Cyllideb atodol Plaid Cymru yn pasio gyda chefnogaeth y blaid Lafur

Elin JonesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Rydym yn buddsoddi'n ofalus fel bod pob punt yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf" meddai Elin Jones

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi pasio eu cyllideb atodol £354m yn y Senedd ar ôl methu â gwneud hynny yn yr haf.

Roedd Llafur wedi gwrthod cefnogi'r cynllun gwariant ym mis Gorffennaf yn dilyn anghydfod am wario mwy ar addysg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Roedd Llafur wedi bod yn galw am wario £100m yn fwy ar anghenion dysgu ychwanegol eleni, ac mae'r gyllideb sydd wedi pasio yn cynnwys £60m ychwanegol ar hynny.

Roedd 54 o blaid pasio'r gyllideb nos Fawrth - sef Plaid Cymru a Llafur - a 39 yn erbyn.

Am nad oes gan Blaid Cymru fwyafrif yn y Senedd, roedd yn rhaid iddyn nhw gael cefnogaeth plaid arall er mwyn gallu pasio'r cynllun gwariant.

Colli'r bleidlais wreiddiol wnaeth y llywodraeth ar 14 Gorffennaf, sef cyfle cyntaf Plaid Cymru i adolygu gwariant y llywodraeth ers ennill yr etholiad fis Mai, gyda dim un blaid arall yn ochri gyda'r cynlluniau.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud fod trafodaethau ar waith i geisio osgoi sefyllfa debyg pan fydd y gyllideb nesaf yn cael ei thrafod.

Ken SkatesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates, arweinydd Llafur Cymru, fod yr "arian y mae Llafur Cymru wedi'i sicrhau yn chwistrelliad ariannol tymor byr hanfodol i ysgolion"

Ymhlith y buddsoddiadau eraill gan Lywodraeth Cymru yn y gyllideb y mae:

  • £145m ychwanegol i helpu cleifion i gael eu gweld yn gyflymach gan y GIG;

  • £55m i helpu cannoedd yn rhagor o deuluoedd i gael mynediad at ofal plant a ariennir i'w plant dwy flwydd oed;

  • £15m i sicrhau bod rhagor o ddisgyblion ysgol uwchradd sydd angen prydau ysgol am ddim yn gallu eu cael.

'Buddsoddi'n ofalus'

Dywedodd y gweinidog cabinet dros gyllid yn llywodraeth Plaid Cymru, Elin Jones, fod "pobl Cymru wedi dweud wrthym beth sydd bwysicaf, ac mae'r gyllideb atodol hon yn cyflawni'r blaenoriaethau hynny".

"Rydym yn buddsoddi'n ofalus fel bod pob punt yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf: Amseroedd aros byrrach yn y GIG, mwy o ofal plant i deuluoedd, a gwasanaethau cyhoeddus gwell.

"Rydym hefyd yn darparu £60m pellach ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, fel bod pob plentyn yn cael y cymorth sydd ei angen arno i ffynnu."

Dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates: "Mae'r arian y mae Llafur Cymru wedi'i sicrhau yn chwistrelliad ariannol tymor byr hanfodol i ysgolion, ac mae'n newyddion da i ddysgwyr sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw.

"Mae'n cynrychioli £1,500 ychwanegol ar gyfer pob plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol.

"Rhaid i Blaid Cymru nawr sicrhau bod yr arian hwnnw'n cyrraedd ysgolion a disgyblion cyn gynted â phosibl.

"Mae llawer mwy i'w wneud o hyd o ran cyllid tymor hir, a byddwn yn parhau i ymladd am fwy o arian ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer pobl ifanc, cyn cyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.