Y gantores Phyllis Kinney ac awdurdod ar ganu gwerin wedi marw

Roedd Phyllis Kinney a'i diweddar ŵr Dr Meredydd Evans yn cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau mwya' dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores Phyllis Kinney wedi marw yn 103 oed.
Roedd hi a'i diweddar ŵr Dr Meredydd Evans yn cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau mwya' dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru.
Roedd cerddoriaeth - yn fwy diweddar canu gwerin - yn ganolog i fywyd y gantores opera o America, Phyllis Kinney.
Fe wnaeth gyfarfod â'r ysgolhaig a'r cerddor gwerin Dr Meredydd Evans neu Merêd ym Mangor.
Fe briododd y cwpwl gan symud i fyw i America ar ddechrau'r 50au.
Ar ôl dychwelyd i Gymru fe aeth hi a'i gŵr ati i sicrhau fod caneuon gwerin Cymru ar gof a chadw.
Cyfrannodd nifer o erthyglau, cyfnodolion a llyfrau cydnabyddedig ym maes cerddoriaeth.

Roedd Phyllis Kinney a Meredydd Evans yn byw yng Nghwmystwyth yn ystod eu blynyddoedd diweddaraf
Wrth roi teyrnged i'w mam ddydd Llun, dywedodd Eluned Evans: "Roedd hi'n gymeriad ac yn berson dawnus ac roedd hi a Dad wedi gwneud gymaint o bethau efo'i gilydd.
"Roedd hi'n ddynes arbennig - yn caru ei mamwlad yn America, yn caru Cymru a'r traddodiad gwerin Gymraeg ac yn caru ei theulu.
"Roedd Mam yn berson fel dad – roedd y ddau ohonyn nhw ar wahân yn bobl ddawnus, ac roedd diddordebau ganddyn nhw, yn gweithio ar wahân ond hefyd yn gryfach pan oedden nhw yn gweithio efo'i gilydd."
Aeth yn ei blaen i ddweud bod ei mam wedi dod i Gymru "pan oedd hi tua 25 mlwydd oed o America ar ei phen ei hun, a chroesi'r môr.
"Roedd hi'n ddewr iawn i fynd i wlad estron a thrio neud gyrfa ac enw iddi hi ei hun ac yna yn cwrdd â'r dyn 'ma Mered – sef dad – ac yn dal i gadw ei phersonoliaeth hi.
"Roedd hi'n ddynes gref, ddawnus, golygus a steilysh iawn - mae'n golled i'r teulu
"Ro'n i mor browd ohoni – y ffordd yr oedd wedi byw ei bywyd a chymryd at Gymru, y Cymry a'r Gymraeg a'r traddodiad i'w chalon hi.
"Bydd chwith ar hôl hi."
Cysylltiad Phyllis â Chymru
Wrth siarad ar raglen Caryl ar Radio Cymru ym mis Gorffennaf 2025 dywedodd Eluned Evans, merch Phyllis Kinney a Meredydd Evans, bod cysylltiad ei mam â Chymru yn mynd yn ôl i 1940.
"Ym Michigan State College fe wnaeth hi gwrdd â'i thiwtor llais Gomer Llewellyn Jones o Dreforys ac fe wnaeth o ddysgu pum alaw werin i Mam yn Saesneg.
"You have a wonderful voice but I don't want you to murder my beautiful language", meddai.
"Yna, pan wnaeth Mam fynd i Juilliard Conservatory of Music yn Efrog Newydd fe ddaeth hi ar draws Cynolwyn Pugh - gweinidog y capel Cymraeg yno a thrwyddo fo fe wnaeth Mam ddysgu caneuon Cymraeg a bu'n canu caneuon ac emynau Cymraeg mewn cyngherddau yn Efrog Newydd."
Trwy'r Parchedig Cynolwyn Pugh y daeth hi i Loegr ac yna i Gymru.
"Roedd Mam yn aros gyda dynes o'r enw Janet Evans ac aeth hi â Mam i ogledd Cymru ac i'r BBC ym Mangor.
"Roedd Myfanwy Howells ar y pryd yn gwneud rhaglen ar ferched Cymru ac wrth gwrs wrth ei bodd ei bod wedi cwrdd ag Americanes oedd yn medru canu yn Gymraeg - ac ar y diwrnod roedd Mam yn recordio pwy oedd yng nghantîn y BBC ond Triawd y Coleg.
"Ie ac yn fanno y cyfarfu Dad a Mam gan ffurfio partneriaeth oes - ie ac oes o ganu.
"Pan yn America dwi'n cofio bod yng nghefn y car wrth i'r ddau fynd i gynnal cyngherddau a'r ddau yn canu yn y car ar y ffordd yno ac ar y ffordd nôl."

Yn 2019 Dr Meredydd Evans (bu farw yn 2015) a'i weddw Phyllis Kinney a dderbyniodd Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig.
Dywedodd y trefnwyr fod eu cyfraniad i Gymru yn "amhrisiadwy" a bod eu dealltwriaeth o gerddoriaeth werin yn rhywbeth roedd y ddau "yn falch iawn i basio ymlaen".
Fel y noda R Arwel Jones yn Y Bywgraffiadur roedd cyfraniad Meredydd Evans a Phyllis Kinney i ardal Cwmystwyth yng Ngheredigion "yn aruthrol" am dros 30 mlynedd.
"Roedd y ddau yn cefnogi, yn adfer, sefydlu a chynnal y gymdeithas ddiwylliannol, y capel, y papur bro, a'r eisteddfod ac yn dysgu Cymraeg i lu o'r mewnfudwyr oedd yn gymdogion iddynt.
"Er bod Cwmystwyth yn gymharol anghysbell tyfodd yr aelwyd i fod yn gyrchfan i bobl o bob oed, o ledled Cymru a'r byd a fyddai'n tyrru yno i fwynhau cwmni ac i elwa ar haelioni deallusol y ddau."
Yn ystod eu cyfnod yng Ngheredigion roedd y ddau yn ymwelwyr cyson â'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
"Roeddynt wedi trwytho eu hunain yn hanes y caneuon a'r alawon gwerin," ychwanegodd R Arwel Jones.
"Ymddangosodd eu gwaith yn rheolaidd yn Canu Gwerin (Cylchgrawn y Gymdeithas Alawon Gwerin) a chyhoeddwyd nifer o gasgliadau o ganeuon yn seiliedig ar eu hymchwil yn ogystal â chasgliadau o ysgrifau yn olrhain hanes gwahanol elfennau o'r traddodiad.
"Byddai'r ddau yn ymchwilio, a chan amlaf, yn cyhoeddi fel tîm ond roedd y ddau hefyd yn gallu cyfarch cynulleidfaoedd gwahanol wrth i Phyllis gyhoeddi i gynulleidfa Saesneg a Merêd i gynulleidfa Gymraeg."
Mae Phyllis Kinney yn gadael ei hunig blentyn, Eluned, a'i theulu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2019

- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019
