Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,25 Oct 2026,56 mins

Daniel Evans, Luned Rhys Parri a Tua'r Gorwel

Llwyfan gyda Manon Steffan Ros

Available for 30 days

Yn y rhaglen hon mae Manon Steffan Ros yn trafod cyfrol sydd newydd weld golau dydd, a hynny fwy nag wyth deg mlynedd ar ôl ei hysgrifennu gan yr artist a’r bardd o Dalwrn, Ynys Môn, sef Edrica Huws. Mae’r dramodydd a’r cyfarwyddwr Ian Rowlands yn galw heibio i sgwrsio am ei ddrama newydd 'Tua’r Gorwel' sydd yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Sounds. Mi awn ni i Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, Pwllheli, lle mae arddangosfa newydd agor gan un o’n hartistiaid mwyaf unigryw - Luned Rhys Parri. Ac i gloi mae Manon yn sgwrsio gyda Daniel Evans, sydd bellach yn Gyd-gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company yn Stratford-upon-Avon, ac ar hyn o bryd yn gyfrifol am gynhyrchiad newydd sbon gan y cwmni o un o glasuron mwyaf poblogaidd Shakespeare, ‘ As You Like It’.

Programme Website
More episodes