'Dim budd i bobl leol yn sgil codi morglawdd Bae Caerdydd'

Llun o forglawdd Bae Caerdydd o'r awyr ar ddiwrnod braf gyda'r brifddinas yn y cefndirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y morglawdd ymhlith cynlluniau adeiladu mwyaf Ewrop yn y 1990auThe

GanCemlyn Davies
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Does "dim budd" wedi bod i bobl leol o ganlyniad i adeiladu morglawdd Bae Caerdydd, yn ôl ymgyrchydd lleol.

Dywedodd Cadeirydd elusen Tiger Bay and the World, a chyn-gynghorydd yn ardal Tre-biwt y ddinas, Gaynor Legall bod trigolion yr ardal yn teimlo nad oedd y morglawdd "ar ein cyfer ni a does ganddo ddim i'w wneud â ni".

Dywedodd gwleidydd lleol bod y morglawdd wedi "rhoi Caerdydd ar y map".

Mae'n 25 mlynedd ers i'r cynllun gael ei gwblhau'n swyddogol gan ganiatáu i bobl gerdded ar draws y morglawdd am y tro cyntaf.

Cafodd y syniad ei gyflwyno'n gyntaf yn y 1980au gan Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, y Ceidwadwr Nicholas Edwards, fel modd i fynd i'r afael â thlodi mewn ardal oedd yn dioddef yn sgil cwymp y diwydiannau trwm.

Gaynor Legall
Disgrifiad o’r llun,

Dydy trigolion Tre-biwt ddim yn tueddu i ymweld â Bae Caerdydd, yn ôl Gaynor Legall

Fe wnaeth Gaynor Legall - oedd yn gynghorydd ar y pryd - gefnogi'r cynllun.

Ond chwarter canrif ers agor y morglawdd i'r cyhoedd, dywedodd Legall: "O ran Tre-biwt, y tai cyngor a'r hen dai ar waelod Stryd Bute, does dim budd wedi bod.

"Ychydig iawn o bobl Tre-biwt sy'n mynd i Mermaid Quay a Glanfa'r Iwerydd [ym Mae Caerdydd]," meddai, gan ychwanegu bod pobl yn teimlo "doedd e ddim ar ein cyfer ni a does ganddo ddim i'w wneud â ni".

"Roedd wastad sinigiaeth am rai o'r addewidion gafodd eu gwneud ac mae hynny wedi ei brofi'n gywir."

Dywedodd yr economegydd yr Athro Calvin Jones o Brifysgol Cork: "Os ydych chi'n dod o un o'r ardaloedd difreintiedig yn ne Caerdydd... efallai y byddwch chi'n edrych o'ch cwmpas ac yn meddwl, 'beth sydd wedi newid i fy nghymuned i?'. A'r ateb mae'n siŵr fyddai 'ychydig iawn'."

Arweiniodd y morglawdd at agor siopau, bwytai a bariau o amgylch y bae, yn ogystal â Chanolfan y Mileniwm, adeilad y Senedd a stiwdios y BBC ym Mhorth y Rhath.

Dywedodd yr aelod Llafur lleol o Senedd Cymru, a chyn-arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas taw'r morglawdd oedd "y peth sylfaenol wnaeth newid y ffordd yr oedd pobl yn edrych ar Gaerdydd a'i rhoi ar y map".

Ond ychwanegodd bod angen datblygu'n bellach a'i bod hi'n bwysig sicrhau bod pobl leol yn "teimlo'n rhan" o hynny.

Hen lun o fflatiau llaid yr ardal cyn codi'r morglawdd
Disgrifiad o’r llun,

Fflatiau llaid Bae Caerdydd cyn codi'r morglawdd

Roedd y cynlluniau ar gyfer y morglawdd yn hynod o ddadleuol ar y pryd, gydag amgylcheddwyr yn poeni am yr effaith bosib ar fywyd gwyllt.

Fe arweiniodd y syniad at densiynau o fewn i'r blaid Lafur yng Nghaerdydd hefyd, gyda'r Aelod Seneddol dros Dde Caerdydd a Phenarth ar y pryd, Alun Michael, yn arwain yr ymgyrch o blaid a'r Aelod Seneddol dros Orllewin Caerdydd, Rhodri Morgan, yn gwrthwynebu.

Er i Alun Michael fynnu bod cyfeillgarwch y ddau wedi para drwy'r cyfnod, dywedodd wrth raglen Politics Wales: "Roedd pethau'n anghyfforddus rhyngof fi a Rhodri.

"Roedden ni'n rhannu swyddfa yn San Steffan ac ein swyddfa ni oedd y gyntaf i gael peiriant ffacs.

"Roedd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno a chael peiriannau ar wahân achos roedden ni'n poeni am y naill yn dod i wybod am y tactegau oedd yn cael eu defnyddio gan y llall."

Jane Hutt
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jane Hutt yn gwrthwynebu codi'r morglawdd oherwydd pryderon o ran llifogydd

Roedd cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a'r cyn-weinidog Jane Hutt yn gynghorwyr yng Nghaerdydd ar y pryd.

Fe wnaethon nhw bleidleisio'n erbyn y cynlluniau oherwydd pryderon am lifogydd.

"Fe gawson ni ein gwahardd [o'r grŵp Llafur] am rai wythnosau achos ein bod ni wedi pleidleisio'n erbyn y morglawdd," meddai Hutt.

"Drwy gydol fy holl flynyddoedd o wasanaeth gwleidyddol, ac roeddwn i'n brif chwip yn y Senedd am nifer o flynyddoedd, dyna'r unig dro dwi wedi pleidleisio'n erbyn y chwip achos fy mod yn teimlo ei fod yn bwnc oedd mor bwysig."

Politics Wales, BBC1 Cymru, 10:00 ddydd Sul 5 Gorffennaf ac yna ar i-Player

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig