mae crynodiad cynnwys y bicer nawr i gyd yr un fath. Dywedwn bod yr hydoddiant mewn ecwilibriwm.
1 of 3
Slide1 of 3, Bicer llawn dŵr. Lwmp porffor yng ngwaelod y bicer wedi'i labelu'n Grisialau potasiwm permanganad., Arbrawf trylediad Mae potasiwm permanganad yn cael ei roi mewn bicer o ddŵr.
End of image gallery
Enghreifftiau o drylediad mewn organebau byw
Mae cynhyrchion treuliad, wedi eu hydoddi mewn dŵr, yn gallu pasio trwy fur y coluddyn bach trwy drylediad. Mae eu crynodiad yn uwch yn y coluddyn bach nag ydy eu crynodiad yn y gwaed, felly mae graddiant crynodiad o’r coluddyn i’r gwaed.
Mae ocsigen a charbon deuocsid, wedi eu hydoddi mewn dŵr, yn cyfnewid trwy drylediad yn yr ysgyfaint:
mae ocsigen yn symud i lawr graddiant crynodiad o’r aer yn yr alfeoliCodennau bach iawn yn yr ysgyfaint, lle mae nwy’n cael ei gyfnewid wrth anadlu. i’r gwaed
mae carbon deuocsid yn symud i lawr graddiant crynodiad o’r gwaed i’r aer yn yr alfeoli
Dim ond tra bo graddiant crynodiad yn bodoli y bydd y sylweddau wedi hydoddi yn parhau i dryledu.
Mae llif gwaed yn symud ocsigen oddi wrth yr ysgyfaint yn gyson. Mae hyn yn helpu i gynnal y graddiant crynodiad.