Episode details

Available for over a year
Talu’r Pwyth ´Daw awr bydd mawr y bychain,´ mi glywais lawer tro, wel neithiwr, wir i chi, daeth awr creaduriad gwyllt fy mro - ´rol penderfynu dial ar bob bwli o bob math, mi welais fil o lygod dig yn diberfeddu’r gath. Mi welais res o fwydod yn pysgota ar lannau Taf yn kebabio dwsin brithyll tew a’u barbyciwio’n braf. Mi welais fecryll hefyd yn plufio bilidowcar a chranc yn snapio coesyn creyr a’i hiwsho fel ciw snwcar. Mi glywais sŵn llwynogod yn marchogaeth Saeson tew a'u chwipio’n chwyrn dan chwythu cyrn, fe gawson hunt go lew, a´r gwningen rwydodd lynx y Borth a’i werthu i Chester Zoo a´r pathew’n stwffio nythod lawr gorn gwddw’r gwdihŵ. Mi drois i’r teli mlaen a dyma David Attenborough yn dangos sioncyn gwair yn sbaddu deryn kookaburra, a nesa dyma rhyw gazelle yng nghanol y savannah yn agor llew a´i bocket neiff a´i blingo fel banana. Os groeswch falwen peidiwch wir â´i sathru’n ddidrugaredd neu mi ddeffrwch bore fory’n hanner boddi’n ei llysnafedd, a hithau’n dweud - ´´os chwerw diodde sodlau dynion ffôl, melys, o mor felys ydyw talu’r pwyth yn ôl´´. Gwilym Bowen Rhys
Programme Website