Cymraes 'wedi ei syfrdanu' ar ôl ennill cyfres The Voice UK

Cate McHughFfynhonnell y llun, The Voice UK
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cate McHugh, sy'n byw gyda chyflwr Stargardt, wedi cofrestru fel person dall

GanIfan Ywain
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymraes a ddechreuodd ei gyrfa yn canu ar strydoedd Caerdydd wedi ennill cystadleuaeth The Voice UK eleni.

Cafodd rownd derfynol y gyfres ganu boblogaidd ei darlledu ar ITV nos Sadwrn, gyda Cate McHugh yn dod y person cyntaf o Gymru i ennill y gystadleuaeth.

Cate McHugh, 32 oed o Lanilltud Fawr, ddaeth i'r brig, gyda'r gantores yn dweud ei bod "wedi ei syfrdanu" ac nad oedd hi "wedi gallu prosesu'r peth eto".

Fe fydd Cate yn derbyn gwobr ariannol o £50,000 yn ogystal â chytundeb recordio gyda chwmni Universal Music Group.

Cate McHughFfynhonnell y llun, The Voice UK
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cate McHugh yn rhan o dîm Syr Tom Jones

Wrth siarad am ei thaith gerddorol, dywedodd Cate McHugh ei bod wedi penderfynu "mai Taylor Swift roeddwn i am fod" yn ei harddegau ar ôl cael gitâr fel anrheg, gan ddysgu ei halbwm Fearless cyfan "o'r dechrau i'r diwedd".

Yn 15 oed, dywedodd wrth ei rhieni ei bod am ganu ar y stryd yng Nghaerdydd, ac fe wnaethant ei chefnogi wrth sicrhau ei bod yn gallu gwneud hynny'n ddiogel.

Dywedodd fod canu ar y stryd a derbyn ceisiadau gan bobl oedd yn mynd heibio wedi helpu i feithrin ei hyder, cyn iddi fynd ymlaen i ganu ar longau mordaith.

Ers dros ddegawd mae Cate McHugh wedi bod yn byw gyda chyflwr Stargardt sy'n effeithio ar ei golwg ac mae hi bellach yn cael ei hystyried yn ddall.

'Nid dyna pwy ydw i'

Collodd ei golwg yn 22 oed oherwydd y cyflwr dirywiol, ond dywedodd fod hynny wedi ei gwneud yn fwy penderfynol o lwyddo.

"Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn ffordd o fynegi fy emosiynau," meddai, gan ychwanegu mai "ar y llwyfan, pan fydd y goleuadau wedi'u diffodd ar y gynulleidfa", y mae'n gallu canolbwyntio ar ganu "heb feddwl am fy ngholled golwg".

"Mae colli fy ngolwg jyst yn rhan fach ohonof i, nid dyna pwy ydw i," meddai.

Dywedodd fod rhai pobl ag anableddau yn teimlo bod angen iddynt "wneud eu hunain yn llai" er mwyn "peidio â bod yn niwsans i bobl", ond ei bod hi wedi dewis defnyddio cerddoriaeth i "gymryd ei lle a bod yn fwy".

Cate McHugh a Tom JonesFfynhonnell y llun, The Voice UK
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cate McHugh bod cefnogaeth Syr Tom Jones a'i gyngor wedi bod yn bwysig iawn iddi yn ystod y gystadleuaeth

Roedd Cate yn rhan o dîm Syr Tom Jones - sydd wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y rhaglen ar ddiwedd y gyfres hon.

Dywedodd Cate fod Syr Tom Jones wedi bod yn gynnes ac yn gefnogol, gan wneud iddi deimlo "fel petaech chi wedi'i adnabod ers blynyddoedd".

Ychwanegodd mai un o'r darnau o gyngor pwysicaf a roddodd iddi oedd canolbwyntio ar stori'r gân, yn hytrach na gadael i'w chyffro gymryd drosodd wrth ymarfer.

Fe ganodd y ddau fersiwn o Take Me Home, Country Roads gan John Denver fel deuawd yn y rownd derfynol.

Cate McHugh ac Emma WillisFfynhonnell y llun, The Voice UK
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cate McHugh ei choroni'n enillydd cyntaf The Voice UK o Gymru

Dywedodd Cate ei bod wedi teimlo'n "heddychlon" yn yr eiliadau cyn cael ei chyhoeddi'n enillydd, gan ei bod "mor hapus" gyda'i thaith drwy'r gystadleuaeth.

Ar ôl y fuddugoliaeth, rhannodd fideos ar y cyfryngau cymdeithasol ohoni'n dathlu gyda'i theulu a'i ffrindiau mewn parti gwylio yng Nghaerdydd.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Cate: "O waelod calon, rydw i eisiau diolch i chi gyd am ddilyn fy siwrne ac am ddod yn rhan o fy myd.

"Mae'r hwyl go iawn yn dechrau nawr," ychwanegodd.

Mae ei sengl gyntaf, fersiwn o Blackbird gan The Beatles, eisoes wedi'i rhyddhau, ac mae Cate bellach yn gweithio ar ei chân wreiddiol gyntaf mewn stiwdio, a dywedodd ei bod yn gobeithio y bydd yn cael ei rhyddhau "yn gymharol fuan".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig