'Creisis' yn wynebu cartrefi gofal os na fydd pobl tramor yn cael gweithio

- Cyhoeddwyd
Mae rhai o reolwyr o fewn maes gofal wedi dweud wrth Newyddion S4C y gallai cartrefi wrthod gofal i bobl hŷn sydd â dementia oherwydd prinder staff o dramor.
Yn ôl Fforwm Gofal Cymru, corff sy'n cynrychioli dros 400 o gartrefi gofal, mae tynhau'r rheolau fisa yn ogystal â'r gwaharddiad ar recriwtio o du allan i'r Deyrnas Unedig yn rhoi pwysau mawr ar y sector.
Nid yw polisïau mewnfudo wedi'u datganoli ond mae nifer sylweddol o wasanaethau gofal yng Nghymru yn dibynnu ar weithwyr o dramor.
Llynedd fe wnaeth Llywodraeth San Steffan roi stop ar y drefn o recriwtio gweithwyr gofal o dramor.
Erbyn hyn mae'n rhaid i gwmnïau gyflogi gweithwyr o Brydain neu ymestyn fisas y rhai sydd yma yn barod.
Dywed rheolwyr bod newidiadau cyson i'r rheolau yn creu ansicrwydd.

Mae Arati yn dod o India ac wedi bod yn gweithio yng Nghymru ers tair blynedd
Mae Fahim, sy'n wreiddiol o Bangladesh, yn gweithio yng Nghymru ers pedair blynedd, ac mae Arati o India yma ers tair.
Dywedodd Arati nad oedd yn siŵr o'r rheolau; "Mae'n newid bob chwe mis, bob tri mis, rheolau gwahanol. Dy'n ni ddim hyd yn oed yn gwybod beth sy'n digwydd nawr."
Ychwanegodd ei fod yn "straen i bawb".
Mae David Edwards, sy'n derbyn gofal yng ngofal Bryn Seion Newydd yng Nghaernarfon, yn falch iawn o'u cael yno.
"Maen nhw jyst yn neud y gwaith ac yn ei wneud yn dda, fel bo' nhw 'di dysgu neud o yn eu cartrefi eu hunain dramor.
"Maen nhw'n ffeind iawn, ac ma' isio rhoi pob chwarae teg iddyn nhw. Maen nhw'n grêt."
Er bod cyflogau swyddi gofal yn uwch yng Nghymru, mae Fahim ac Arati yn dweud mai cariad at y gwaith sy'n eu gyrru nhw, nid y pres.
'Creisis mawr'
Dywedodd Sandra Evans, rheolwr cartref gofal Bryn Seion Newydd ei fod am fynd yn "greisis mawr" os nad oes dim byd yn newid.
"Mae'n gallu bod yn anodd ofnadwy i recriwtio pobl leol yma ym Mryn Seion.
"'Da ni'n 90% yn siarad Cymraeg. Ond dwi'n gwybod mewn cartrefi eraill, maen nhw'n stryglo'n ofnadwy i gael gweithwyr."
Pan gafodd ei holi a fyddai codi cyflogau yn denu mwy o bobl i ymgeisio am y swyddi, dywedodd ei fod yn "gyflog bach del, ond yn ofnadwy o anodd i recriwtio".
Er iddi ddweud nad yw'n broblem amlwg i'r cartref hwnnw yng Nghaernarfon, dywedodd ei bod yn ymwybodol bod nifer o gartrefi eraill yn cael trafferth.
"Ma' pobl leol yn trio am waith ond wedyn pan mae'n dod i'r interviews, dy'n nhw ddim yn troi fyny."

Dywedodd Sandra Evans y bydd yna argyfwng os nad oes newid
Os nad oes gan gartrefi gofal ddigon o staff, mae Fforwm Gofal Cymru yn dweud y bydd rhaid lleihau'r gofal neu gau rhai cartrefi yn llwyr.
Gyda'r esgid yn parhau i wasgu ar wasanaethau gofal, mae arbenigwyr cyllid cynghorau sir yn dweud y bydd hi'n her i'r llywodraeth nesaf.
Er nad ydi mewnfudo'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru mae cais wedi rhoi i'r pleidiau am eu hymateb.
Pwysleisio bod recriwtio rhyngwladol yn hanfodol i gadw gwasanaethau gofal i fynd mae Plaid Cymru.
Maen nhw'n dweud y bydden nhw'n brwydro i gael system fisa penodol i Gymru a rhestr o alwedigaethau lle mae prinder i neud yn siŵr nad yw diffyg staff cymwys yn rhwystr i wasanaethau cyhoeddus.
Mae'r Ceidwadwyr yn cydnabod fod 'na bwysau mawr ar y gwasanaethau gofal ond yn dweud nad dibynnu ar weithwyr o dramor ydy'r ateb.
Mae angen cefnogi'r gweithlu sydd yma'n barod, medden nhw, a gwneud gofal yn yrfa fwy deniadol a chynaliadwy.
Mae cais wedi ei roi i'r Democratiaid Rhyddfrydol, Y Blaid Werdd, Reform a Llafur am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill

- Cyhoeddwyd23 Ebrill
