Archif Capel Jewin yn 'swyno' ac yn 'obaith i'r dyfodol'
- Ffynhonnell y llun, Archif Capel Jewin

Disgrifiad o’r llun, Priodas yng Nghapel Jewin wedi iddo gael ei fomio yn 1940
1 o 4
- Cyhoeddwyd
Mae Capel Jewin yn nwyrain Llundain yn un o'r ychydig gapeli Cymraeg sydd ar ôl yn y ddinas, ac yn ddiweddar mae lluniau o orffennol y capel ar y cyfryngau cymdeithasol wedi creu cryn ddiddordeb.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe gafodd y capel ger y Barbican ei fomio, ac ymhlith y lluniau sydd wedi'u rhannu mae pâr ifanc yn priodi yng ngweddillion y capel.
Mae cofnodion yn dangos bod o leiaf dwy briodas wedi'u cynnal ym muriau'r capel.

Capel Jewin cyn y blitz, a'r capel presennol
Aelodau a chyfeillion y capel sydd wrth wraidd y syniad.
"Yr hyn ry'n i am ei wneud yw rhoi gwybod i bobl sy'n byw neu'n symud i Lundain ein bod ni yma," meddai Alistdair Wilson-Gough, pregethwyr lleyg sy'n dod yn wreiddiol o Ruthun.
"Mae 'na luniau o orffennol cythryblus iawn - ond wedi'r gyflafan fe godwyd capel arall hynod o hardd sy'n dangos bod yna wastad obaith."
Cafodd Capel Jewin ei ddinistrio yn ystod Medi 1940, ac fe gafodd y capel presennol ei agor yn 1960.
Ar un adeg roedd cannoedd yn mynychu'r capel, ond bellach 26 o aelodau sydd yno.

Plant Capel Jewin ar ôl Cymanfa Ganu'r Plant, a gafodd ei chynnal ar 6 Ebrill 1935
Un sydd wedi bod yn rhannu lluniau yw Bethan Davies - fe gafodd hi ei chodi yn y capel.
Roedd ei thad-cu John Davies a'i thad Glyn Davies yn flaenoriaid, a bellach mae Bethan yn flaenor yno.
"Roedd fy rhieni â busnes yn Rugby Street ac yn ffyddlon iawn yn y capel," meddai.
"Rwy' i wedi bod yn dod yma ers yn blentyn ac wedi codi fy mhlant i yma hefyd.
"Rwy'n cofio'r dyddiau da lle oedd 'na lot fawr ohonom ni'n dod yma - dros 300 a mwy - ac mae wedi bod yn braf rhannu lluniau o ambell ddigwyddiad y dyddiau a fu.
"Mae'r diddordeb sydd yn y lluniau o orffennol y capel wedi bod yn anhygoel, a beth sy'n braf yw bod rhai pobl yn 'nabod pobl yn y lluniau ac yna yn anfon lluniau eu hunain."

Alistdair Wilson-Gouch, Bethan Davies a'r Parchedig Richard Brunt - tri o'r rhai sy'n ceisio atgyfodi'r capel
Ddydd Sadwrn cyntaf Mehefin mae'r capel wedi trefnu taith fer a fydd yn olrhain cysylltiadau'r ddinas â Chymru.
"Y nod yw dangos bod yna Gymreictod yn y rhan hon o Lundain a bod croeso i bobl ddod atom unrhyw amser i'r capel," meddai'r gweinidog, y Parchedig Richard Brunt.
"Mae bywyd y ddinas yn gallu bod yn llethol ar adegau - ond mae yna wastad groeso yma yn Jewin a chyfle i fynychu oedfa a rhannu sgwrs a phrofiad."

David Thomas (hen daid i Morfudd Wyn Roberts) a chôr plant Jewin yn 1909
Ymhlith y rhai sydd wedi ymateb i'r lluniau mae Iona Warmington o Lanbedr Pont Steffan.
"Mae'r lluniau yn gwbl wefreiddiol ac wedi fy swyno i," meddai.
"Yn eu dyddiau cynnar roedd fy nheulu â busnes laeth yn Richmond Road, West Kensington Park ac rwy' bron yn siŵr mai Kate - chwaer mam-gu - yw'r ferch fach sy'n eistedd ar y llawr ar y chwith yn y côr.
"Merch fach naw oed yw hi'n y llun - bu farw rai blynyddoedd wedyn a hithau ond yn 13. Roedd ganddi gyflwr diabetes."

Dathlu Gŵyl Dewi yn y 1950au
"Fi hefyd yn gweld perthnasau eraill Evan Evans a'i wraig yn y cinio Gŵyl Dewi - roedden nhw'n berchen ar y Celtic Hotel a chwmni bysys," ychwanegodd Iona.
"Mae wedi bod yn hyfryd gweld y lluniau a darllen ymateb pobl. Mae'r cyfan wedi ennyn ryw chwilfrydedd ynof i ganfod mwy."

Chwiorydd Capel Jewin tua'r 1950au
Un arall sydd wedi anfon nifer o luniau yw Morfudd Wyn Roberts o Fethesda yng Ngwynedd.
"Roedd teulu fy rhieni o'r ddwy ochr yn mynd i Gapel Jewin - fy nhaid John Morley Jones a'i dri brawd, o Ledrod yng Ngheredigion yn wreiddiol, yn flaenoriaid yno.
"Yna wedi i fy nhad Emlyn Evans fynd i weithio yn Battersea fe gyfarfu â fy mam Eileen, a chyn dychwelyd i Gymru roedden nhw hefyd yn mynd i'r capel.
"Rwyf innau hefyd yn cofio mynd yno ac roeddwn wrth fy modd yn cael te prynhawn yn Llundain rhwng y ddwy oedfa.
"Mae gen i ac roedd gan fy rhieni atgofion melys iawn ac mae yma lond bocs o luniau - mae'n braf cael eu rhannu a chael ymateb i'r lluniau."

"Mae llawer mwy o ddiddordeb na'r disgwyl wedi bod yn y lluniau archif - a'n prif neges wrth gwrs yw bod y capel a'i gymdeithas yma i bobl beth bynnag yr angen," ychwanegodd Alistdair Wilson-Gough.
"Ry'n wrth ein bodd yn derbyn y lluniau a'r negeseuon ac mae croeso i bobl anfon mwy ac os ydyn nhw'n gwybod pwy sy'n y lluniau gorau'i gyd - fe fyddai cael enwau'r cwpwl briododd yn fonws go iawn."
Mwy am y stori yma ar Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul, ac yna ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.


