Celloedd a symudiad ar draws cellbilenniGraddiant crynodiad
Mae pob peth byw wedi ei wneud o gelloedd, sy’n gwahaniaethu i gyflawni gwahanol swyddogaethau. Gall sylweddau symud i mewn ac allan o gell. Gweithreda ensymau fel catalyddion ym mhetabolaeth y gell.
Er mwyn deall sut mae gronynnau neu folecylau yn symud ar draws cellbilen mae’n bwysig deall y syniad o grynodiadau a graddiannau ynddyn nhw.
Crynodiad
Pan gaiff swcrosDeusacarid wedi ei wneud o glwcos a ffrwctos. Mae’n cael ei ddefnyddio fel siwgr bwrdd. ei hydoddi mewn dŵr, yr hydoddynY sylwedd sydd wedi hydoddi mewn hydoddiant. yw swcros a dŵr yw’r hydoddyddYr hylif y mae’r hydoddyn yn hydoddi ynddo i greu hydoddiant.. Gyda’i gilydd maent yn ffurfio hydoddiant.
Po fwyaf o ronynnau sydd mewn cyfaint penodol, po fwyaf crynodedig yw’r gronynnau hynny.
Slide1 of 2, Diagram yn dangos crynodiad hydoddyn. Bicer llawn dŵr wedi'i labelu'n Hydoddiant un; Crynodiad hydoddyn isel; Crynodiad dŵr uchel. Gronynnau yn y bicer wedi'u labelu'n Hydoddyn., Hydoddiant un Crynodiad hydoddyn isel
End of image gallery
Mewn hydoddiant, os yw crynodiad yr hydoddyn yn isel, mae crynodiad y dŵr yn uchel. Dŵr pur sydd â’r crynodiad dŵr uchaf.
Mae graddiant crynodiad yn bodoli pan fo ardal crynodiad uchel yn arwain at ardal crynodiad isel:
mae mynd o grynodiad uchel i isel yn mynd i lawr y graddiant crynodiad
mae mynd o grynodiad isel i uchel yn mynd yn erbyn y graddiant crynodiad