Dros 60% yn ansicr o'r newidiadau i system bleidleisio'r Senedd - arolwg

Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae dros 60% o bobl yng Nghymru'n ansicr o'r newidiadau sydd wedi digwydd i system bleidleisio'r Senedd yn ôl arolwg barn newydd a holodd 10,000 o bobl.

Mae'r arolwg yn rhan o brosiect gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe cyn yr etholiad ar 7 Mai.

Doedd dwy ran o dair (66.6%) ddim yn gallu ateb cwestiynau'n gywir am ehangu'r Senedd, creu etholaethau newydd na sut y bydd y system etholiadol yn gweithio.

Yn ôl Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth, mae'r data'n "tynnu sylw at fylchau mewn ymwybyddiaeth o ddiwygiadau etholiadol mawr... a pha mor wybodus y mae pobl yn teimlo wrth wneud penderfyniadau gwleidyddol".

YstadegauFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r canfyddiadau'n seiliedig ar sampl tebygolrwydd cynrychioliadol o 10,001 o oedolion 16 oed a hŷn yng Nghymru gafodd eu holi rhwng 26 Chwefror a 7 Ebrill 2026 gan Ipsos UK

Mae'r canfyddiadau'n seiliedig ar sampl tebygolrwydd cynrychioliadol o 10,001 o oedolion 16 oed a hŷn yng Nghymru gafodd eu holi rhwng 26 Chwefror a 7 Ebrill 2026 gan Ipsos UK.

Roedd 88% o'r ymatebwyr naill ai wedi ateb yn anghywir neu ddim yn gwybod am y system etholiadol rhestr gaeedig newydd, gyda llai na 12% yn ei ddeall.

Er bod nifer yn dweud bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth - gyda 59% â diddordeb yn etholiad y Senedd - mae'r data'n dangos lefelau anghyson o ddealltwriaeth o ran beth yw cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a beth yw cyfrifoldebau Llywodraeth y DU.

Roedd tua hanner y bobl gafodd eu holi wedi ateb yn anghywir neu ddim yn gwybod mai'r Senedd sy'n rheoli'r GIG, amaethyddiaeth a datblygu economaidd.

Mae yna wahaniaeth hefyd rhwng y cenedlaethau.

Roedd 28% o'r ymatebwyr rhwng 16 a 25 oed yn gwybod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd, o'i gymharu â 62.7% o'r ymatebwyr 65 oed a hŷn.

Dr Anwen EliasFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Anwen Elias yn credu bod y data'n rhoi "cipolwg pwysig" inni ar ddealltwriaeth a barn wleidyddol y cyhoedd

Yn ôl Dr Anwen Elias mae'r "canfyddiadau hyn yn rhoi cipolwg pwysig ar sut mae pobl yng Nghymru yn deall ac yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth ar adeg hollbwysig cyn etholiad y Senedd".

"Ar y cyfan, mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod gan etholwyr Cymru ddiddordeb cyffredinol mewn gwleidyddiaeth, gan gynnwys etholiad y Senedd.

"Fodd bynnag, mae dealltwriaeth o sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru yn gymysg, ac mae gwybodaeth am y diwygiadau etholiadol ar gyfer yr etholiad nesaf yn gyfyngedig."

Dywedodd Dr Bettina Petersohn o Brifysgol Abertawe bod y data'n dangos bod nifer "yn ymddiddori yn yr etholiad sydd i ddod, a bod y mwyafrif yn credu bod pwy fydd yn ennill etholiad y Senedd yn gwneud gwahaniaeth.

"Ar yr un pryd, roedd dealltwriaeth am y system etholiadol newydd yn isel ar ddechrau'r ymgyrch etholiadol. Yn gyffredinol, mynegodd pobl hefyd teimlad nad oes ganddynt lawer o ddylanwad dros benderfyniadau a wneir ar gyfer y Deyrnas Gyfunol, ond hefyd yng Nghymru a'r ardal leol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.