Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw 52 oed

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Green Lane, Cil-y-coed tua 03:00 fore Iau
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth menyw 52 oed yn Sir Fynwy.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Green Lane, Cil-y-coed tua 03:00 fore Iau yn dilyn adroddiad bod menyw wedi ei chanfod yn ddiymateb.
Cadarnhaodd parafeddygon ei bod wedi marw, ac mae ei theulu wedi cael gwybod ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Dywed Heddlu Gwent bod dyn 50 oed yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
'Sicrwydd i gymunedau lleol'
"Hoffwn ni roi sicrwydd i gymunedau Cil-y-coed ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i gadarnhau amgylchiadau'r farwolaeth," meddai arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Brif Arolygydd Matthew Clarke.
"Rydym yn deall y gallai adroddiadau o'r fath beri pryder, ond rydym wedi arestio dyn o'r ardal yr oedd y dioddefwr yn ei adnabod, a dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad yma."
Ychwanegodd y bydd gan yr heddlu bresenoldeb amlwg yn yr ardal fel rhan o'r ymchwiliad.
Mae'r llu'n apelio am wybodaeth, "yn enwedig trigolion Green Lane a Heol Cae Mawr all fod wedi clywed unrhyw beth anarferol yn oriau mân ddydd Iau".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.