Rhieni 'ddim yn deall peryglon' defnyddio AI i addasu lluniau ysgol

Mae Ian Gilbert yn dweud ei fod wedi siarad gyda sawl ffotograffydd sydd wedi profi'r un broblem o bobl yn addasu lluniau gydag AI
- Cyhoeddwyd
Mae ffotograffydd yn dweud nad yw rhieni sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i ddileu dyfrnodau o luniau ysgol yn deall y peryglon posib.
Yn ôl Ian Gilbert, sylfaenydd cwmni Emotion Picture Photography, mae rhai rhieni yn "ymfalchïo" yn y ffaith eu bod nhw wedi defnyddio AI i addasu lluniau ysgol er mwyn osgoi talu am rai swyddogol.
"Y peth dychrynllyd yw, pan 'ych chi'n rhoi llun mewn i AI mae hawl ganddyn nhw i wneud unrhyw beth maen nhw eisiau - a dwi ddim yn siŵr os ydy pobl yn deall hynny," meddai.
Dywedodd un arbenigwr ym maes diogelwch AI ei fod yn deall pam fod pobl yn gwneud y fath beth, ond rhybuddiodd nad yw rhannu gwybodaeth bersonol, gan gynnwys lluniau, "werth y risg".
Mae Mr Gilbert, 47 oed o Bont-y-pŵl, yn annog rhieni i feddwl yn ofalus iawn cyn rhoi llun o'u plentyn i mewn i raglen AI er mwyn dileu dyfrnod.
"Dwyn ydi hyn, fyddai pobl ddim yn mynd mewn i siop a thynnu label oddi ar bethau cyn cerdded allan - ond gan fod hyn yn rhywbeth mae pobl yn gallu ei wneud adref maen nhw'n ddall i'r peth," meddai.
Ychwanegodd ei fod wedi siarad gyda ffotograffwyr eraill sy'n dweud eu bod nhw hefyd yn ystyried hyn yn broblem gynyddol.
Yn ôl Ian Gilbert, sydd â rhaglen gyfrifiadurol sy'n rhoi gwybod os yw rhywun yn tynnu llun o ddelwedd ar y sgrin, mae tua 25% o'r lluniau y mae o'n eu hanfon allan yn cael eu haddasu.
"Chwarter y rhieni ddim yn talu. Colli chwarter yr elw. Ond hefyd mae'r ysgolion yn derbyn cyfran o'r elw hwnnw, felly mae'n golled i'r ysgol hefyd."
Ychwanegodd y gallai hyn yn y pendraw arwain at godi prisiau gan eu bod angen gwneud yn iawn am yr elw sy'n cael ei golli.
'Peryglon o ran preifatrwydd a lles'
Yn ôl Dr Simon Thorne, uwch-ddarlithydd gwyddoniaeth gyfrifiadurol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae defnyddio lluniau personol ar raglenni AI yn "syniad ofnadwy" ac yn "risg fawr".
"Fe allai'r data gael ei ryddhau ar-lein, fe allai'r wybodaeth gael ei defnyddio i hyfforddi modelau newydd y rhaglen neu fe allai'r llun gael ei werthu - ti byth yn gwybod.
"Mae'n ddibynnol ar y rhaglen, ond pwy a ŵyr pa mor hir fydd y llun yn cael ei gadw, sut mae'n cael ei brosesu ac os ydi o'n cael ei ailddefnyddio."
Ychwanegodd fod problemau posib yn codi hefyd os oes plant eraill yn y llun dan sylw.
"Efallai nad yw rhieni'r plentyn arall yn y llun yn gwybod bod llun o'u plentyn nhw wedi cael ei roi ar system AI.
"Roedd achos diweddar ble roedd plentyn wedi methu diwrnod o'r ysgol oherwydd salwch ac roedd rhiant wedi defnyddio AI i'w rhoi i mewn i'r llun yn ddiweddarach.
"Dwi'n deall pam, ond dydyn nhw'n amlwg heb ystyried y peryglon o ran preifatrwydd a lles sy'n codi wrth addasu lluniau o blant fel hyn."

Mae Dylan Evans yn poeni am ddyfodol ei fusnes ym maes ffotograffiaeth chwaraeon oherwydd datblygiad AI
Mae Dylan Evans, ffotograffydd chwaraeon 21 oed o Gaersws, hefyd wedi sylwi fod pobl yn cymryd ei luniau ac yn defnyddio AI i ddileu dyfrnodau.
"O'dd o'n dorcalonnus. Dydw i ond yn gofyn am £2 am lun, yn rhoi oriau o'n amser i mewn i'w tynnu nhw a'u haddasu nhw - a hynny ar ben swydd llawn amser."
Dywedodd fod chwaraewyr pêl-droed wedi gwneud hynny heb ganiatâd yn y gorffennol, a bod safon y lluniau AI yn israddol.
"Ges i ddim fy nhalu ond roedden nhw'n dal i rannu'r lluniau. Dwi'n rhoi'r ymdrech mewn a dyma dwi'n ei gael yn ôl,"meddai.
"Dwi wedi gweld pobl yn eu defnyddio fel lluniau proffil heb y dyfrnod ac mae'r safon yn wael - dwi'n ymfalchïo yn safon fy ngwaith, felly mae gweld lluniau israddol sy'n gallu cael eu cysylltu 'nôl ata' i yn amlwg yn gallu cael effaith."
Ychwanegodd ei fod yn poeni am effaith datblygiad AI ar ddyfodol ei waith.
"Mae o'n ddychrynllyd. Mae pobl yn dwyn yn barod gyda lluniau ond yn costio £2, a gydag AI yn gwella bob dydd, efallai bydd hi'n dod yn anoddach sylwi ar y gwahaniaethau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.