Siom wrth i Gymru golli yn Rwmania

Llun o dri chwaraewr Cymru gyda'u penau i lawr ar ol colli o 2-1 yn erbyn RwmaniaFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i Gymru wynebu Rwmania ers 1993

  • Cyhoeddwyd

Colli o 2-1 wnaeth tîm dynion Cymru yn eu gêm gyfeillgar yn erbyn Rwmania yn Bucharest.

Sgoriodd Adrian Rus efo peniad rhydd o gic gornel ar ôl 79 munud o'r gêm i roi'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref nos sadwrn.

Rwmania sgoriodd gyntaf wrth i'r eilydd Florinel Coman gael amser yn y cwrt i osod y bêl heibio golwr Cymru, Danny Ward.

Wnaeth Cymru unioni'r sgor wrth i foli David Brooks ganfod cefn y rhwyd yn dilyn gwaith da gan Dan James i lawr yr asgell chwith.

Cychwynnodd Cymru'r gêm yn bositif gyda Ethan Ampadu yn penio dros y trawst ac ergyd Brennan Johnson yn cael ei arbed gan y golwr Otto Hindrch.

Nid oedd Cymru yn gallu manteisio ar hyn a daeth Rwmania yn ôl i fewn i'r gêm, gyda lliman y dyfarnwr cynorthwyol yn arbed Cymru wedi i Louis Munteanu rwydo i'r tîm cartref ar ôl 28 munud.

Er i Rwmania gael cyfleoedd ar ddiwedd yr hanner cyntaf, di-sgôr oedd hi ar yr egwyl.

Llun o David Brooks yn chwarae pel-droed ar y cae yn erbyn RwmaniaFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

David Brooks sgoriodd y gôl i Gymru

Wedi i Rwmania sgorio ar gychwyn yr ail hanner doedd Cymru ddim yn edrych fel dod yn ôl i fewn i'r gêm nes i David Brooks rwydo. Daeth y gôl ag egni i'r ymwelwyr a daeth Lewis Koumas a Chris Mepham yn agos at sgorio i roi Cymru ar y blaen.

Ond Rwmania gafodd y gôl fuddugol a nifer o gyfleoedd eraill i ychwanegu mwy o goliau, gyda Danny Ward yn gwneud nifer o arbediadau.

Ar ddiwedd y gêm, roedd un cyfle hwyr i Gymru, ond cafodd ergyd Lewis Koumas ei atal a'r sgôr terfynol yn 2-1 i Rwmania.

Mae'r canlyniad yn golygu bod tîm Craig Bellamy bellach wedi mynd pedair gêm heb fuddugoliaeth, wrth iddyn nhw barhau â'u paratoadau ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.