Llacio rheolau ar feysydd gwersylla dros dro yng Nghymru

Bannau BrycheiniogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

O ddydd Llun ymlaen mae modd i feysydd gwersylla dros dro fod ar agor am hyd at 60 diwrnod y flwyddyn

GanCraig Duggan
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae rheolau newydd wedi dod i rym ddydd Llun sy'n ehangu nifer y dyddiau y gall meysydd gwersylla dros dro agor yng Nghymru.

Hyd at nawr roedd modd agor gwersyll pop up am 28 diwrnod y flwyddyn heb wneud cais cynllunio llawn.

O ddydd Llun ymlaen mae modd iddyn nhw fod ar agor am hyd at 60 diwrnod, ond mae rhai cyfyngiadau newydd a bydd angen gwneud cais cynllunio.

Dyw'r newidiadau ddim yn cael effaith ar wersylloedd mewn parciau cenedlaethol ar hyn o bryd.

'Aflonyddwch'

Y llynedd fe lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gynlluniau i gynyddu uchafswm y dyddiau y mae modd agor o 28 i 60 diwrnod.

Ar y pryd, dywedodd y llywodraeth fod "cefnogaeth gyffredinol" i'r cynnig a'u bod yn ymwybodol bod busnesau'n teimlo "anfantais gystadleuol" o gymharu â Lloegr, lle'r oedd eisoes modd agor am hyd at 60 diwrnod.

Ond ychwanegodd y llywodraeth eu bod hefyd am fynd i'r afael â phryderon a godwyd am "yr aflonyddwch a achosir wrth fyw ger safle gwersylla dros dro".

Felly, eu cynnig oedd math newydd o ddatblygiad, lle byddai angen i feysydd gwersylla dros dro wneud cais am ganiatâd cynllunio er mwyn cael agor am 60 diwrnod.

Mae'r cyfyngiadau newydd yn golygu na fyddai gwersylloedd dros dro yn cael eu caniatáu o fewn 100 metr i adeilad sy'n eiddo i rywun arall.

Ni fydd modd agor gwersyll o'r fath ar barthau llifogydd penodol, na chwaith ger adeiladau rhestredig.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, cyhoeddodd y llywodraeth flaenorol "gam cyntaf" y rheolau newydd, sy'n dod i rym ar 1 Mehefin.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae gwersylloedd dros dro ar dir o fewn parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol neu safle treftadaeth y byd yn parhau o dan y lwfans 28 diwrnod.

Byddai'n rhaid i dirfeddianwyr hefyd gytuno ar weithdrefnau mynediad cerbydau a rheoli dŵr gwastraff gyda'u cyngor lleol.

Tra bod y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno'n raddol i ddechrau, bydd angen i bob gweithredwr gwersyll dros dro ei dilyn o 1 Medi.

Harri Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Harri Roberts yn gweithio ar fferm y teulu, yn gweithio fel diffoddwr tân hefyd ac yn rhedeg gwersyll dros dro

Mae Harri Roberts, 25 oed o Aberdyfi yng Ngwynedd, yn gweithio ar fferm y teulu a hefyd yn gweithio fel diffoddwr tân.

Ers dwy flynedd mae wedi bod yn rhedeg gwersyll dros dro ger Aberdyfi – mae'r safle o fewn ardal Parc Cenedlaethol Eryri, felly fydd y newidiadau ddim yn berthnasol iddo tan fis Medi.

Mae tŷ sy'n perthyn i rywun arall yn agos at y giât i'r cae lle mae'r maes gwersylla.

Dywedodd Harri ei fod wedi ceisio "cadw o fewn y canllawiau rheolau" ynglŷn â chadw pellter o 100 metr rhwng eiddo rhywun arall a safle gwersylla.

"Just wrth y giât ydy'r tŷ yma - so dwi wedi gwneud pethau fel bod pobl methu parcio a champio f'yna," meddai.

"Mae hi just dros 100 metr i fan hyn lle mae pobl yn campio.

"Maen nhw'n poeni bod y giât mor agos at eu tŷ nhw, ond giât i'r fferm yw e beth bynnag ac mae e wedi bod yno ers blynyddoedd, a dwi methu symud hi i nunlle arall."

'Lot o blaniau'

Ychwanegodd Harri ei fod yn gobeithio cael caniatâd i agor am 60 diwrnod yn y dyfodol a bod y gwersyll yn dod ag incwm iddo sy'n ei helpu i aros yn ei ardal enedigol.

"Mae gen i lot o blaniau eraill ar gyfer y campsite - fel enghraifft, mae'r ffordd dipyn bach yn bumpy ond os dwi eisiau gwario arian ar y campsite bydd rhaid i fi gael caniatâd cynllunio, felly bydda i'n gwneud hynny beth bynnag."

Cafodd y newidiadau yma eu cyflwyno gan y llywodraeth Lafur flaenorol.

Dywedodd llywodraeth newydd Cymru, dan arweiniad Plaid Cymru, y byddai'r cabinet a benodwyd yn ddiweddar yn "gosod eu blaenoriaethau yn fuan" ac y byddai'n "ffocysu yn ddiflino ar wneud yr hyn sydd orau i Gymru".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.