Dyn yn gwadu treisio dynes ger maes Eisteddfod Boduan yn 2023

Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Emlyn Jones yn gadael y llys ddydd Llun

GanElen Wyn
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 27 oed wedi gwadu treisio dynes y gwnaeth ei chyfarfod ychydig oriau ynghynt ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023.

Mae Emlyn Jones yn gwadu pedwar cyhuddiad gan gynnwys ymosodiad rhyw, crogi bwriadol a threisio.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod y ddynes wedi cyfarfod Emlyn Jones mewn cyngerdd ar faes yr Eisteddfod ar 6 Awst 2023.

Ar ran yr erlyniad, dywedodd y bargyfreithiwr Sion ap Mihangel i'r ddynes adael y maes gyda dyn arall, ond tra'n chwilio am y garafán lle'r oedd hi'n aros, daeth y ddau ar draws Emlyn Jones unwaith yn rhagor.

Mae'r erlyniad yn honni fod y tri wedi cysgu mewn pabell y tu mewn i adlen oedd yn sownd i'r garafán, gyda'r ddynes yn y canol.

Clywodd y rheithgor i'r ail ddyn adael y babell ar ôl gweld Emlyn Jones yn ymddwyn yn amhriodol tuag at y ddynes.

Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Caernarfon i'r ddynes gwrdd ag Emlyn Jones ar faes yr Eisteddfod yn Awst 2023

Clywodd y llys i'r ddynes ofyn wrth Emlyn Jones: "Beth wyt ti wedi'i wneud?" ac iddo ymddiheuro.

Honnir iddi ddweud wedyn: "Mi gysga i'n fa'ma a chysga di yn fanna," gan ychwanegu "paid a fy nghyffwrdd".

Yn ôl yr erlyniad, mae'r ddynes yn cofio deffro gydag Emlyn Jones arni ac yn cyffwrdd ei bronnau.

Ceisiodd hi ei atal ac ymladd yn ei erbyn. Pan ddechreuodd o ei thagu, dywedodd yr erlyniad ei bod hi wedi mynd i banig ac nad oedd yn gallu symud.

Honnir mai ar yr adeg yma y bu i Emlyn Jones gael rhyw hefo hi.

Yn fuan wedyn, mi adawodd Emlyn Jones y garafán ac mi wnaeth y ddynes gloi ei hun mewn car.

Cafodd Emlyn Jones ei arestio ar 17 Awst 2023.

Clywodd y llys iddo ddweud wrth yr heddlu fod y fenyw wedi cytuno i gael rhyw ac nad oedd gwirionedd yn yr honiad iddo ei threisio.

Mae Emlyn Jones yn gwadu'r pedwar cyhuddiad yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.