Carcharu dyn am gael gwn, cleddyf ac arfau anghyfreithlon eraill

Maximin CarterFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi ei garcharu ar ôl i swyddogion ddod o hyd i wn aer, cleddyf ac arfau eraill yn nhŷ ei gyn-bartner yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Fe gafodd Maximin Carter, 51, ei arestio'n wreiddiol ar amheuaeth o geisio gwneud ffrwydryn gyda'r bwriad o beryglu bywyd neu eiddo.

Cafodd pobl eu symud o'u cartrefi ar Stryd Commercial yn Abergwynfi am gyfnod ar 14 Chwefror ar ôl i "ddigwyddiad difrifol" gael ei gyhoeddi gan y gwasanaethau brys.

Fis Mawrth, fe wnaeth Carter bledio'n euog i fod â gwn aer yn ei feddiant, sydd wedi ei wahardd o dan Ddeddf Arfau Tanio 1968, a chwe chyhuddiad arall o fod ag arfau yn ei feddiant.

Gwn aerFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwn aer ymhlith yr arfau yn y tŷ

Roedd yr arfau'n cynnwys cleddyf samurai, haearn dwrn (knuckle duster) a phedwar pastwn telesgopig.

Ddydd Llun, fe gafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd a hanner yn y carchar, wrth iddo ymuno â Llys y Goron Abertawe trwy gyswllt fideo.

Haearn dwrnFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Clywodd y llys fod cyn-bartner Carter wedi cysylltu â'r heddlu yn codi pryderon am arfau yn ei chartref, lle'r oedd Carter yn aros heb ganiatâd.

Roedd hi hefyd yn poeni fod "bomiau" yn y tŷ, ond fe wnaeth yr erlyniad egluro mai poteli plastig wedi'u llenwi â pholystyren gafodd eu darganfod, nid ffrwydron.

Clywodd y llys fod y tŷ mewn "llanast", a bod ei gyn-bartner yn credu bod "trapiau ffug" wedi'u gosod oherwydd cyflwr y lle.

Fe welodd y llys luniau o'r arfau a gafodd eu darganfod yn y tŷ, gan gynnwys gwn aer a oedd wedi'i storio mewn blwch pren.

Commercial Street, Abergwynfi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Abergwynfi nos Sadwrn, 14 Chwefror

Dywedodd yr erlyniad ei bod yn "amlwg bod gan [Carter] ddiddordeb mewn arfau".

Dywedodd amddiffyniad Carter ei fod wedi "cyrraedd ei bwynt isaf" ar ôl "chwalfa ddomestig", a'i fod bellach wedi cael meddyginiaeth addas ar ôl treulio'r misoedd diwethaf yng ngharchar Abertawe.

Dywedodd y Barnwr Huw Rees fod rhybudd blaenorol yn erbyn Carter a'r ffaith bod "swm sylweddol o arfau wedi'u canfod ar y cyd â'r arf wedi ei wahardd", yn ffactorau a oedd yn rhaid eu hystyried wrth ddedfrydu.

Fe gafodd Carter ddedfryd o bum mlynedd a hanner o garchar. Clywodd y llys y bydd yn treulio 40% o'r cyfnod hwnnw yn y ddalfa, a'r gweddill ar drwydded.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.