Dathlu cerfluniau i bum Cymraes ddylanwadol

Ymgyrchwyr Monumental Welsh Women gyda cherflun y cerflunydd Billie Bond i Elizabeth Andrews
- Cyhoeddwyd
Ym mis Mehefin eleni fe ddadorchuddiwyd cerflun Elizabeth Andrews, un o ymgyrchwyr gwleidyddol benywaidd mwyaf dylanwadol Cymru ddechrau'r 20fed, ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda.
Roedd yn benllanw ymgyrch Monumental Welsh Women sydd wedi dadorchuddio pum cerflun i bump o fenywod dylanwadol yng Nghymru ers 2021.
Y bwriad oedd rhoi llais a lle i hanes merched yng Nghymru, ac yn ôl Cerith Mathias sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect ers y dechrau, mae'r ymgyrch wedi yn bod "yn fraint enfawr".
Dywedodd ar raglen Dros Ginio, Radio Cymru: "Wnaethon ni ddechre arni 10 mlynedd yn ôl nawr - mae jest yn anhygoel o feddwl bo' ni wedi cyflawni be wnaethon ni ddweud ein bod ni moyn 'neud sef codi'r pump cerflun yma mewn pum mlynedd."
Gwaddol ymgyrch Monumental Welsh Women
Wrth adlewyrchu ar waddol yr ymgyrch mae Cerith yn gobeithio ei fod wedi cychwyn sgwrs am hanes merched yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Meddai: "Dyna oedd y bwriad, mae hanes menywod Cymru falle ddim wedi cael y sylw ddyle fe wedi cael dros y blynyddoedd yn enwedig ym maes celf cyhoeddus."
Y cyntaf i gael ei dadorchuddio oedd cerflun Betty Campbell yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd yn 2021. Betty Campbell oedd prifathrawes ddu gyntaf Cymru ac roedd yn hyrwyddwraig cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cerith ar ddiwrnod dadorchuddio'r cerflun i Betty Campbell yn 2021
"Doedd dim un cerflun o fenyw gyhoeddus i'w gael mewn ddim un man gyhoeddus yng Nghymru cyn cerflun Betty Campbell.
"Yn eu hardaloedd eu hunain falle roedd pobl yn 'nabod nhw a gwybod beth oedden nhw wedi cyflawni.
"Roedden ni eisiau dod a'u llwyddiannau a'u cyflawniadau nhw i'r brig fel fod pawb yn gallu dysgu amdanyn nhw a falle cymryd bach o ysbrydoliaeth o'r pethe oedd y menywod 'ma wedi gwneud.

Dadorchuddio cerflun Emma Rodgers i Elaine Morgan
Yna gosodwyd cerflun i Elaine Morgan, sgriptwraig a damcaniaethwraig esblygiad, yn Aberpennar yn 2002, cerflun i Sarah Jane Rees (Cranogwen) - bardd, morwr, pregethwraig ac ymgyrchydd yn Llangrannog yn 2023, a cherflun i Arglwyddes Rhondda, swffragét, menyw fusnes fyd-eang ac ymgyrchydd gydol oes dros gydraddoldeb yng Nghasnewydd yn 2024.
Cerflun Elizabeth Andrews oedd yr olaf o'r pump i gael ei ddadorchuddio ym mis Mehefin eleni.

Dadorchuddio cerflun Sarah Jane Rees (Cranogwen) yn Llangrannog yn 2023
Cafodd Betty Campbell ei dewis fel y cerflun cyntaf yn dilyn pleidlais gyhoeddus a gefnogwyd gan ymgyrch Meched Mawreddog BBC Cymru.
Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae miloedd o bobl wedi gweld y cerflun trawiadol gan Eve Shepherd sydd yn sefyll yn dalog yng nghalon y brifddinas yn y Sgwâr Canolog.
Cerith sy'n cofio diwrnod dadorchuddio'r cerflun cyntaf ym mis Medi 2021:
"Oedd y diwrnod ei hunan yn anhygoel. Daeth cymaint o bobl mas i ddathlu y cerflun o Betty oedd yn hyfryd i weld ac mae'r ymateb sydd wedi bod i Betty ac i'r cerfluniau eraill wedi bod yn anhygoel.
Gwyliwch archif o Betty Campbell:
Clip archif: Betty Campbell
- Cyhoeddwyd29 Medi 2021
"Oedd gweithio ar gerflun Betty yn fraint fawr achos do'n i ddim cweit yn siŵr be' i ddisgwyl gan mai dyma'r cerflun cyntaf.
"Oedd cael gweithio gyda'i theulu ar hwnna yn rhywbeth anhygoel.
"Dwi'n cofio'r diwrnod pan ddath y cerflunydd, Eve Shepherd â dau model bach o'r cerflun mawr. Nath hi ddangos yr un cynta' ac oedd e'n hyfryd a nath hi ddangos yr ail un a dyna'r un ry'n ni'n gweld yng Nghaerdydd nawr.
"Oedd mab Betty yn eistedd gyferbyn â hi, dath dagre i'w lygid e a dyma fe'n dweud 'Dyna Mam'. Oedd e'n anhygoel gweld ymateb y teulu i'r darn yma o gelf."

Dadorchuddio gwaith y cerflunydd Jane Robbins i Arglwyddes Rhondda yng Nghasnewyd yn 2024
Gobaith Cerith yw bod y cerfluniau wedi cychwyn sgwrs am hanes merched yng Nghymru.
Meddai: "Oddan nhw i gyd yn ymgyrchwyr anhygoel, i gyd wedi newid bywydau yn eu cymunedau a newidiadau ry'n ni dal yn gweld heddi' ac i ni moyn i bobl wybod am hynne ac i drafod e, ac i edrych ar hanes merched yng Nghymru y tu hwnt i'r menywod yma."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Mehefin

- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019

- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
