Ffioedd parcio yn 'un peth arall' i atal ymwelwyr i Aberystwyth - busnesau

Promenâd Aberystwyth - lle bydd angen talu i barcio yn ystod y dydd o hyn ymlaen
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion busnesau ger glan môr Aberystwyth yn ofidus ynglyn â ffioedd parcio newydd ar bromenâd y dref.
Mae'r ffioedd, sy'n daladwy o 08:00 tan 20:00 yn £3.50 am hyd at ddwy awr a £5 am hyd at bedair awr.
Dywedodd perchnogion busnesau lletygarwch eu bod yn credu y bydd y ffioedd newydd yn effeithio ar westeion, cwsmeriaid a staff a oedd yn gallu parcio ar y prom am ddim cyn hyn.
Yn ôl Cyngor Ceredigion y gobaith yw y bydd y newid yn helpu i reoli'r "galw mawr iawn am barcio ar lan y môr yn decach", gan ychwanegu nad yw'r ffioedd i fod yn gynllun gwneud arian.
Roedd disgwyl i'r ffioedd newydd gael eu cyflwyno o ddydd Llun, ond roedd yn ymddangos bod sawl person yn cael trafferth defnyddio'r peiriannau talu ac arddangos yn ystod y dydd.
Dywedodd Cyngor Ceredigion bod "nifer fach o'r peiriannau wedi cael eu heffeithio gan broblemau meddalwedd" ond bod "swyddogion yn ceisio datrys y broblem cyn diwedd y dydd".

Rhyddhau llefydd parcio ar y prom yn amlach yw un nod y cynllun, yn ôl y Cynghorydd Gareth Davies
Mae cyflwyno ffioedd parcio ar bromenâd Aberystwyth wedi cael ei drafod o fewn y cyngor ers blynyddoedd gydag amlinelliad o'r cynllun yn cael ei gynnig yn wreiddiol yn 2006.
Cafodd cynigion eu gwneud ar gyfer y cynllun presennol yn 2023 gyda chynghorwyr yn cymeradwyo'r ffioedd ym mis Ionawr 2026.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies, aelod cabinet Cyngor Ceredigion dros gyllid, ei fod yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at ryddhau mwy o lefydd parcio yn fwy aml.
"Ar rai ardaloedd o'r prom, mae pobl yn medru parcio (am ddim) drwy'r dydd. Ar rai achlysuron maen nhw yna am ddyddiau.
"Felly dyw'r llefydd parcio ddim ar gael i neb arall. Un o'r rhesymau dros wneud hyn yw y bydd mwy o drosiant – mwy o bobl yn dod i Aberystwyth, a gobeithio bydd busnesau yn elwa o hynny."
Bwriad codi tâl am barcio ar y prom yn Aber
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2023
Caffi yn Aberystwyth yn cyfyngu ar weithio ar liniaduron 'am oriau'
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
Ychwanegodd y Cynghorydd Davies nad codi refeniw yw'r nod ond yn hytrach "annog pobl i ddod mewn i'r dref - twristiaid yn enwedig – gan wybod y bydd lle parcio iddyn nhw".
Dywedodd y bydd y refeniw yn helpu i ariannu gwasanaethau'r cyngor a chynnal a chadw meysydd parcio presennol.
Yn ôl adroddiad i gynghorwyr ym mis Medi 2024 mae cynlluniau tebyg wedi'u defnyddio mewn trefi arfordirol eraill ers blynyddoedd lawer.
Bryd hynny, roedd ffioedd parcio ar y stryd yn Llandudno a Bae Colwyn yn £5.50 am bedair awr a £4 am bedair awr yn y Rhyl.
'Negyddol i'r busnes'
Ond yn Aberystwyth mae perchnogion busnesau yn poeni am yr effaith posib ar gwsmeriaid, ymwelwyr a staff.
Mae Nia Roberts yn berchen ar ddau fusnes yn Aberystwyth. Dywedodd fod cwsmeriaid rheolaidd wedi dweud wrthi y gallai'r ffioedd effeithio ar ba mor aml y maen nhw'n ymweld â'i bwyty ar y promenâd.
"Mae 'da fi lot o gwsmeriaid sy'n dod mewn bob bore yn rheolaidd, pobl leol sy' wedi ymddeol yn dod mewn am goffi.
"Mae'n nhw'n disgwyl gallu taro mewn i'r dref, parcio'n agos a dod mewn am eu paned. I adio mlaen £3.50 pob bore, mae lot wedi dweud yn barod fyddan nhw ddim yn fodlon talu fe."
Dywedodd Nia hefyd bod y llefydd parcio am ddim yn bellach o'r bwyty, ac mae cerdded yn bell yn anodd i rai o'i chwsmeriaid hŷn.
"Fi'n credu fod y (ffioedd) parcio yn mynd i fod yn negyddol i'r busnes."

Mae Nia Roberts yn bryderus ynglyn ag effaith y ffioedd parcio ar ei chwsmeriaid a'i staff
Dywedodd Nia Roberts hefyd y bydd y staff sy'n byw y tu allan i'r dref yn cael eu heffeithio gan y ffioedd newydd - yn enwedig y rhai sy'n gweithio shifftiau hwyr a allai orfod gadael eu ceir yn bellach i ffwrdd er mwyn cael lle parcio am ddim.
"(Mae'n) golygu eu bod nhw'n cerdded yn ôl i'w ceir am 22:30 neu 23:00 y nos. Mae hynny'n fater diogelwch, yn enwedig i lawer o fy staff iau. Dwi ddim yn gyfforddus gyda hynny."

Yn ôl Gareth Evans fe allai'r ffioedd parcio newydd golli mwy o arian i fusnesau bach y dref nac y maen nhw'n codi ar gyfer y cyngor sir
Does gan Gwesty Cymru – sydd ar y promenâd – ddim maes parcio ei hun. Dywedodd y perchennog Gareth Evans ei fod yn credu y gallai'r ffioedd newydd gael effaith ar nifer y bobl sy'n bwcio ystafell.
"Fi'n credu bod e'n un peth arall i roi pobl off dod i ymweld ag Aberystwyth. Mae sawl maes parcio yn y dref ond dy'n nhw ddim yn agos iawn i ni – mae'n un peth arall mae'n rhaid i westeion ystyried cyn dod i aros gyda ni.
"Mae'r (cyngor) yn dweud bod hyn yn mynd i godi rhwng £400,000 - £500,000 y flwyddyn.
"Ond o safbwynt fi, mae hyn yn mynd i dynnu mwy 'na hynny bant o fusnesau bach lleol wrth roi pobl bant o aros yn Aberystwyth pan maen nhw'n gallu mynd i Aberaeron, Ceinewydd neu Aberteifi lle nad yw'r un fath o charges."
Safbwyntiau ar y stryd
Ar y stryd yn Aberystwyth roedd pobl yn bryderus gyda safbwynt Lynn Phillips o Bow Street yn adlewyrchu barn llawer o bobl.
Dywedodd ei bod hi'n meddwl y gallai'r ffioedd parcio "ladd busnesau lleol a gwneud hi'n anoddach i bobl leol ddod mewn".

Bydd y ffioedd parcio newydd yn "lladd busnesau" yn ol Lynn Phillips o Bow Street ger Aberystwyth
Roedd Alison Warren o Bournemouth ar ei gwyliau yng Nghymru ac yn ymweld ag Aberystwyth am y diwrnod.
Dywedodd ei bod hi'n meddwl bod y drefn newydd ar y prom yn mynd i fod yn ergyd: "Dwi'n meddwl bod hyn yn annheg i fusnesau – bydd rhaid i bobl dalu eto i ddod i lan y môr a falle cael coffi, ac mae'n drist i bobl leol hefyd."

Mae'r ffioedd yn annheg i bobl leol, yn ol Alison Warren o Bournemouth
Roedd Geraint Evans o Dal-y-bont yn gweld dadleuon o blaid ac yn erbyn y ffioedd parcio.
"Mae prinder llefydd parcio yn Aber (ac) mae pob cyngor yn gorfod ffeindio cyllid o ryw gyfeiriad.
"Mae 'na rai pobl yn parcio am ormod o amser - yn hytrach na pharcio er hwylustod, maen nhw'n parcio ar y prom a falle bod nhw yna drwy'r dydd."

Mae Geraint Evans o Dal-y-bont yn gweld dadleuon o blaid ac yn erbyn y ffioedd parcio newydd
Dywedodd perchnogion y busnesau y bydden nhw wedi ffafrio cyfaddawd gan y cyngor, trwy gadw parcio am ddim ar y prom ond gyda chyfyngiad amser ar bob lle a phlismona gwell o'r parcio.
Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies fod nifer o lefydd parcio am ddim eraill yn y dref, rhai a ddarperir gan y sectorau cyhoeddus a phreifat, am hyd at dair awr.
Ychwanegodd fod arolygon a gynhaliwyd mewn trefi eraill wedi canfod nad oedd cyflwyno ffioedd parcio wedi cael effaith negyddol ar fusnesau a thwristiaid.
Mae'r ffioedd yn berthnasol ar Rhodfa Buddug, Rhodfa'r Môr a'r Rhodfa Newydd.
Gellir talu'r ffioedd mewn peiriannau talu ac arddangos neu drwy ffôn symudol, ond gall deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim cyn belled â bod bathodyn dilys yn cael ei arddangos.