Disgybl wedi trywanu athrawes yn ei phen gyda 'chyllell gegin fawr'

Ysgol Gyfun AberdaugleddauFfynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau am tua 15:20 ar 5 Chwefror

GanElen Davies
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae rheithgor wedi clywed fod disgybl wedi trywanu athrawes yn ei phen gyda "chyllell gegin fawr" mewn ysgol yn Aberdaugleddau.

Cafodd yr athrawes, Vicki Williams, ei hanafu yn ystod yr ymosodiad ar 5 Chwefror yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau yn Sir Benfro.

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn Abertawe ddydd Llun, clywodd llys y goron fod y bachgen, sydd bellach yn 16 oed, wedi dilyn yr athrawes i mewn i'w dosbarth, cau'r drws, cyn ei thrywanu yn ei phen.

Mae'r bachgen, na ellir ei enwi oherwydd ei oed, yn gwadu ceisio llofruddio, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.

Mewn gwrandawiad blaenorol, fe blediodd yn euog i fod â chyllell yn ei feddiant ar dir ysgol.

Anafiadau i'w bysedd a'i chefn

Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i'r ysgol tua 15:20 yn dilyn adroddiadau bod disgybl oedd ag arf yn ei feddiant wedi ymosod ar athrawes.

Cafodd yr ysgol ei rhoi dan fesurau clo ac roedd yr ysgol ar gau drannoeth hefyd.

Clywodd y llys fod yr athrawes, Ms Williams, wedi cael ei thrywanu yn ei phen a'i bod wedi dioddef anafiadau i'w bysedd a'i chefn hefyd.

Cafodd ei chludo i ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, cyn cael ei rhyddhau'r noson honno.

Map Aberdaugleddau

Yn ôl bargyfreithiwr yr erlyniad, Christopher Rees KC, fe ddaeth y bachgen â "chyllell gegin fawr" i mewn i'r ysgol o'i gartref.

Am 15:10, fe ymosododd ar Vicki Williams, ei athrawes hanes, yn ei hystafell ddosbarth.

Cafodd deunydd CCTV ei ddangos yn y llys o'r athrawes yn mynd i mewn i'r dosbarth a'r bachgen yn ei dilyn.

Dywedodd y bargyfreithiwr fod yr athrawes yn "fregus" ac "ar ben ei hun" gan fod yr ystafell ddosbarth yn wag.

Clywodd y llys ei fod wedi gofyn i Ms Williams a fyddai'n fodlon edrych dros ei waith. Roedd e' wedi colli'r wers hanes flaenorol.

'Ynysu Ms Williams'

Clywodd y llys fod Ms Williams yn meddwl bod hyn yn "anarferol" ac allan o gymeriad' i'r bachgen, oherwydd "nid dyna'r math o ddisgybl oedd e', doedd e' ddim wedi bod â diddordeb cyn hynny".

Wrth i Ms Williams chwilio am y dudalen berthnasol, aeth y bachgen i gau'r drws, roedd yn gafael yn ei fag.

"Roedd e eisiau ynysu Ms Williams fel ei fod yn medru ymosod arni," meddai'r erlyniad.

Dywedodd yr erlyniad hefyd fod yr athrawes wedi sylwi fod y bachgen yn chwilio am rywbeth yn ei fag.

Doedd hi ddim yn ymwybodol ei fod yn cynnwys "cyllell gegin fawr".

Clywodd y llys fod yr athrawes yn cadw edrych y tu ôl iddi wrth i'r bachgen geisio mynd y tu ôl iddi gan ei rhwystro.

Yn sydyn, clywodd y llys ei fod wedi tynnu cyllell o'i fag ac ymosod arni. Fe deimlodd hi'r gyllell yn trywanu ei phen.

Ysgol Gyfun AberdaugleddauFfynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald

Dywedodd nad oedd y bachgen wedi dweud dim yn ystod yr ymosodiad, ond bod yr edrychiad ar ei wyneb yn "gasineb pur, pur seicotig".

Clywodd y llys ei bod wedi gafael yn ei law i geisio'i rwystro gan dderbyn anafiadau i'w dwylo, cyn i'r bachgen geisio mynd amdani eto.

Fe wthiodd y bachgen Ms Williams yn ôl yn ei chadair, roedd ei choesau i fyny yn ceisio ei stopio rhag dod amdani eto, roedd yn sgrechian.

Llwyddodd i wthio'r bachgen oddi wrthi, dal gafael yn y gyllell, cyn i'r bachgen redeg o'r ystafell ddosbarth.

Roedd y bachgen yn yr ystafell ddosbarth am 2 munud a 30 eiliad- roedd deunydd ohono yn gadael yr ystafell ddosbarth hefyd ar CCTV.

Dywedodd Christopher Rees KC fod y bachgen wedi cynllunio'r ymosodiad "llofruddiol".

"Fe wnaeth drywanu Vicki Williams yn fwriadol yn ei phen a pharhau gyda'r ymosodiad," meddai.

Perthynas 'neis'

Aeth ymlaen i ddweud mai dim ond oherwydd bod yr athrawes wedi gweiddi y gwnaeth y bachgen stopio ymosod arni.

Dywedodd Christopher Rees KC fod Ms Williams wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd erioed wedi cael gair-croes gyda'r bachgen a'i bod yn credu fod ganddi berthynas "neis" gydag ef.

Roedd y bachgen yn gwisgo crys gwyn ac yn ddi-emosiwn drwy gydol y gwrandawiad. Siaradodd i gadarnhau ei enw yn unig.

Cafodd eistedd yn y llys gyda'i dîm cyfreithiol, yn hytrach nag yn y doc.

Roedd ganddo belen straen (stress ball) yn ei law.

Mae'r achos parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig