Dedfryd arall o garchar i gyn-arweinydd am gam-drin plant yng Ngwynedd

Wedi'r ddedfryd ddydd Mercher, bydd Paul Vaughan yn parhau yn y carchar nes y bydd yn 99 oed
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd y Cadetiaid Môr wedi cael dedfryd o 15 mlynedd yn y carchar am droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn dau fachgen.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher bod Paul Vaughan wedi cam-drin y bechgyn yn rhywiol ar sawl achlysur dros 40 mlynedd yn ôl, gan gynnwys mewn pabell yn Eryri, mewn clwb hwylio yn y Bala, yn ei gartref, ac yn ei gar.
Cafodd Vaughan, 75, ei garcharu am 10 mlynedd a hanner am gam-drin rhywiol mewn achos gwahanol y llynedd.
Bydd y ddwy ddedfryd yn cydredeg.
Wedi'r ddedfryd ddydd Mercher, bydd yn parhau yn y carchar nes y mae'n 99 oed.
Dywedodd dioddefwr, 42 mlynedd ar ôl iddo weld Vaughan am y tro diwethaf, "dyw'r cyfnod yna o fy mywyd erioed wedi fy ngadael".
'Annhebygol y bydd y diffynnydd yn gadael y carchar'
Dywedodd y Barnwr Nicola Jones wrth y dioddefwr: "Rydych chi'n ddyn arbennig. Mae'r rydych chi wedi'i wneud heddiw yn wirioneddol ddewr."
Ychwanegodd: "Mae'n dorcalonnus meddwl am yr effaith y mae gweithredoedd y dyn yma wedi'i chael arnoch. Rydych chi'n well nag ef."
Cyfaddefodd Vaughan i 15 trosedd o ymddwyn yn anweddus (indecency offences).
Dywedodd yr erlynydd Jemma Gordon fod y dioddefwyr wedi bod yn yr ysgol yn Y Rhyl lle'r oedd y diffynnydd yn byw.
Dywedodd Patrick Geddes, ar ran yr amddiffyniad, fod gan Vaughan gamau cynnar o ddementia. Byddai'n 84 oed pan fyddai ei ddedfryd flaenorol o garchar am gam-drin rhywiol wedi dod i ben.
Honnodd y diffynnydd ei fod wedi cael ei gam-drin yn rhywiol hefyd.
Dywedodd y Barnwr Jones fod Vaughan wedi cyflawni gweithredoedd "ffiaidd".
Ychwanegodd y barnwr: "Mae'n annhebygol y bydd y diffynnydd yn gadael y carchar yn ystod ei oes."
Mae cyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran dioddefwr y pedoffeil wedi apelio am gymorth gan dystion posibl, yn enwedig y rhai a fynychodd deithiau hwylio ar Lyn Tegid.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.