O Grymych i'r Bahamas: 'Cael fy nhalu i deithio'r byd'

Mae Shannon Mathias, yma ym Mhortiwgal, yn "symud i wlad newydd bob dydd" fel rhan o'i swydd yn y diwydiant hwylio
- Cyhoeddwyd
Tra bo'r rhan fwyaf o bobl yn gorfod talu i deithio'r byd, mae Shannon Mathias o Sir Benfro yn cael ei thalu miloedd am y pleser fel rhan o'i swydd yn y diwydiant hwylio.
Ar ôl graddio, fe wnaeth Shannon ddod o hyd i gwrs deckhand ar hap ac mae wedi "cwympo mewn cariad" â'i swydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Wrth siarad â BBC Cymru o gwch hwylio yn yr Eidal, dywedodd: "Ti'n symud i wlad newydd bob dydd.
"Ti'n gweld pobl gyda lot o arian a ti'n meddwl pam so' i'n gallu 'neud e' a dal cael rhyw fath o yrfa?"
- Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Disgrifiad o’r llun, Shannon yn mwynhau ei hamser rhydd prin yn Peru
1 o 4
Wedi cwblhau gradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, doedd Shannon, sy'n 24 oed, ddim yn siŵr beth oedd y cam nesaf - dod o hyd i swydd, mynd yn ôl i astudio neu deithio.
"I fod yn onest, o'n i methu ffindio unrhyw gyfleoedd oedd yn siwtio'n dda iawn," meddai.
"Do'n i ddim mo'yn bod yn stuck yn gwneud rhywbeth do' ni ddim eisiau ei wneud."
Ond yn lle dewis rhwng y tri fe wnaeth hi gwblhau cwrs gweithio ar gychod- gan gynnwys modiwlau ar gymorth cyntaf, diffodd tân, a goroesi ar y môr.
Cerdded y cei gyda CV yn ei llaw wnaeth Shannon felly ar gychwyn ei gyrfa - gan weld cychod hwylio gwerth miliynau am y tro gyntaf erioed.

St Kitts yn y Caribî yw un o'r hoff lefydd y mae Shannon wedi ymweld ag ef fel rhan o'i swydd
Dywedodd Shannon bod ei phrofiad cyntaf o weithio yn y diwydiant yn "ddychrynllyd" ac fe drodd at Google a fideos Youtube er mwyn dysgu am y swydd.
"Mae rhaid i ti ddysgu'n gloi achos unwaith mae'r gwestai ar y cwch - does dim llawer o ddewis gen ti.
"O'n i'n dechrau meddwl, dyw hyn ddim yn fi."
Yn fuan iawn fe wnaeth Shannon ddod yn gyfarwydd â'r gwaith a bellach mae wedi gweithio ar ddegau o deithiau - mae ei chyfrifoldebau yn amrywio o weini diodydd, tywys gwesteion mewn gweithgareddau ar y tir, a gwaith cynnal a chadw'r cwch.
Er bod "dim llawer" o gydbwysedd gwaith a bywyd, mae Shannon wedi cael y cyfle i deithio - mae wedi bod yn crwydro Miami, Awstralia, a'r Bahamas yn ystod ei hychydig o amser rhydd.
Yr uchafbwynt oedd ynys St Kitts yn y Caribî a meddai Shannon: "Ma' 'na folcano mawr, mynyddoedd i heico, ac mae'r bobl mor gyfeillgar.
"Elen i nôl nawr, os bydden i'n gallu."

Er wedi arfer â bywyd ar y dŵr mae Shannon yn cyfaddef bod salwch môr dal yn gallu effeithio ar y criw
Gan gostio tua £350,000 ar gyfer wythnos, mae'r cwch yn cael ei ddisgrifio fel "gwesty sy'n arnofio"- gyda staff gweini a chogyddion ar alw bron bob eiliad o'r dydd.
Mae'r Shannon a'i chyd-weithwyr yn cael tâl sylfaenol gan yr asiantaeth ond yn derbyn miloedd o arian ychwanegol gan gleientiaid.
"O'n i'n gwybod nad oedd cyfleoedd gatre' oedd yn mynd i alluogi fi i 'neud beth o'n i'n moyn 'neud, sef teithio.
"Dwi'n rili hapus nes i wneud y penderfyniad."

Mae Shannon yn dweud bod yr arian y mae hi'n ennill yn help iddi ar gyfer y dyfodol
Gan nad oes angen talu rhent a bod cogydd yn paratoi ei holl brydau, mae Shannon yn galw ei chyflog yn "arian hwyl" - ei gobaith yw ei ddefnyddio i deithio mwy a phrynu tŷ.
Ond a yw rhywun yn diflasu ar deithio'r byd?
"Byddwn i'n idiot i adael e' nawr achos fi'n cael y cyfle i drafeili o gwmpas am ddim ar gwch," dywedodd Shannon.
Ei bwriad yw dod adref yn y pen draw ond yn y cyfamser mae'n parhau i wylio pob pennod o Pobol y Cwm yn ei chaban - ac mae hynny'n rhoi digon o flas o adref iddi ar hyn o bryd.


