Criwiau'n brwydro tân ar long yn nociau Casnewydd

Cyrhaeddodd swyddogion tân y dociau am 05:38 fore Sul 26 Ebrill
- Cyhoeddwyd
Mae criwiau tân ar draws De Cymru'n ymateb i ddigwyddiad sy'n ymwneud â thân mawr ar long sydd wedi'i docio yng Nghasnewydd.
Fe gyrhaeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'r dociau am 05:38 fore Sul 26 Ebrill yn dilyn adroddiadau o dân ar long Nord Housten.
Roedd y llong yn cario tua 1,000 tunnell o fetel sgrap meddai'r gwasanaeth tân.
Cafodd nifer fawr o swyddogion eu galw yno er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r tân drwy ddefnyddio jetiau a'i dargedu o uchder.
Mae'r tân dan reolaeth nawr ond mae dal disgwyl i swyddogion weithio i mewn i fore Llun meddai'r Gwasanaeth Tân .
Ychwanegon nhw y bydd angen gwneud trefniadau i gludo nwyddau oddi ar y llong.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys Associated British Ports, awdurdodau harbwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr heddlu, yr awdurdod lleol ac mae yna fad achub o Lynebwy yno hefyd i gynorthwyo'r broses.
Pwysleisiodd y gwasanaeth tân nad oes unrhyw un nag unrhyw adeilad mewn perygl ar hyn o bryd ond mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hannog i osgoi'r ardal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.