Llys yn clywed honiadau dynes o gael ei threisio ger Eisteddfod Boduan

Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Emlyn Jones yn gadael y llys ddydd Llun

GanElen Wyn
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae cynnwys yn yr erthygl isod all beri gofid.

Mae achos llys yn erbyn dyn o Ddyffryn Conwy sydd wedi'i gyhuddo o dreisio dynes ar ôl ei chyfarfod yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023 wedi clywed fersiwn yr achwynydd o'r digwyddiadau ar y noson dan sylw.

Mae Emlyn Jones yn gwadu pedwar cyhuddiad gan gynnwys ymosodiad rhyw, crogi bwriadol a threisio.

Ar ail ddiwrnod yr achos yn erbyn yn Llys y Goron Caernarfon fe welodd y rheithgor fideo o gyfweliad yr heddlu gyda'r achwynydd, a gafodd ei recordio ar 16 Medi 2023.

Yn ystod y recordiad mae'r ddynes yn egluro ei bod wedi cyrraedd yr Eisteddfod tua 18:00 ar nos Sul cynta'r brifwyl ym Moduan ger Pwllheli.

Bu'n cymdeithasu gyda ffrindiau mewn carafán ar safle Cae Mawr cyn mynd i faes yr Eisteddfod i fwynhau'r cyngherddau ar lwyfan y maes.

Clywodd y llys bod y ddynes wedi cyfarfod Emlyn Jones yn ystod cyngerdd Bwncath y noson honno, a bu'n siarad gydag o yn ogystal â phobl eraill.

'Roedd o'n lloerig'

Ar ôl i Bwncath orffen perfformio, dywed y ddynes ei bod hi a chriw o ffrindiau wedi cerdded at far Syched, sy'n ganolbwynt i gymdeithasu ar faes y brifwyl.

Yno, bu hi a'i ffrindiau yn mwynhau'r awyrgylch. Cerddodd o'r maes gyda dyn yr oedd wedi ei gyfarfod y noson honno.

Eglurodd y ddynes nad oedd hi'n gallu dod o hyd i'r garafán yr oedd hi'n aros ynddi, a thra roedden nhw'n chwilio amdani daeth y ddau ar draws Emlyn Jones unwaith yn rhagor.

"O'dd o rili wedi gwylltio. Roedd o'n lloerig," meddai'r ddynes, a hynny oherwydd mater yn ymwneud â'i gariad.

Dywedodd y ddynes ei bod hi a'r dyn oedd gyda hi ar y pryd "yn trio calmio fo i lawr".

Wrth gerdded gyda'i gilydd, daeth y tri o hyd i'r garafán, ac yn ôl y ddynes fe fuodd hi a'r dyn arall yn ceisio tawelu Emlyn Jones am tua hanner awr.

Cafodd gynnig aros yn y garafán, meddai'r ddynes. Erbyn hynny roedd hi'n tua 03:00.

Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Caernarfon i'r ddynes gwrdd ag Emlyn Jones ar faes yr Eisteddfod yn Awst 2023

Disgrifiodd y ddynes mai carafán ei ffrind oedd hi, a'i bod hi'n aros mewn pabell fach yn yr adlen oedd yn sownd i'r garafán.

Dywedodd ei bod hi wedi syrthio i gysgu yn gorwedd rhwng Emlyn Jones a'r dyn arall.

"Peth nesa', ro'n i'n teimlo rhywun yn teimlo fi," meddai.

"A nes i feddwl ma'r dyn arall oedd o."

Esboniodd y ddynes wrth yr heddlu fod y dyn oedd wedi ei cherdded o faes yr Eisteddfod wedi dechrau gweiddi ar Emlyn Jones, a'i fod yn flin iawn.

Ceisiodd Mr Jones ei dawelu gan ddweud "dwi heb 'neud dim byd" ond fe adawodd y dyn yr adlen, ac er i'r ddynes drio ei ffonio i ddod yn ei ôl, fe wrthododd.

Dywed y ddynes ei bod hi wedi troi at Emlyn Jones a dweud: "Be **** sy'n sy'n bod efo chdi?" ac mae hi'n dweud ei fod wedi ei hateb drwy ddweud "sori".

"Ma' rili weird be' ti 'di 'neud," meddai wrtho. "Nawn ni siarad am hyn yn y bore.

"Dwi'n mynd i gysgu fan'ma a chdi fan'na. Paid a twtchiad fi."

Dywedodd y ddynes mai'r peth nesa' mae hi'n ei gofio ydi deffro "ac mi roedd o'n twtchiad breast fi - rili grabio nhw".

"Nes i drio codi ac o'n i'n deud wrtha fo 'paid'," ac mae'n honni iddo barhau i ymosod arni yn rhywiol.

"Nes i baffio fo," meddai. "O'dd o ddim yn licio bo fi'n paffio efo fo."

Dywedodd ei bod wedi trio codi ei throwsus i fyny a'i bod yn dal i erfyn ar Emlyn Jones i stopio.

"O'dd o fatha 'sa fo'n gwylltio a mynd yn flin," meddai.

"'Na'th o hookio braich dde fo rownd gwddw fi a na'th o jyst dechrau crogi fi.

"Crogi fi mwy a mwy a nes i panicio a freezio.

"O'n i jest trio paffio fo ond mi o'dd o'n crogi fi fwy."

Dywedodd nad oedd yn gallu symud. Honnir mai ar yr adeg yma y gwnaeth Emlyn Jones ei threisio.

'Dwi ddim yn gwybod pam nes i hynna'

Wrth barhau i roi ei thystiolaeth i'r heddlu fe ddechreuodd y ddynes grïo.

Yn fuan wedyn, fe adawodd Emlyn Jones y garafán, meddai, ac fe wnaeth y ddynes gloi ei hun mewn car.

"O'n i jest yn shocked," meddai.

Esboniodd fod Emlyn Jones wedi dod yn ei ôl ac wedi cnocio ar ddrws ei char, a'i bod hi wedi ei agor.

Mae'r ddynes yn honni fod Emlyn Jones wedi dweud wrthi: "Dwi'n sori. Dwi ddim yn gwybod pam nes i 'neud hynna."

Dywedodd y ddynes ei bod wedi ei ateb ar y pryd: "Mae'n iawn" a "'Na i'm d'eud wrth neb".

Gofynnodd yr heddlu iddi pam ei bod wedi dweud hynny, ac atebodd: "O'n i ofn."

Mae Emlyn Jones yn gwadu'r pedwar cyhuddiad yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.