Daniel Evans, Luned Rhys Parri a Tua'r Gorwel
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.
Yn y rhaglen hon mae Manon Steffan Ros yn trafod cyfrol sydd newydd weld golau dydd, a hynny fwy nag wyth deg mlynedd ar ôl ei hysgrifennu gan yr artist a’r bardd o Dalwrn, Ynys Môn, sef Edrica Huws.
Mae’r dramodydd a’r cyfarwyddwr Ian Rowlands yn galw heibio i sgwrsio am ei ddrama newydd 'Tua’r Gorwel' sydd yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Sounds.
Mi awn ni i Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, Pwllheli, lle mae arddangosfa newydd agor gan un o’n hartistiaid mwyaf unigryw - Luned Rhys Parri.
Ac i gloi mae Manon yn sgwrsio gyda Daniel Evans, sydd bellach yn Gyd-gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company yn Stratford-upon-Avon, ac ar hyn o bryd yn gyfrifol am gynhyrchiad newydd sbon gan y cwmni o un o glasuron mwyaf poblogaidd Shakespeare, ‘ As You Like It’.
Ar y Radio
Darllediadau
- Ddoe13:00BBC Radio Cymru
- Heddiw18:00BBC Radio Cymru
