Cyn-AS yn cyfaddef camddefnyddio cyfrifiadur er mwyn gamblo

Katie WallisFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Wallis yn arfer bod yn Aelod Seneddol dros Ben-y-bont ar Ogwr o 2019 hyd at 2024

GanGwydion Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Caerdydd mae cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi cyfaddef ei bod wedi newid dyddiad ar lun pasport er mwyn cael mynediad i safle gamblo ar y we.

Roedd Katie Wallis, a arferai gael ei hadnabod fel Jamie Wallis, fod i wynebu dau gyhuddiad - bod â phasbort ffug, a bod â phasbort ffug gyda bwriad amhriodol.

Yn cynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr o 2019 hyd at 2024, fe ganfu'r llys Wallis yn ddieuog o'r cyhuddiadau hynny ar ôl cytuno i bledio'n euog i gyhuddiad newydd o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron.

Cafodd ei rhyddhau'n amodol am naw mis.

Ar ran yr erlyniad, dywedodd y bargyfreithiwr Richard Posner fod gan Wallis "broblem gamblo oedd yn cael ei chydnabod" ac roedd wedi "cymryd camau" i fynd i'r afael â'r mater trwy gofrestru gyda "Gamstop" - gwasanaeth sy'n atal unigolyn rhag cael mynediad at wefannau gamblo.

Roedd Wallis mewn cyfnod o wellhad pan aeth yn Aelod Seneddol, meddai Mr Posner.

Pasbort ffisegol heb gael ei 'newid'

Ym mis Ebrill 2022, mewn cyfnod pan oedd yn dioddef yn feddyliol, defnyddiodd Wallis gyfrifiadur personol i newid y dyddiad ar lun o basbort, er mwyn medru cael mynediad at wefan gamblo.

Clywodd y llys fod gan Wallis basbort ffisegol dilys oedd heb gael ei "newid", a nad oedd chwaith wedi "ceisio defnyddio llun o unrhyw un arall".

Cafodd y barnwr wybod bod Wallis wedi gwario arian ar y wefan gamblo - pres a gafodd ei golli - ond na wnaeth unrhyw un arall ddioddef unrhyw golled ariannol.

Clywodd y llys mai digwyddiad unigol oedd hwn a bod Wallis wedi gweithredu'n fyrbwyll.

Mae Wallis wedi ailgyflwyno cais sy'n ei rhwystro rhag defnyddio gwefannau gamblo.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.