Main content

Cerdd yr Wythnos - Gwilym Bowen Rhys (Y Lleill o'r Llew)

Cân ysgafn Gwilym Bowen Rhys ar y testun 'Talu'r Pwyth' yw Cerdd yr Wythnos o'r Talwrn rhwng Y Lleill o'r Llew a'r Ffoaduriaid

Talu’r Pwyth

´Daw awr bydd mawr y bychain,´ mi glywais lawer tro,
wel neithiwr, wir i chi, daeth awr creaduriad gwyllt fy mro -
´rol penderfynu dial ar bob bwli o bob math,
mi welais fil o lygod dig yn diberfeddu’r gath.

Mi welais res o fwydod yn pysgota ar lannau Taf
yn kebabio dwsin brithyll tew a’u barbyciwio’n braf.
Mi welais fecryll hefyd yn plufio bilidowcar
a chranc yn snapio coesyn creyr a’i hiwsho fel ciw snwcar.

Mi glywais sŵn llwynogod yn marchogaeth Saeson tew
a'u chwipio’n chwyrn dan chwythu cyrn, fe gawson hunt go lew,
a´r gwningen rwydodd lynx y Borth a’i werthu i Chester Zoo
a´r pathew’n stwffio nythod lawr gorn gwddw’r gwdihŵ.

Mi drois i’r teli mlaen a dyma David Attenborough
yn dangos sioncyn gwair yn sbaddu deryn kookaburra,
a nesa dyma rhyw gazelle yng nghanol y savannah
yn agor llew a´i bocket neiff a´i blingo fel banana.

Os groeswch falwen peidiwch wir â´i sathru’n ddidrugaredd
neu mi ddeffrwch bore fory’n hanner boddi’n ei llysnafedd,
a hithau’n dweud - ´´os chwerw diodde sodlau dynion ffôl,
melys, o mor felys ydyw talu’r pwyth yn ôl´´.

Gwilym Bowen Rhys

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau