'Newid rhywedd yn ofal iechyd, a gwasanaeth atal hunanladdiad'

Sion Jewell
Disgrifiad o’r llun,

Mae triniaeth Sion wedi ei ganslo yn sgil y penderfyniad gan y Gwasanaeth Rhywedd

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl isod yn cyfeirio at hunan-niweidio.

Mae gwasanaeth newid rhywedd yn wasanaeth gofal iechyd - dyna neges un claf sydd newydd glywed na fydd eu llawdriniaeth yn mynd yn ei blaen.

Roedd Sion Jewell, 29 oed o Lanfairpwll ar Ynys Môn, yn gobeithio cael y driniaeth yr wythnos ddiwethaf, ond fe glywon nhw na fyddai hynny'n digwydd.

Roedd hynny wrth i Wasanaeth Rhywedd Cymru oedi llawdriniaethau, gan fod y bwrdd iechyd sy'n gyfrifol yn codi "pryderon" am nifer yr achosion newydd.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro mae'r cyfraddau yng Nghymru yn uwch na'r rheiny yn Lloegr.

'Completely torri calon'

"'Oedd fy nhriniaeth i fod ar yr 28ain o fis Awst a wnes i ffeindio allan 24 awr yn gynt bod o ddim yn mynd i ddigwydd o gwbl", meddai Sion.

"Wnaeth o gael ei ganslo completely. Nid postponement, canslo."

Roedd Sion wedi bwriadu cymryd y cam yma ers yn 11 oed: "Dwi'n heartbroken, completely torri calon.

"Dwi'n meddwl am y bobl sy' 'di aros yn hirach na fi, dwi 'di bod yn aros pum mlynedd, mae rhai ers dros 10."

Mae'n dweud mai'r Gwasanaeth Rhywedd oedd wedi ffonio a dweud na allai'r llawdriniaeth ddigwydd o dan ofal y Gwasanaeth Iechyd.

Y cam nesaf, meddai Sion, fydd mynd yn breifat: "Dwi'n mynd i gael y llawdriniaeth y flwyddyn yma, regardless o be mae'r bobl ma'n ddeud, dwi yn mynd yn breifat, dwi'n trio cael y pres yn barod.

"Ar y funud dwi'n byw bywyd arall, dwi'm yn byw bywyd fy hun."

Ychwanegodd: "Dwi'n flin, dwi'n upset, os dwi'm yn neud o rŵan, fydda i ddim yma. Ga'i fod yn onest efo chi, fydda i ddim yma."

"Dwi efo cymaint o dysphoria, dwi ddim yn gallu cymdeithasu, a gwneud petha' fydda person 29 normal yn gallu 'i neud."

Ychwanegodd Sion eu bod nhw'n poeni "y bydd pobl yn lladd eu hunain dros hyn".

Ond o gael y driniaeth, "faswn i'n gallu nofio yn y môr, petha sy'n rhoi cymaint o joy i bobl. Gallu mynd i ddawnsio, nofio a gwneud beth bynnag dwi'n gallu."

'Cyfeirio llawer mwy yng Nghymru'

Mewn llythyr i gleifion ddydd Gwener diwethaf, esboniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n rhedeg y gwasanaeth cenedlaethol, fod yna gais i "oedi atgyfeiriadau a llawdriniaethau cadarnhau rhywedd... tra bod adolygiad annibynnol yn cael ei wneud".

Dywedon nhw fod hyn "yn sgil pryderon bod nifer sylweddol uwch o bobl yn cael eu cyfeirio o'r gwasanaeth Cymreig o'i gymharu ag un Lloegr".

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Caerdydd a'r Fro, Paul Bostock bod "rhai cleifion wedi cael gwybod am yr oedi i'w triniaeth tra eu bod yn yr ysbyty yn paratoi".

"Mae llawdriniaeth yn gallu bod yn rhan bwysig a phersonol o ofal a thaith rhywun. Mae'n ddrwg gennym am yr effaith sylweddol y bydd hyn wedi ei gael ar gleifion a'u hanwyliaid.

"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cleifion, rhoi'r holl wybodaeth iddyn nhw a rhoi gwybodaeth glir am y camau nesaf yn eu gofal cyn gynted â phosib."

Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi'i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi'i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd

Mae'r newyddiadurwr Nick Wallis wedi bod yn ymchwilio i'r Gwasanaeth Rhywedd ers sawl mis, yn cynnwys dadansoddi ystadegau sy'n dod drwy geisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd bod "modd gweld yn syth bod Gwasanaeth Rhywedd Cymru'n cyfeirio cannoedd o gleifion yn 2024 a 2025" am lawdriniaethau.

Roedd y gyfradd "dair i bedair gwaith fesul pen o'i gymharu â chlinigau eraill y DU", meddai blog Wallis.

"Roedd y niferoedd yn amlwg yn wahanol iawn i'r atgyfeiriadau yng Ngogledd Iwerddon, Yr Alban a Lloegr", meddai wrth BBC Cymru.

Dywedodd ei fod wedi siarad ag un ddynes oedd yn poeni'n arw am ei phlentyn, am nad oedd y Gwasanaeth Rhywedd wedi ystyried materion iechyd eraill.

"Wnaethon nhw ddim ystyried y ffaith ei fod yn awtistig, ni wnaeth gael asesiad iechyd meddwl addas, ac roedd hi'n 'nabod ei mab, ac mae'n dweud ei fod angen gofal go iawn.

"Roedd hi'n bryderus iawn am y ffordd roedd y Gwasanaeth Rhywedd wedi gwneud iddi deimlo fel y gelyn am godi'r pryderon yma", meddai.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi cael cais am sylw.

'Siomedig ildio i bwysau allanol'

Yn ôl Reform UK yng Nghymru, mae'n gwneud synnwyr i oedi cyfeirio pobl am driniaeth ond mae "angen gwneud mwy er mwyn sicrhau bod adolygiad cynhwysfawr o'r gwasanaeth".

Galw am ymchwiliad annibynnol mae'r Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Matthew Jones yn Aelod o'r Senedd dros Blaid Cymru ac mae'n "siomedig fod y gwasanaeth wedi ildio i bwysau allanol". Mae'n dweud y dylai llawdriniaethau ail-ddechrau cyn gynted â phosib.

Mae Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd yn cydnabod y pryderon posib i gleifion a theuluoedd, a bydd rhannau eraill o'r gwasanaeth yn parhau, gan gynnwys cefnogaeth therapi hormonau a chefnogaeth seicolegol.

Mewn datganiad, dywedodd y llywodraeth bod y gweinidog yn "deall pryderon pobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniad", ac yn disgwyl i'r bwrdd iechyd a'r gwasanaeth iechyd ddarparu "cefnogaeth addas a symud ymlaen gydag unrhyw gamau nesaf sydd eu hangen fel blaenoriaeth".

Ychwanegodd bod y camau i oedi Gwasanaeth Rhywedd Cymru wedi eu cymryd i "sicrhau archwiliad, diogelu a throsolwg" a bod "cleifion yn derbyn gofal diogel ac effeithiol trwy brosesau rheoli sydd wedi eu cadarnhau".

Er bod Sion yn derbyn y bydd "tensiwn o bob ochr" ar driniaeth newid rhywedd ac nad ydy o'n bwnc du a gwyn, "dyfodol fi rŵan ydy dal bod yn draws, a dal bod yn anneuaidd, a dal i fyw a dal i fynd".

"Mae'r llawdriniaeth o'n i'n mynd i gael yn gender affirming care, ac mae hwnna yn health care, ac yn suicide prevention."

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi achosi pryder i chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.