Dathlu mawr wrth i fecws gafodd ei ddifrodi gan lifogydd ail-agor yn Sir Gaerfyrddin

County Stores
GanAled Scourfield
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Roedd yna ddathlu mawr yn nhref Sanclêr, Sir Gaerfyrddin wrth i fecws gafodd ei ddifrodi yn wael gan lifogydd ail-agor ar ôl dros saith mis o waith atgyweirio.

Roedd County Stores dan ddŵr pan darodd llifogydd difrifol ardaloedd Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr ar 4 a 5 Tachwedd 2025.

Cafodd haen drwchus o fwd ei adael ar waelod y siop, a bu'n rhaid gwaredu'r gwelydd ac offer o'r siop yn sgil y difrod.

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân achub y perchennog, Sheila Phillips, 80, o'r becws mewn cwch yn oriau mân y bore ar 5 Tachwedd.

Ar ôl misoedd o waith adeiladu, fe heidiodd cwsmeriaid yn ôl i'r siop yng nghanol y dref fore Llun.

Roedd sawl un wedi anfon cardiau i ddymuno'n dda i'r busnes wrth iddo ail-agor.

Sheila Phillips
Disgrifiad o’r llun,

"Es i mas mewn dinghy ond fi wedi dod mewn ar ddwy droed bore 'ma," meddai Sheila Phillips

Roedd Sheila Phillips ar ben ei digon wrth weld y busnes yn ail-agor yn dilyn y llifogydd.

Dywedodd mai un cymhelliad mawr dros ail-agor oedd gwneud hynny er cof am ei diweddar ŵr, Wyndham, oedd wedi sefydlu'r becws gyda hi rhyw 50 mlynedd yn ôl.

"Rwy'n hapus ofnadwy. Do'n i ddim yn meddwl dethen ni byth i le ydyn ni heddi'," meddai.

Llifogydd County StoresFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd County Stores dan ddŵr pan darodd llifogydd difrifol ardaloedd Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr ym mis Tachwedd

"Mae e wedi bod yn waith caled, a ni wedi dod i ben â hi. Mae hi wedi bod fel ffair yma a rwy'n hapus iawn i weld pob un.

"Mae lot o hugs a kisses wedi bod bore 'ma. Maen nhw wedi bod yn gweithio yn galed 'ma ac roedd rhaid ail-wneud e i gyd.

"Gallen ni byth â chlanhau fe. Roedd gormod o fochdra gyda'r dŵr wedi dod mewn ac roedd y cwbl yn frown.

"Es i mas mewn dinghy ond fi wedi dod mewn ar ddwy droed bore 'ma! Roedd Michael y mab yn dweud ail-agorwn ni achos bydde Dad ddim yn bles i ni gau fe.

"Dw i yn falch fy mod i wedi ail-agor. Dw i yn gobeithio bod e'n edrych lawr arna i a dweud 'mae hi wedi gwneud e'."

County Stores wedi ail-agor

Mae'r staff wedi aros yn driw i'r busnes ers iddo orfod cau yn ddisymwth saith mis yn ôl. Un o'r rheini yw wyres Sheila, Leah Coleman.

"Mae'n neis a ni'n speechless i weld y drysau yn agor eto. Mae hi wedi bod yn saith mis hir a stressful. Saith mis ni wedi bod ar gau a ni nôl ar agor," meddai.

Malcolm Thomas
Disgrifiad o’r llun,

"O'r peth cyntaf maen nhw yn agor yn y bore ti'n guaranteed bod pobl yma a ti'n siarad gyda nhw," meddai Malcolm Thomas

Roedd y siop dan ei sang fore Llun gyda chwsmeriaid lleol wedi dod yn ôl i gefnogi'r busnes. Un o'r rheini oedd Malcolm Thomas o bentref Llangynin.

"Mae'n grêt. 'Drychwch ar yr awyrgylch sydd 'ma bore 'ma. Mae lot o bobl wedi bod yn sefyll lot o amser i'r lle i ail-agor a diolch byth mae'r diwrnod wedi dod," meddai.

"Gallu di sefyll yma drwy'r bore a bydd hi'n llawn yma drwy'r bore. Chi yn siarad am lefydd i gwrdd a dyma fe.

"O'r peth cyntaf maen nhw yn agor yn y bore ti'n guaranteed bod pobl yma a ti'n siarad gyda nhw. Dyna beth ni wedi colli dros y cyfnod 'ma."

Un arall oedd wedi galw mewn yn ystod y bore oedd Helen Bowen o Dre-lech.

"Ni mor falch gweld e ar agor eto achos ni'n joio'r bara. Mae e wedi bod yn amser hir, chwarae teg mae'n edrych yn lyfli 'ma. Ni'n falch bod e ar agor."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig