Achos llys trywanu athrawes - llafn y gyllell yn mesur wyth modfedd

- Cyhoeddwyd
Roedd llafn y gyllell a ddefnyddiodd bachgen 16 oed i drywanu ei athrawes mewn ysgol yn Sir Benfro yn mesur wyth modfedd, mae rheithgor wedi clywed.
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror yn dilyn adroddiadau bod "disgybl oedd ag arf yn ei feddiant wedi ymosod ar athrawes".
Yn gynharach yn yr wythnos fe ddywedodd yr athrawes, Vicki Williams, wrth y llys fod y bachgen wedi ei dilyn i mewn i'w hystafell gan ofyn am help gyda'i waith hanes, cyn "hyrddio" ati gyda chyllell cegin fawr.
Mae'r bachgen, na ellir ei enwi oherwydd ei oed, yn gwadu ceisio llofruddio, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.

Yn ystod pumed diwrnod yr achos yn Llys y Goron Abertawe, clywodd y rheithgor ddatganiadau ysgrifenedig gan chwe thyst, gan gynnwys gweithwyr y gwasanaeth ambiwlans a swyddogion heddlu.
Yn gyfrifol am chwilio tŷ'r bachgen, dywedodd DC Phillip John Jones yn ei ddatganiad ysgrifenedig fod bloc o gyllyll yng nghegin y teulu.
"Roedd bloc cyllyll gyda phedair cyllell," meddai.
"Roedd yn ymddangos fod un gyllell ar goll."
Cafodd y bloc cyllyll ei ddangos i'r barnwr ac aelodau'r rheithgor, ynghyd â'r gyllell a gafodd ei defnyddio yn yr ymosodiad.
Cadarnhaodd yr erlyniad mai'r gyllell a gafodd ei defnyddio yn yr ymosodiad oedd "y mwyaf o'r cyllyll" a bod llafn y gyllell "o'r pig i'r ddolen" yn mesur wyth modfedd.
Ar 5 Chwefror, clywodd y rheithgor fod galwad 999 wedi ei gwneud gan Ysgol Gyfun Aberdaugleddau am 15:21.
Athrawes 'yn amlwg wedi'i hysgwyd'
Roedd PC Dan Evans ymhlith y swyddogion cyntaf i gyrraedd y safle.
Dywedodd fod yr athrawes, Vicki Williams, a oedd yn 35 oed ar y pryd, "yn amlwg wedi'i hysgwyd" wrth iddi eistedd i lawr i dderbyn cymorth cyntaf i'w phen.
Dywedodd uwch-ymarferydd gyda'r gwasanaeth ambiwlans, a fynychodd yr ysgol hefyd, fod Mrs Williams "mewn sioc" yn dilyn y digwyddiad.
Roedd Mrs Williams wedi dweud wrth yr ymarferydd ei bod yn teimlo fel ei bod "mewn hunllef".
"Roedd hi'n gofyn, 'Pam fyddai e'n gwneud hyn?'" meddai'r ymarferydd.
"Roedd llawer o waed o gwmpas y clwyf ac roedd ei gwallt yn llawn clymau."
'Rhywbeth wedi mynd yn fy mhen' - bachgen ar ôl trywanu athrawes
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Disgybl wedi trywanu athrawes yn ei phen gyda 'chyllell gegin fawr'
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Aberdaugleddau: Bachgen yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
Clywodd y llys hefyd fod y bachgen wedi cael ei arestio yn nhŷ ei fam-gu am 15:52 ar 5 Chwefror ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.
Pan gafodd ei rybuddio, dywedodd yr heddlu na roddodd "unrhyw ymateb o bwys".
Cafodd y bachgen, a oedd yn 15 oed ar y pryd, ei gludo i'r ddalfa yn Hwlffordd, lle cafodd ei arestio ymhellach ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Cafodd ei gyfweld gan yr heddlu ar dri achlysur rhwng 5 a 6 Chwefror, gan ateb "Dim sylw" i'r cwestiynau ar bob achlysur.
Clywodd y llys fod ffôn symudol y bachgen wedi cael ei ddadansoddi a bod "dim data" wedi'i ganfod a oedd yn awgrymu ei fod wedi chwilio am neu drafod yr hyn yr oedd yn bwriadu ei wneud.
Mae'r achos yn parhau.