Celloedd a symudiad ar draws cellbilenniGwahaniaethu
Mae pob peth byw wedi ei wneud o gelloedd, sy’n gwahaniaethu i gyflawni gwahanol swyddogaethau. Gall sylweddau symud i mewn ac allan o gell. Gweithreda ensymau fel catalyddion ym mhetabolaeth y gell.
Mae organebau amlgellog yn dechrau bywyd fel un gell wy wedi’i ffrwythloni, o’r enw sygotWy wedi'i ffrwythloni, o ganlyniad i uno dau gamet.. Mae gan y sygot gnewyllyn sy’n cynnwys set gyfan o enynnau. Pan mae’r sygot yn rhannu drwy gyfrwng mitosis, mae’r set gyfan o enynnau’n cael eu copïo ac mae’r broses hon yn parhau nes bod pelen o gelloedd o’r enw embryo yn ffurfio. Ar yr adeg hon, mae’r celloedd yn dechrau newid ac addasu ar gyfer swyddogaethau penodol. gwahaniaethuPan mae cell anarbenigol yn dod yn fath o gell sy’n fwy arbenigol. yw’r broses hon a genynnau sy’n rheoli’r broses.
Dyma rai celloedd arbenigol.
Mae nerfgell yn hir ac wedi’i hynysu â haen frasterog i gludo ysgogiadau trydanol o gwmpas y corff
Mae gan gell sberm gynffon fel ei bod hi’n gallu nofio at yr wy
Mae cell balis yn llawn cloroplastau ar gyfer ffotosynthesis
Mae cell sylem yn diwb gwrth-ddŵr hir, tenau tebyg i welltyn, sy’n cludo dŵr o wreiddiau planhigyn i’r dail
Mae gan gelloedd coch y gwaed siâp deugeugrwm, does ganddynt ddim cnewyllyn ac maent yn cynnwys haemoglobin i gludo ocsigen o gwmpas y corff
Celloedd, meinweoedd ac organau
Mae celloedd sy’n cyflawni swyddogaethau tebyg yn cael eu grwpio gyda’i gilydd mewn meinweoedd. Yr enw ar gasgliad o wahanol feinweoedd sy’n cyflawni swyddogaeth benodol yw organ . Yr enw ar lawer o wahanol organau sy’n gweithio gyda’i gilydd i gyflawni swyddogaethau penodol yw system organau. Mae systemau organau’n gweithio gyda’i gilydd i ffurfio organeb.