Yr actor, y llenor a'r cyfarwyddwr theatr, Jeremy Turner, wedi marw

- Cyhoeddwyd
Mae Jeremy Turner, un o sylfaenwyr cwmni theatr Arad Goch yn Aberystwyth, wedi marw yn 68 oed.
Roedd yn ffigwr blaenllaw ym maes theatr yng Nghymru, ar ôl sefydlu'r cwmni yn 1989 a'i arwain fel cyfarwyddwr artistig am fwy na 35 mlynedd.
Dywedodd ei deulu ei fod wedi bod yn byw gyda chanser ers peth amser a'u bod wedi colli "gŵr, tad a thadcu cariadus ac egnïol".
Dros yrfa o 45 mlynedd, bu'n creu ac yn cyfarwyddo cynyrchiadau i gynulleidfaoedd ifanc, gan fynd â'r Gymraeg a diwylliant Cymru i gynulleidfaoedd mewn mwy na 30 o wledydd.
Bydd llawer hefyd yn ei gofio am ei ran fel Y Pry Bach Tew yng nghyfres deledu Pentre Bach.
Dywedodd ei deulu ei fod yn angerddol dros yr iaith a diwylliant Cymru, er mai yn yr ysgol y dysgodd Gymraeg.
Ychwanegon nhw ei fod yn cael ei barchu am ei farn ddi-flewyn-ar-dafod a'i greadigrwydd wrth feithrin talent perfformwyr o bob oedran.

Roedd Jeremy Turner a Mari ei wraig yn 'Dywyswyr' Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2025.
Ganwyd Jeremy Turner yn Aberdâr yn 1958, a bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Aberdâr cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ar ôl graddio, sefydlodd gwmni theatr arbrofol Cwmni Cyfri Tri gyda dau gyd-fyfyriwr.
Yn 1989, unodd y cwmni â Chwmni Theatr Crwban i greu Arad Goch, gyda Jeremy Turner ymhlith y chwe sylfaenydd, ochr yn ochr â Mari Rhian Owen, Mair Tomos Ifans, Siôr Llyfni, Ellen ap Gwynn a Catrin Hughes.
Tyfodd Arad Goch yn un o brif gwmnïau theatr Cymru, gan greu cynyrchiadau i blant a phobl ifanc ledled y wlad.
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad yn 2024, cofiodd Jeremy sut roedd y cwmni wedi dechrau gydag un ffôn, dau gyfrifiadur Amstrad a thri desg, gan gynnal ymarferion mewn adeilad oer yn Aberystwyth.

Neges sydd wedi ei arddangos ar y wal tu allan i Theatr Arad Goch
Prynodd y cwmni ei ganolfan ei hun yn y dref yn 1992, ac mae'r adeilad bellach yn gartref i theatr, gweithgareddau creadigol a gwaith cymunedol.
O dan ei arweiniad, bu'r cwmni'n perfformio mewn ysgolion, theatrau a lleoliadau cymunedol ledled Cymru.
Dywedodd Sara Gibson, Cadeirydd Bwrdd Arad Goch bod "colli Jeremy yn golled aruthrol".
"Fel sylfaenydd y cwmni a'i Gyfarwyddwr Artistig am gynifer o flynyddoedd, roedd Jeremy yn greiddiol i bopeth y mae Arad Goch wedi'i gyflawni.
"Mae'n gadael gwaddol gwirioneddol arbennig", meddai, "a bydd ei ddylanwad i'w deimlo yng ngwaith y cwmni ac ym mywydau'r bobl niferus y mae wedi'u hysbrydoli am flynyddoedd i ddod."
Croeso mawr i uned ganser newydd Ysbyty Bronglais
- Cyhoeddwyd10 Mai 2025
Theatrau cymunedol yn dioddef yn sgil sefydliadau mawr
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2024
Wrth siarad ar raglen Beti a'i Phobol yn 2017 dywedodd Jeremy Turner mai'r "nod oedd, ac o hyd, yw creu theatr o'r safon ucha posib i'r gynulleidfa orau posib, sef plant a phobl ifanc Cymru".
"Mae rhai pobl yn meddwl bod theatr i blant yn theatr blentynnaidd, ond dyw'r ddau beth yna ddim gyfystyr a'i gilydd," meddai.
"Mae creu theatr ystyrlon i blant a phobl ifanc yn golygu bod rhaid i ni ddeall yr hyn sydd yn eu gyrru nhw, sydd yn eu poeni nhw, sydd yn eu cyffroi nhw - a mae hynny yn waith ymchwil o hyd, a dwi wrth fy modd yn gwneud gwaith ymchwil gyda phlant bach a phobl yn eu harddegau i geisio deall beth sydd yn digwydd iddyn nhw, be sy'n digwydd yn eu pennau nhw nawr.
"Mae'r ymchwil parhaus 'na yn rhywbeth ddechreuais i gyda fe wrth ddechrau chwilio am theatr oedd yn Gymraeg a Chymreig eu hanfod, a mae'r elfen ymchwiliol yn parhau o hyd."

Roedd gwaith Jeremy Turner hefyd yn mynd ymhell y tu hwnt i Gymru, gyda chynyrchiadau Arad Goch yn teithio i dros 30 o wledydd.
"O dan arweiniad Jeremy yr esblygodd Arad Goch i fod o gwmni sirol i gwmni cenedlaethol ac i un rhyngwladol," meddai'r Athro Elin Haf Gruffudd Jones, cyn-gadeirydd Bwrdd Rheoli Arad Goch.
"Cadwodd yn driw at ei egwyddorion o gyflwyno byd theatr mewn addysg. Caniataodd i blant a phobol ifanc, waeth beth fo'u cefndir, i gael mynediad at y theatr, ac roedd yn egwyddor craidd mewn democratiaeth i Arad Goch ar hyd y blynyddoedd," ychwanegodd.
Bu'n perfformio, cyfarwyddo, cynnal cyrsiau hyfforddi a siarad mewn cynadleddau rhyngwladol.
Rhwng 2002 a 2008, roedd yn aelod o bwyllgor gweithredol rhyngwladol ASSITEJ, y gymdeithas sy'n hyrwyddo theatr i blant a phobl ifanc.
Roedd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu gŵyl Agor Drysau – Opening Doors, a oedd yn dod â chwmnïau theatr o bedwar ban byd i Gymru i rannu eu gwaith a chydweithio ag artistiaid lleol.
Disgrifiodd Nia Wyn Evans, Cyfarwyddwr Busnes Cwmni Theatr Arad Goch, ef fel cyfarwyddwr "brwdrydig a heintus".
"Cefais y fraint o gydweithio â Jeremy am dros 20 mlynedd, ac roedd ei frwdfrydedd dros theatr i blant a phobl ifanc yn heintus.
"Nid yn unig y mae ei waith wedi gwefreiddio cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt dros y degawdau diwethaf, ond roedd ei weledigaeth gref yn un o'r prif resymau dros lwyddiant y cwmni.
"Bydd y byd theatr yn dlotach yn ei absenoldeb, ond mae'r gwaddol y mae Jeremy wedi'i adael yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Mae ein meddyliau gyda Mari, Tomi, Megan a'r teulu cyfan heddiw."
'Colli ffrind annwyl iawn'
Dywedodd Dafydd Llewelyn, Comisiynydd Drama S4C: "Yn un o hoelion wyth y Theatr Gymraeg yn ystod yr hanner can mlynedd ddiwethaf, roedd Jeremy Turner yn arloesol yn narpariaeth theatrig i blant a phobl ifanc, gyda'i ddawn unigryw i ddarparu arlwy oedd yn wledd i'r llygad ac i'r glust.
"Fel actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd roedd wastad mor gefnogol ac fe agorodd ddrysau i genedlaethau o actorion a thechnegwyr.
"Mae trigolion Pentre Bach a Chymru benbaladr wedi colli ffrind annwyl iawn heddiw a hoffai pawb yn S4C gydymdeimlo'n ddwys â Mari, Tomi a Megan."
Parhaodd ei gyfraniad i faes theatr ar ôl ymddeol, gan helpu i drefnu archif o 35 mlynedd o waith Arad Goch.
Roedd yr archif yn cynnwys sgriptiau, ffotograffau, posteri, rhaglenni, cofnodion teithiau a llythyrau gan blant, pobl ifanc, athrawon a rhieni.
Cyflwynwyd yr archif i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn 2026, er mwyn diogelu hanes y cwmni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Graddiodd gyda doethuriaeth o Brifysgol Aberystwyth yn 2025, gyda'i ymchwil yn edrych ar brosesau creadigol mewn theatr i gynulleidfaoedd ifanc yng nghyd-destun diwylliant ac iaith leiafrifol.
Roedd ef ynghyd â'i wraig Mari yn 'Dywyswyr' Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2025.
Mae'n gadael ei wraig, y llenor a'r cyfarwyddydd Mari Rhian Owen a dau o blant - Tomi a Megan - a'u teuluoedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.