Mam plentyn awtistig yn 'angerddol' dros ddangos realiti bywyd

Leian a TwmFfynhonnell y llun, Y Byd ar Bedwar
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Leian roi'r gorau i'w gwaith llawn amser er mwyn gofalu am ei mab

  • Cyhoeddwyd

Mae mam i blentyn awtistig a dieiriau o Wynedd yn dweud ei bod hi'n "angerddol" dros ddangos eu bywyd, fel bod pobl eraill yn gallu gweld realiti y sefyllfa i rieni fel hi.

Ar raglen Y Byd ar Bedwar ar S4C nos Lun, bydd Leian Roberts o Benrhyndeudraeth yn rhoi mynediad camerâu i'w bywyd, yn y gobaith o daflu goleuni ar y realiti i deuluoedd sydd â phlant ag anghenion ychwanegol.

Gyda'i mab Twm bellach yn naw oed, bu'n rhaid i Leian - nyrs 46 oed - roi'r gorau i'w gwaith llawn amser er mwyn gofalu amdano.

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Leian y "bydd gwylwyr yn cael sioc, a hyd yn oed pobl sy'n agos ata' i - ffrindiau a theulu hefyd".

Yn ôl ystadegau'r llywodraeth, mae awtistiaeth yn cael effaith ar un o bob 100 o bobl, ac mae 200 o blant awtistig yn derbyn addysg gan y sir o fewn ardal Cyngor Gwynedd.

Dywedodd Dr Rebecca Williams, sydd â 25 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phlant ac oedolion awtistig fel seicolegydd clinigol ymgynghorol yng ngogledd Cymru, fod diffyg cefnogaeth ar gael i famau fel Leian.

'Dim hanner digon o help ar gael'

"Dwi'n teimlo mor passionate am rannu fy mywyd i bobl gael gweld be ydi'r realiti byw efo plant efo anghenion dwys fel Twm," meddai Leian.

"Dwi ddim yn meddwl bo' pobl efo syniad. Fyddan nhw'n cael insight achos snapshot maen nhw'n cael wrth ddod yma.

"Pan ma' rhywun yn byw efo fo 24 hours ma'n wahanol stori.

"Y peth mwya' amlwg i fi oedd pan nad oedd Twm yn ymateb i peek-a-boo. Ti'n neud hyn i fabis a ma' nhw yn ymateb drwy chwerthin o waelod eu bol yn dydyn.

"Ddaru Twm 'rioed ymateb ac o'n i'n meddwl bo' wbath ddim yn iawn adeg yna.

"Ma' 'na lot o focus ar gael diagnosis. Do'n i ddim yn cwffio i gael diagnosis. Am fod anghenion Twm mor amlwg doedd dim angen.

"Yndi, mae'n bwysig cael diagnosis i nifer o deuluoedd, ond yn fwy i rai sydd ddim yn siŵr.

"Ond do'n i ddim yn gwthio am fod o'n amlwg ac felly aros tan oedd yn saith oed.

"Dydi cael diagnosis ddim yn newid petha'. Ond does dim hanner digon o help ar gael yn anffodus."

Leian a TwmFfynhonnell y llun, Y Byd ar Bedwar
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leian yn cael 10 awr yr wythnos o gymorth gan ofalwr, ac mae Twm yn cael mynychu Hafan y Sêr ym Mhenrhyndeudraeth am noson bob pythefnos

"Ma' pobl sy'n gweithio yn agos efo fi fel nyrsio a social workers yn dda iawn ond ma' nhw yn stretched a gwneud be fedrith nhw.

"O'n i'n gweithio llawn amser fel nyrs ond methu 'neud o a 'di rhoi gora i'r gwaith. Y pwysa' adra yn ormod i jyglo full time.

"Mae magu Twm... ti'n fam a ti'n career llawn amser hefyd.

"Ella bod fy nghefndir fel nyrs wedi helpu o ran gw'bod be' 'di fy hawlia a hyder i gwffio, ond [dwi] ddim yn meddwl bod 'na ddigon o addysg yna o ran awtistiaeth a gobeithio 'neith hynny newid.

"Dio'm yn un peth sydd angen ei newid - cymaint o betha. Financial aspect, sleep deprevasion, effeithio ar y plant eraill, perthynas chdi, bob darn o'm mywyd.

"Ma' Twm yn lwcus iawn yn cael mynychu respite care yn lleol ac maen nhw yn wych iawn.

"Gobeithio bo' gweld y rhaglen yn egluro be ydi byw efo plentyn a anghenion dwys, y reality a challenges dyddiol. S'gen pobl ddim syniad."

TwmFfynhonnell y llun, Y Byd ar Bedwar

"Ma'n cael pylia'… a ti just yn teimlo mor, mor helpless, achos dwi just ddim yn gwybod be' sy' matar efo fo," meddai Leian.

"Ma' pobl sy'n d'eud 'tha fi, a dwi'n clywed lot yn deud 'fysa chdi ddim yn newid [Twm]...' [Ond] byswn, byswn i yn newid y sefyllfa, 'swn i'n llwyr.

"Pwy 'sa isio byw fel hyn? Pwy fysa isio gweld eu plentyn yn cael ffasiwn meltdown cyn mynd i'r ysgol? Byswn, 'swn i'n newid y sefyllfa yn llwyr.

"Dwi'n teimlo'n really euog yn deud hynna. Dwi'n caru Twm i'r lleuad ac yn ôl ac 'swn i'n 'neud r'wbath iddo fo. 'Dwi'n cwffio i gael y gora' iddo fo.

"Sa' na neb yn dewis cael plentyn fel Twm - neb yn dewis cael plentyn efo anghenion dwys, mor heriol, iddo fo ei hun, 'ngwashi.

"Dydi bywyd yma ddim yn hawdd, a dwi ddim yn meddwl bod gan bobl syniad."

TwmFfynhonnell y llun, Y Byd ar Bedwar

Yn ôl Dr Rebecca Williams mae rhieni fel Leian a'i gŵr, sy'n barafeddyg, yn "gorfod brwydro am bob dim".

"Ma' nhw'n brwydro o'r dechrau i gael yr asesiad, maen nhw'n brwydro i gael gwasanaeth cefnogol, ysbaid, maen nhw'n brwydro trwy'r amser," meddai.

"Dwi'n meddwl bod y system wedi torri.

"Ma'r staff sy'n gweithio o fewn y system yn hollol committed ond ma' nhw dan straen anferthol ma' nhw 'di cael eu gofyn blwyddyn ar ôl blwyddyn i 'neud mwy 'efo llai.

"A dwi ddim yn meddwl bod y planning wedi bod yna yn ddigon da er mwyn cael digon o adnoddau yn y lle cyntaf."

Leian a TwmFfynhonnell y llun, Y Byd ar Bedwar

Mae Leian yn cael 10 awr yr wythnos o gymorth gan ofalwr, ac mae Twm yn mynychu Hafan y Sêr ym Mhenrhyndeudraeth am noson bob pythefnos.

Mae'r ganolfan yn cynnig gofal byr i blant rhwng wyth a 18 oed sydd ag anghenion ychwanegol yng Ngwynedd a Môn.

"Dwi'n meddwl bod 'na rhyw pressure i ddeud bod o'n ddigon, ond in realiti os ti'n gofyn os genna i magic wand - na, 'swn i'n licio sa' 'na rhywun yma'n ddyddiol.

"Ma' Twm yn cael mynd i respite a 'da ni'n ffodus iawn 'ma... ond yn anffodus dydi o ddim mor aml â sŵn i'n licio... ond hefyd fedrith nhw dim ond gweithio efo be' sydd ganddyn nhw.

"Dwi'n meddwl bod o fyny i'r awdurdod edrych fwy iddo fo, a ma' isio mwy o lefydd felly yn cynnig respite care achos yn amlwg be' sy' ganddyn nhw - dydi o ddim yn ddigon."

Leian a TwmFfynhonnell y llun, Y Byd ar Bedwar

Dywedodd Cyngor Gwynedd fod cynorthwyo plant a phobl ifanc i gael y cyfleoedd gorau posib ac i fyw eu bywyd llawn mewn cymunedau yn "hanfodol bwysig i ni".

"Mae anghenion pob plentyn a'u teuluoedd yn unigryw ac mae ein gweithwyr gofal yn rhoi eu holl egni i geisio sicrhau ein bod yn darparu'r gefnogaeth orau posib i gwrdd ag anghenion plant bob amser," meddai'r awdurdod.

"Er gwaethaf y buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau mewn llefydd fel Gwynedd, mae cynghorau ar draws y wlad yn parhau i fethu a chyrraedd y galw yn y maes hynod o bwysig yma.

"Ni allwn wneud sylw am blant unigol ond rydym wedi gweld cynnydd yn y galw flwyddyn ar ôl blwyddyn am gefnogaeth i blant awtistig neu sydd â chyflwr niwroddatblygiadol arall ac mae anghenion y bobl ifanc hyn yn gynyddol gymhleth a dwys.

"Ochr yn ochr â'r cynnydd hwn yn y galw, mae prinder gofalwyr a gweithwyr cymdeithasol yn her fawr ar draws Cymru wledig, gan gynnwys yma yng Ngwynedd.

"Rydym yn gwerthfawrogi pa mor bwysig ydi cefnogaeth ysbaid i deuluoedd ac yn cydymdeimlo gyda rhieni sydd angen mwy o gymorth.

"Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig amrediad o gyfleoedd i deuluoedd plant sydd â chyflyrau, gan gynnwys seibiannau byr mewn llety arbenigol ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu mwy o gartrefi bychan ar gyfer plant ar draws y sir.

"Mae buddsoddiad Cyngor Gwynedd mewn gwasanaethau cymdeithasol i blant ag anghenion wedi mwy na dyblu dros y bum mlynedd ddiwethaf a byddwn yn cynyddu'r gyllideb eto yn 2026/27."

Bydd Y Byd ar Bedwar: Awtistiaeth Fy Mab ar S4C am 20:00 nos Lun, ac yna ar BBC iPlayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig