Caffi yn Aberystwyth yn cyfyngu ar weithio ar liniaduron 'am oriau'

Bu'n rhaid i berchennog caffi Sophie's yn Aberystwyth ofyn i gwsmer adael am iddo "fachu bwrdd" am amser hir
- Cyhoeddwyd
Mae caffi yn Aberystwyth wedi gofyn i gwsmeriaid beidio â defnyddio eu gliniaduron wrth y byrddau a'u "bachu" am oriau, am fod hynny'n atal cwsmeriaid eraill ac yn ergyd i'r busnes.
Esboniodd perchennog caffi Sophie's, Sara Jenkins, bod "croeso i bawb", ond bod angen i bobl fod yn fwy ystyriol o'r rhai sy'n dymuno dod i fwyta yno.
Mae post y caffi ar Facebook, sy'n egluro'r rheol, wedi cael dros 300 o ymatebion a sylwadau sydd wedi croesawu'r cais, yn ôl Sara:
"Mae'n rhwystredig weithiau pan y bydd rhywun yn bachu bwrdd am oriau yn ystod cyfnodau prysur - achos 'dyn ni'n colli arian," meddai.
"Oeddwn i'n ofni mod i'n bod yn afresymol i ddechrau, ond mae'r ymateb wedi bod yn bositif iawn hyd yma."
'Lletchwith' gofyn i bobl adael
Yn ôl Sara daeth un cwsmer i mewn toc wedi 08:00 ac aros yno tan o leiaf 10:15, gan dreulio dros ddwy awr yno y tu ôl i'w liniadur.
"Rydyn ni'n rhoi pob croeso i bawb - yn hen, ifanc, yn fyfyrwyr, yn blant...
"Ond 'dyn ni'n gaffi sy'n gweithio'n gyflym, a 'dyn ni bob amser yn brysur - mae pob cwsmer wedi'i weini o fewn tua phump i 10 munud.
"Un bore daeth cwsmer i mewn a threulio dros ddwy awr wrth un o'n byrddau – ar ôl ordro tost a choffi.
"Fe wnaethon ni ei holi os yr hoffai ordro rhywbeth arall – ond doedd e ddim, ac yn anffodus bu'n rhaid i ni ofyn iddo adael ychydig wedyn.
"Mae'n gas gen i deimlo'n lletchwith neu wneud i rywun arall deimlo'n lletchwith, ond nid caffi seibr ydyn ni - does gennym ni'm hyd yn oed sockets wrth ein byrddau.
"Dwi'n falch iawn o'r ymateb sydd wedi bod i'r neges hyd yma - mae pawb yn y comments wedi croesawu'r cais - sy'n gwneud i ni deimlo'n well" meddai.
Yw hi'n deg i bobl weithio'n hybrid o gaffis?
- Cyhoeddwyd3 Medi 2024
Esboniodd Sara nad yw eisiau gorfod gosod arwydd yn y caffi yn gofyn i bobl beidio â defnyddio'u gliniaduron, am fod ganddi ofn y byddai'n newid yr ymdeimlad sydd i'w gael yno.
"Ond y gwirionedd yw 'dyn ni'n colli arian wrth i'r byrddau gael eu bachu am gyfnodau hir o amser," meddai.
"Mae pobl yn cymryd mantais am fod wi-fi am ddim gennym ni... mae'n hollol iawn os bod angen checkio emails, neu anfon neges yn gyflym - mae hynny'n fine - 'dyn ni'n deall hynny, mae'n normal.
"Ond dewch yma i gymdeithasu gyda'ch ffrindiau... neu eich teulu. Nid i syllu ar eich sgrin a chuddio tu ôl iddo am oriau.
"Hanfod caffi yw mwynhau rhywle i eistedd a chymdeithasu, dewch i gael sgwrs!"

Mae'r cais yn ymestyn y tu hwnt i Aberystwyth, ac yn gyffredin ar draws Ewrop, yn ôl Steff Rees
Un sy'n ymweld â chaffis yn rheolaidd ac sy'n rhannu ei argraffiadau ar ei gyfrif Instagram, Crwydryn y Gorllewin, yw Steff Rees.
Nod Steff yw ceisio dod o hyd i'r caffis gorau yng ngorllewin Cymru, ond hefyd y tu hwnt i Gymru.
Yn ddiweddar bu ar ei wyliau yn Yr Iseldiroedd, lle bu'n ymweld â chaffi poblogaidd Cupp yn Utrecht, sy'n codi tâl o €2.50 yr awr ar bobl sy'n dod â gliniadur i weithio arno.
Wrth edrych yn ôl ar ei brofiad ef, awgrymodd Steff nad yw'r cais gan Sophie's yn anghyffredin o gwbl:
"Fe welais sawl caffi gyda rheolau penodol i gyfyngu ar liniaduron, oedd yn cynnwys gwaharddiad llwyr neu waharddiad yn ystod oriau prysur fel amser cinio," meddai.
"Dau fesur sy'n reit gyffredin ar draws Ewrop a Phrydain, nid dim ond y caffi yma yn Aberystwyth."
Esboniodd bod Cupp yn gosod y mesur am ei fod yn helpu i "gynnal" eu busnes, a bod bwrdd penodol a thawelach yn cael ei ddarparu gyda phlygiau ar gyfer y cwsmeriaid hynny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.