'Dydy'r ymddeoliad ddim ar y gorwel bellach. Mae ar garreg y drws'

Bydd Dewi Llwyd yn cyflwyno rhaglen etholiad am yr unfed tro ar hugain, a'r tro olaf, ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Dydy'r ymddeoliad ddim ar y gorwel bellach. Mae ar garreg y drws!
Rhaglen etholiad yr wythnos hon ar BBC Radio Cymru fydd yr olaf i mi gael y fraint o'i chyflwyno - yr unfed tro ar hugain i mi wneud hynny.
O ddyddiau Margaret Thatcher hyd at gyfnod Syr Keir Starmer ac Eluned Morgan, mae'r rheiny'n cynnwys deg etholiad cyffredinol, saith etholiad Cynulliad a Senedd, a phedwar refferendwm.
Er fod nosweithiau hir a di-gwsg rhaglenni'r canlyniadau'n aml wedi bod yn rhai cyffrous a chofiadwy, mae'n rhaid cyfaddef nad ydw i'n gwrthwynebu'r ffaith mai cyfrif yn ystod oriau call y dydd y byddan nhw ddydd Gwener.
Dewi Llwyd i ymddeol ar ôl 46 mlynedd o ddarlledu
- Cyhoeddwyd6 awr yn ôl
Etholiad cyffredinol 1983 oedd y tro cyntaf imi ddarlledu trwy'r nos - rhaglen etholiad gyntaf S4C - ac mae'r gwrthgyferbyniad rhwng y rhaglen honno a'r rhai a ddaeth yn ei sgil yn aruthrol.
Yr oes ddigidol, gyfrifiadurol sydd wedi trawsnewid pethau.
Mae'n anodd credu erbyn hyn fod y canlyniadau ar y noson honno'n cael eu rhoi imi ar ddarnau o bapur gan gydweithwyr yn eistedd y tu ôl imi.
Roedd hi'n noson gofiadwy i Margaret Thatcher a'r Ceidwadwyr, ac roedd y darpar Aelod Seneddol Ceidwadol, Rod Richards yn rhan o'n tîm cyflwyno ni.
Dangos ar fap y newid gwleidyddol oedd yn digwydd oedd tasg Rod, a darn enfawr o bapur oedd y map hwnnw.
Aeth ati i ddadansoddi gyda ffon yn ei law fel pe bai'n arwain côr gan ennyn sylw braidd yn anffafriol yn rhifyn yr haf hwnnw o'r cylchgrawn Lol!
Gwleidydda: Cofio'r Cyfri gyda Dewi Llwyd
Dewi Llwyd yn hel atgofion am ei yrfa darlledu mewn pennod arbennig gyda Vaughan Roderick
Mae'n braf gallu dweud bod safon y rhaglenni wedi codi'n arw ers y dyddiau hynny.
Mae'r cof yn gallu bod yn greadur digon od.
Weithiau mae fel pe bai'n dal ei afael ar bethau pitw.
Yn etholiad 1987 daeth ton newydd o Aelodau Seneddol i Dŷ'r Cyffredin - pobl a gafodd gryn ddylanwad ar wleidyddiaeth Cymru wedi hynny.
Yn eu plith nhw roedd Alun Michael, Paul Flynn, Paul Murphy ac Ieuan Wyn Jones.
Yr amlycaf ohonyn nhw heb os oedd y darpar brif weinidog, Rhodri Morgan, ac am ryw reswm mi alla i gofio hyd heddiw iddo gyrraedd y stiwdio deledu'r bore wedyn, yn edrych yn flêr tu hwnt mewn rhyw fath o grys cowboi.
"Roeddwn i'n meddwl mai cyfweliad radio oedd hwn i fod!"

Roedd rhaglen ganlyniadau Refferendwm Datganoli 1997 yn un o'r rhai mwyaf cofiadwy i Dewi Llwyd
Roedd 1997 yn flwyddyn etholiadol fawr.
Ar 1 Mai cafodd Tony Blair a Llafur Newydd fuddugoliaeth ysgubol gan ennill 34 o'r 40 sedd yng Nghymru.
Ond mae'n siŵr mai rhaglen y refferendwm ym mis Medi'r flwyddyn honno ydy'r un a fydd yn aros hiraf yn y cof.
Wna i fyth anghofio John Meredith, ein gohebydd yn neuadd y cyfrif, yn datgelu, cyn pawb arall, fod y canlyniad yn Sir Gaerfyrddin yn mynd i olygu mai 'Ie' i ddatganoli a fyddai'n ennill trwy Gymru.
Awr ynghynt, am dri o'r gloch y bore, roedd hi'n ymddangos mai fel arall y byddai hi, a doedd un o'n panelwyr ni ar y noson ddim yn gallu celu ei siom.
Dan deimlad, penderfynodd Dafydd Iwan adael y stiwdio.
Ond pan gyhoeddwyd canlyniad Sir Gaerfyrddin, roedd Dafydd yn ôl yn ei sedd.
Tua'r cyfnod yna y dechreuodd y rhaglen dderbyn e-byst gan wylwyr a gwrandawyr.
Roedd yna sylwadau difyr, cwestiynau treiddgar, ambell englyn, ac o bryd i'w gilydd, cwynion.
Daeth un o'r rai cyntaf o Gaernarfon - 'mae'n warthus nad oes gynnoch chi gamerâu yma!'
Gan fod cymaint o etholaethau, roedd yn rhaid i'r golygyddion ddewis a dethol lle dylid anfon gohebwyr a chamerâu.
Yn yr achos yna, dwi'n tybio eu bod nhw wedi penderfynu na fyddai yna ganlyniad annisgwyl yng nghadarnle Dafydd Wigley.
Gan mai dim ond 16 o etholaethau sydd yna'r tro hwn, bydd gan y rhaglenni radio a theledu ohebwyr ym mhob etholaeth.

Fe ddechreuodd Dewi Llwyd ei yrfa ddarlledu gyda'r BBC yn 1979
Mae pethau'n gallu mynd o chwith, ond camp y cyflwynydd ydy ceisio llywio'r llong yn weddol esmwyth drwy'r cyfan.
Dwi'n dal i wrido wrth gofio imi gyhoeddi canlyniad anghywir un tro, a'i drafod am rai munudau wedyn pan nad oedd y dechnoleg yn gweithio fel y mae hi heddiw.
Dim rhyfedd imi bwysleisio ar hyd y blynyddoedd fod yn rhaid cael y canlyniad yn gyflym ac yn gywir!
Anaml y byddwn i'n cynhyrfu, ond mi gyrhaeddais y stiwdio ar gyfer un rhaglen etholiad gan sylweddoli bod ei dechrau hi'n mynd i fod dan gwmwl o rew sych - y math o beth mae rhywun yn ei weld mewn sioe adloniant ysgafn.
Mae arna i ofn imi ddweud wrth y tîm cynhyrchu y byddai'n rhaid iddyn nhw ddewis rhwng y cyflwynydd neu'r rhew sych!

Bu Dewi Llwyd yn gyflwynydd rhaglenni Newyddion ar S4C am flynyddoedd
Mae'r atgofion am raglenni'r gorffennol ar y cyfan yn rhai melys.
Roedd llawer mwy yn gwylio neu'n gwrando ar raglenni eraill y bûm yn eu cyflwyno fel Pawb a'i Farn neu Bore Sul, yn sicr felly erbyn i ni gyrraedd oriau mân y bore.
Ond roedd y rhaglenni etholiadol yn cynnig her nad oedd ei thebyg i ddarlledwr.
Roedd rhywun wastad yn ymwybodol fod cynulleidfa deyrngar yn ein dilyn bob cam o'r ffordd, fel un teulu mawr yn dod at ei gilydd.
Ar hyd y blynyddoedd mae cwmni dau aelod arbennig o'r teulu hwnnw wedi bod yn amhrisiadwy.
Mae Vaughan Roderick wedi bod wrth fy mhenelin o'r dyddiau cynnar, a rhyw ddeng mlynedd ar hugain yn ôl daeth llencyn ifanc o'r enw Richard Wyn Jones i ymuno â ni.
Mae gofyn ambell gwestiwn iddyn nhw a gwrando ar y ddau'n dadansoddi ar noson neu ddiwrnod y canlyniadau wedi bod yn un o uchafbwyntiau'r yrfa.
Bydd yn fraint cael gwneud hynny unwaith eto ddydd Gwener.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.