Cyngor Conwy i fwrw 'mlaen â chynlluniau i gau dwy ysgol wledig

Mae corff llywodraethol Ysgol Ysbyty Ifan yn ddamniol o fwriad y cyngor
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Conwy wedi penderfynu bwrw 'mlaen â chynlluniau i gau dwy ysgol gynradd yn Ysbyty Ifan a Betws-y-coed.
Mae lle i 40 o blant yn Ysgol Ysbyty Ifan, ond 14 sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd. Mi fydd y cyngor yn parhau â'r broses statudol o gau'r ysgol erbyn 31 Awst y flwyddyn nesaf.
14 disgybl sydd yn Ysgol Betws-y-coed hefyd, ond mae lle i hyd at 100, yn ôl y cyngor sir ac mi fyddan nhw'n parhau eto â'r broses statudol i gau'r ysgol honno.
Bydd gan bobl 28 o ddiwrnodau i wrthwynebu'r ddau fwriad ac mi fydd y materion yn cael eu cyflwyno o flaen y cabinet am benderfyniadau terfynol.
Mae'r cyngor wedi cydnabod nad yw penderfyniadau i gau ysgolion yn hawdd, a'u bod yn cael "effaith sylweddol" ar gymunedau.
Ond maen nhw'n mynnu bod "dyletswydd" arnyn nhw, o dan reolau Llywodraeth Cymru, i "sicrhau addysg gynaliadwy o ansawdd uchel" gan ymateb newid yn "nifer y disgyblion a demograffeg" leol.

Dywedodd rhiant yn Ysgol Betws-y-coed ei bod yn poeni y bydd "pobl yn symud i ffwrdd" heb ysgol gynradd yn y pentref
Mae corff llywodraethol Ysgol Ysbyty Ifan yn ddamniol o fwriad y cyngor, gan ddweud nad ydy opsiynau eraill wedi eu hystyried yn llawn a bod dyletswydd ar y cyngor i ystyried cenedlaethau'r dyfodol hefyd.
"Mae'r ysgol yma yn galon i'r gymuned," meddai un rhiant, Hefin Jones.
"Does 'na ddim llawer o bethau yn yr ardal, ac mae hi'n clymu pob peth efo'i gilydd."
Mae pryder wedi'i fynegi y bydd Betws-y-coed yn troi'n "yr Abersoch nesaf" pe bai'r ysgol yno'n cau.
Ychwanegodd rhiant yno, Ruth Roberts ei bod yn poeni y bydd "pobl yn symud i ffwrdd" heb ysgol gynradd yn y pentref.
"Maen nhw 'di ailwneud y cantîn a'r ffenestri, so mae 'na lot o botensial i'r ysgol os fysa fo'n cael ei gadw ar agor," meddai.

Mae Hefin Jones a Ruth Roberts yn poeni beth fydd effaith cau'r ysgolion ar y cymunedau
Mae llai na degawd ers i Lywodraeth Cymru ar y pryd gyflwyno polisi oedd yn rhagdybio yn erbyn cau ysgolion sydd â llai na 100 o blant.
Mae llywodraeth newydd Cymru'n dweud eu bod wedi "ymrwymo" i adeiladu cymunedau gwledig cryf a gwydn.
Dywedon nhw y byddan nhw'n "adolygu sut mae'r rhagdybiaeth" yn erbyn cau ysgolion gwledig yn cael ei gweithredu er mwyn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu "llywio yn gyntaf oll gan les pennaf y disgyblion".

Dywedodd Ffred Ffransis bod angen gweithredu'r rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig yn iawn
Dywedodd Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith eu bod yn falch o weld ymrwymiad Plaid Cymru i adolygu'r rhagdybiaeth, er mai "siom yw gweld nad yw o fewn blaenoriaethau'r 100 dydd cyntaf".
Yn y cyfamser, dywedodd bod angen gweithredu'r rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig yn iawn.
"Mae angen esbonio'r nod yn glir ac ar frys wrth awdurdodau lleol gan fod y mwyafrif yn rhoi pwyslais ar y gair rhagdyb gweithdrefnol yn erbyn cau, ac yn dehongli o hynny bod angen iddynt greu rhai adroddiadau ychwanegol a thicio mwy o focsys yn unig.
"Ond yn ymarferol gweithredu'r holl broses gyda rhagdyb o gau ysgolion er mwyn ceisio arbed arian.
"Caiff plant a chymunedau eu trin fel ffigurau ac ystadegau yn unig.
"Yr angen yw pwysleisio fod 'rhagdyb yn erbyn cau' yn golygu fod angen i awdurdod lleol gychwyn trwy drafod gyda llywodraethwyr pob ffordd bosibl o ddatblygu ysgol yn gadarnhaol, ac wedyn gynnig cau os nad oedd opsiwn arall."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
