Llafur Cymru i gael arweinydd newydd erbyn mis Tachwedd

Ken Skates yw arweinydd dros dro Llafur Cymru ers etholiad mis Mai
- Cyhoeddwyd
Bydd Llafur Cymru yn datgelu arweinydd parhaol yng nghynhadledd Gymreig y blaid yn Llandudno ym mis Tachwedd.
Ond roedd corff llywodraethol y blaid wedi'i rannu mewn cyfarfod i drafod amserlen.
Dywedwyd wrth BBC Cymru fod y rhai sy'n agosach at arweinyddiaeth plaid Lafur y DU eisiau penderfyniad erbyn mis Tachwedd, tra bod eraill eisiau mwy o amser i archwilio colled drom y blaid yn etholiad y Senedd.
Mae'r blaid hefyd wedi cytuno i adolygiad allanol annibynnol o ble aeth Llafur o'i le.
Bydd enwebiadau'n agor ym mis Medi.
Ar hyn o bryd nid oes ymgeisydd i sefyll yn erbyn yr arweinydd dros dro Ken Skates, a gymerodd yr awenau ym mis Mai ar ôl yr etholiad.
Mewn datganiad dywedodd Skates: "Roedd canlyniad etholiad mis Mai yn siomedig iawn i Lafur Cymru.
"Roedd yn neges glir gan bleidleiswyr ac rydym yn ei chymryd o ddifrif."
Dywedodd fod pwyllgor gwaith y blaid yng Nghymru wedi cytuno i ddechrau'r broses o ethol arweinydd parhaol ym mis Medi, gan ddod i ben yn y gynhadledd.
Ken Skates wedi'i benodi yn arweinydd dros dro i Lafur Cymru
- Cyhoeddwyd9 Mai
Llafur Cymru'n wynebu 'argyfwng dirfodol', yn ôl cyn-Weinidog
- Cyhoeddwyd31 Mai
Eluned Morgan: Y prif weinidog na allai atal y llanw
- Cyhoeddwyd8 Mai
Dywedodd ffynhonnell fod pleidlais mewn cyfarfod o bwyllgor gweithredol y blaid yng Nghymru, a gafodd ei gynnal ddydd Sadwrn, wedi pleidleisio o drwch blewyn o 12-11 o blaid amserlen mis Tachwedd.
Dywedodd y ffynhonnell fod angen arweinydd parhaol yn ei le cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi i Lafur "gael ei gwthio i ddinodedd".
Mae'r BBC ar ddeall bod Llafur wedi siarad â sawl cwmni ymgynghori ynglŷn â chynnal yr adolygiad, ac mae disgwyl iddo gymryd nifer o fisoedd i'w gwblhau.
Galwodd un ffynhonnell Llafur am "sgwrs agored" ac nid ymchwiliad a ddaeth i gasgliadau tebyg i erthygl ar ôl yr etholiad a gafodd ei ysgrifennu gan Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, a oedd yn beio polisïau Llywodraeth Cymru gan gynnwys 20mya.
Roeddent yn ofni nad oedd y rhai a oedd am gael etholiad arweinyddiaeth gyflymach eisiau cyfaddef bod problemau gyda Llafur y DU neu fod y blaid wedi colli pleidleisiau i Blaid Cymru.
Camodd y cyn-arweinydd a'r prif weinidog Eluned Morgan i lawr y diwrnod ar ôl yr etholiad ar ôl methu ag ennill sedd yn y Senedd estynedig â 96 sedd.
Dim ond o grŵp y blaid yn y Senedd y gellir dewis arweinydd Llafur Cymru, ond dim ond wyth AS sydd gan y blaid, ac eithrio'r Llywydd Huw Irranca-Davies.
Mae cyn-brif weinidog arall, Mark Drakeford, wedi galw am gynnal cystadleuaeth, wrth i'r blaid geisio ailadeiladu a dod o hyd i ffordd newydd ymlaen.
Mae Skates wedi dweud nad yw'n disgwyl y bydd cystadleuaeth arweinyddiaeth ond na fyddai'n "digio" pe bai un.
Mae sawl person blaenllaw gan gynnwys Drakeford, Stevens a chyn-aelodau'r Senedd, Alun Davies, Lee Waters a Mick Antoniw eisoes wedi siarad yn gyhoeddus am yr hyn maen nhw'n ei weld fel rhai o'r rhesymau dros golled Llafur.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.